Cynllunio i greu cynnwys ar gyfer gemau a phrosiectau cyfryngau rhyngweithiol

URN: SKSIM11
Sectorau Busnes (Suites): Gemau a Chyfryngau Rhyngweithiol
Datblygwyd gan: ScreenSkills
Cymeradwy ar: 30 Maw 2021

Trosolwg

​Mae'r safon hon yn ymwneud â phennu a chynllunio sut caiff cynnwys gemau neu brosiectau cyfryngau rhyngweithiol eu creu. Mae hyn yn ymwneud ag adnabod negeseuon, themâu a'r bersonoliaeth ar gyfer cynnwys, pennu'r asedau gofynnol, llunio cynllun metadata a datblygu canllawiau, arddulliau penodol a pholisïau ar gyfer gemau neu brosiectau cyfryngau rhyngweithiol.

Mae'r safon hon yn berthnasol i gemau neu gyfryngau rhyngweithiol. Gallai cyfryngau rhyngweithiol ymwneud ag unrhyw fath o gynnwys, cynnyrch neu wasanaethau cyfryngau rhyngweithiol gan gynnwys ond sydd heb ei gyfyngu i wefannau, rhaglenni, neu ymgyrchoedd marchnata ar-lein.

Gallai gemau a phrosiectau cyfryngau rhyngweithiol hefyd fod er defnydd aml-lwyfan neu aml-sianel ac ymwneud â defnyddio technoleg drochol a allai gynnwys ond sydd heb ei gyfyngu i Realiti estynedig (AR), Rhith-Wirionedd (VR) a Realiti cymysg (MR).

Mae'r safon hon ar gyfer unrhyw un sydd ynghlwm â chynllunio i greu cynnwys ar gyfer gemau neu brosiectau cyfryngau rhyngweithiol.


Meini prawf perfformiad

Mae'n rhaid eich bod chi'n gallu:

  1. ​dadansoddi gwybodaeth berthnasol am y cynnyrch er mwyn adnabod negeseuon, themâu, personoliaeth ac unrhyw agweddau priodol eraill ar gyfer prosiectau
  2. cyfathrebu gyda noddwyr y prosiect pan fo'n ofynnol er mwyn adnabod y ffactorau sy'n effeithio ar y cynnwys
  3. pennu lle mae modd defnyddio neu addasu asedau presennol i gyflawni prosiectau, gan ddwyn i ystyriaeth yr hawliau eiddo deallusol 
  4. pennu pa asedau newydd sydd angen eu datblygu i gyflawni prosiectau gan ddwyn i ystyriaeth y sgiliau gofynnol i drin â'r dechnoleg sydd ynghlwm
  5. cynhyrchu manylebau'r asedau gofynnol ar ffurfiau cyfundrefnol sydd wedi'u cymeradwyo
  6. pennu cynlluniau metadata i ddosbarthu cynnwys sy'n bodloni gofynion y cynnyrch a'r gofynion technegol 
  7. pennu cyfarwyddiadau ar ffurfiau cyfundrefnol wedi'u cymeradwyo i gynnwys metadata neu wybodaeth ategol arall gyda'r cynnwys  
  8. llunio canllaw, arddulliau penodol a pholisïau sy'n bodloni safonau'r diwydiant ar gyfer profi, defnyddioldeb a hygyrchedd
  9. cofnodi canllawiau, arddulliau penodol a'r polisïau ar gyfer cyfranwyr cynnwys sy'n eglur, yn realistig, yn berthnasol ac sy'n hawdd manteisio arno

Gwybodaeth a Dealltwriaeth

You need to know and understand:

  1. ​sut i gaffael gwybodaeth am y cynnyrch sy'n berthnasol i adnabod negeseuon, themâu a'r bersonoliaeth, a'r mathau o asedau y mae'n bosib y bydd angen eu datblygu
  2. y cyfyngiadau neu'r ystyriaethau yn sgil defnyddio llwyfannau technegol gan gynnwys galluoedd o ran y darlun, pŵer prosesu, y cyfanswm lle storio a'r cyfraddau trosglwyddo data ynghyd â'r sail dechnoleg gyfredol o ran y mudiad rydych yn gweithio iddo
  3. galluoedd, cyfleoedd a chyfyngiadau'r technolegau a'r dulliau sydd ar gael gan gynnwys cymhwyster animeiddiad amser real
  4. sut a phryd i gyfathrebu gyda noddwyr y prosiect
  5. y prosesau cyfundrefnol, problemau gydag adnoddau neu ffactorau eraill a allai effeithio ar allu parhaus noddwr y prosiect i greu, diweddaru a rheoli'r cynnwys
  6. y cydberthynas rhwng cynnwys, dylunio a thechnoleg gan gynnwys unrhyw gofynion ar gyfer lleoleiddio
  7. y gwahaniaethau gofynnol ar gyfer datblygu prototeipiau a chynnyrch terfynol
  8. yr adnoddau, y galluoedd a'r sgiliau sydd ar gael i brosiectau allu manteisio arnyn nhw
  9. safonau a chanllawiau'r diwydiant o ran amrywioldeb, cynhwysiant, defnyddioldeb, hygyrchedd a moeseg gan gynnwys y rheiny sy'n ymwneud â chyfforddusrwydd y defnyddiwr, ansawdd y profiad, deallusrwydd emosiynol a seicoleg ymddygiad
  10. defnydd testun cyfarwyddol, pan fo'n briodol, materion hygyrchedd yn ymwneud â'r darlun a sut gellir ei addasu gan ddefnyddio asedau eraill
  11. y technegau er mwyn profi'r cynnwys yn ystod y broses datblygu
  12. y safonau metadata a'r gallu i ryngweithredu a sut i ddewis neu greu cynlluniau metadata i ddosbarthu cynnwys
  13. y goblygiadau cyfreithiol a chytundebol ynghlwm â defnyddio deunydd lle mae eraill yn berchen ar yr hawliau eiddo deallusol a phryd a lle i ofyn am ganiatâd i ddefnyddio'r deunydd hwnnw

  14. y cyfyngiadau neu'r ystyriaethau sy'n codi yn sgil defnyddio system rheoli cynnwys neu gronfa ddata cynnwys


Cwmpas/ystod


Cwmpas Perfformiad


Gwybodaeth Cwmpas


Gwerthoedd


Ymddygiadau


Sgiliau


Geirfa


Dolenni I NOS Eraill


Cysylltiadau Allanol


Fersiwn rhif


Dyddiad Adolygu Dangosol

30 Maw 2026

Dilysrwydd

Ar hyn o bryd

Statws

Gwreiddiol

Sefydliad Cychwynnol

ScreenSkills

URN gwreiddiol

SKSIMT5

Galwedigaethau Perthnasol

Y Cyfryngau a Chyhoeddi, Y Celfyddydau, Technegydd AR/VR (Realiti Estynedig / Rhithwirionedd), Technegydd Effeithiau Gweledol, Gweithwyr Proffesiynol Animeiddio, Y Cyfryngau a chyfathrebu, Crefftau, y celfyddydau creadigol a dylunio, Gweithwyr Proffesiynol Gemau, Gweithwyr Proffesiynol Cyfryngau Rhyngweithiol

Cod SOC

3417

Geiriau Allweddol

cyfryngau rhyngweithiol; gemau; chwarae gemau; gwefannau, rhaglenni; marchnata ar-lein; AR/VR; 360; technoleg drochol; realiti cymysg; realiti estynedig; defnyddiwr terfynol; aml-lwyfan; aml-sianel; VFX; animeiddiad; cynnwys; cynllun; neges allweddol;