Penderfynu ar ffurf derfynol y dyluniad ar gyfer gwallt, wigiau, colur, a phrostheteg

URN: SKSHWMP3
Sectorau Busnes (Suites): Gwallt, Wigiau, Colur a Phrostheteg ar gyfer Cynyrchiadau
Datblygwyd gan: ScreenSkills
Cymeradwy ar: 30 Maw 2021

Trosolwg

​Mae'r safon hon yn ymwneud â'ch gallu i gytuno ar a chwblhau'r dyluniadau gwallt, wigiau, colur a phrostheteg ar gyfer cynyrchiadau.

Mae'r safon yn ymdrin ag egluro'r dyluniad i aelodau o dîm y cynhyrchiad a chanfod datrysiadau i broblemau wedi'u hadnabod yn ystod y gwaith ymchwil ar gyfer y cynhyrchiad. 

Mae'n ymwneud â sicrhau bod y dyluniad yn gweddu i "edrychiad" creadigol a thechnegol neu ddyluniad cyffredinol y cynhyrchiad. Mae'n ymwneud â chynllunio a rhannu gofynion eich dyluniad gan gynnwys llunio dogfennau'r cynhyrchiad. Mae'r safon hefyd yn ymdrin â chwblhau eich cyllideb a'r costau arfaethedig.

Mae'r safon hon yn fwyaf perthnasol i ddylunwyr.


Meini prawf perfformiad

Mae'n rhaid eich bod chi'n gallu:

  1. ​pennu ydy cysyniad dylunio gwallt a/neu golur yn cyfrannu tuag at ofynion y cynhyrchiad ar y cyd â thîm creadigol a thechnegol y cynhyrchiad
  2. datblygu cysyniad dylunio yn unol â genre, graddfa a math y cynhyrchiad ynghyd ag arddull weledol a dewisiadau creadigol y cyfarwyddwr a'r perfformwyr
  3. llunio eich dogfennau eich hun i ffurfio cynllun realistig pan nad oes amserlen saethu neu pan fo'r amserlen yn anghywir
  4. cytuno ar newidiadau ac ystyried eu goblygiadau gyda'r tîm gwallt, wigiau, colur a phrostheteg ac adrannau perthnasol eraill
  5. canfod datrysiadau i broblemau cyflenwi, logistaidd, creadigol neu dechnegol wrth iddyn nhw godi yn ystod y cynhyrchiad
  6. nodi neu gadarnhau'r angen am staff, cyfleusterau a'r adnoddau ychwanegol i'r bobl berthnasol
  7. cynhyrchu amseroedd galw i'r perfformwyr er mwyn cwblhau gwalltiau, wigiau, colur a phrostheteg
  8. cyflwyno cofnodion a dogfennau wedi'u cwblhau i'r bobl berthnasol

Gwybodaeth a Dealltwriaeth

You need to know and understand:

  1. ​dewisiadau creadigol y cyfarwyddwr a'r perfformwyr

  2. graddfa a math y cynhyrchiad rydych yn gweithio arno ynghyd â'i arddull weledol cyffredinol

  3. y technegau datrys problemau creadigol, logistaidd, technegol a'r problemau cyflenwi
  4. sut i gyfathrebu'r gofynion o ran gwallt, wigiau, colur a phrostheteg yn effeithiol i'r tîm, y cynhyrchiad ac unrhyw gwmnïau allanol
  5. pryd mae angen staff, cyfleusterau ac adnoddau ychwanegol
  6. sut i gadarnhau a ydy'r cyfleusterau angenrheidiol ar gael a lle i'w canfod 
  7. sut i gynnig amseroedd galw cywir ar gyfer perfformwyr
  8. sut i gydymffurfio'n effeithiol gyda chynllun lle nad oes amserlen saethu neu pan fo'r amserlen saethu'n anghywir
  9. sut i gytuno ar newidiadau ac ystyried eu goblygiadau gyda'r tîm gwallt, wigiau, colur a phrostheteg a'r adrannau perthnasol eraill
  10. pwysigrwydd penderfynu ar y gwariant a'r costau gyda'r rheiny a fyddai'n eu hawdurdodi
  11. gofynion Penaethiaid Adrannau eraill a phwysigrwydd cydweithio
  12. y canllawiau iechyd a diogelwch i gydymffurfio gyda nhw

Cwmpas/ystod


Cwmpas Perfformiad


Gwybodaeth Cwmpas


Gwerthoedd


Ymddygiadau


Sgiliau


Geirfa


Dolenni I NOS Eraill


Cysylltiadau Allanol


Fersiwn rhif


Dyddiad Adolygu Dangosol

30 Maw 2026

Dilysrwydd

Ar hyn o bryd

Statws

Gwreiddiol

Sefydliad Cychwynnol

ScreenSkills

URN gwreiddiol

SKSHM4

Galwedigaethau Perthnasol

Galwedigaethau Gwasanaeth Personol, Trinwyr gwallt a Galwedigaethau Cysylltiedig, Y Cyfryngau a Chyhoeddi, Y Celfyddydau, Y Cyfryngau a chyfathrebu, Crefftau, y celfyddydau creadigol a dylunio, Y Celfyddydau Perfformio

Cod SOC

3417

Geiriau Allweddol

ymchwil, gwallt, wigiau, prostheteg, colur, dyluniad, cysyniad dylunio, arddull weledol, iechyd a diogelwch, dylunydd