Creu dyluniad gwreiddiol ar gyfer gwallt, wigiau, colur a phrostheteg

URN: SKSHWMP2
Sectorau Busnes (Suites): Gwallt, Wigiau, Colur a Phrostheteg ar gyfer Cynyrchiadau
Datblygwyd gan: ScreenSkills
Cymeradwy ar: 30 Maw 2021

Trosolwg

​Mae'r safon hon yn ymwneud â'ch gallu i gynhyrchu a chwblhau dyluniad y gwallt, wigiau, colur a phrostheteg ar gyfer cynhyrchiad.

Mae'r safon hon hefyd yn ymdrin ag adnabod y cymeriadau a'u "hedrychiad" gofynnol o'r sgript ynghyd â deall yr edrychiad gofynnol ar gyfer gwahanol gymeriadau gan gynnwys: ethnigrwydd, cefndir cymdeithasol, cyflwr iechyd, anaf posib, cyflyrau croen, oed neu liwiad yn ôl yr amgylchedd lle caiff y cynhyrchiad ei gynnal.

Bydd yn hanfodol adnabod faint o waith sydd angen ei wneud i newid edrychiad pob perfformiwr i fodloni anghenion y cynhyrchiad, a chydnabod lle bydd angen gofynion ac effeithiau arbennig i gynhyrchu'r dyluniad. Gallai'r math o ddyluniad ddibynnu ar y genre a gallai ymdrin ag edrychiadau neu ddelweddau hanesyddol, naturiol, cyfoes neu ffugwyddonol a sut y dylai'r rhain symud, eu gwytnwch a'u diben.

Mae'r safon yn ymdrin ag amcangyfrif yr amser paratoi a'r adnoddau angenrheidiol ynghyd â thrafod syniadau ar gyfer y dyluniad gyda'r cyfarwyddwr. Mae'n ymwneud â newid y dyluniad pan fo'n briodol er mwyn bodloni syniadau'r cyfarwyddwr a chytuno ar gyfaddawdau ynghylch y dyluniad.

Mae'r safon hon yn fwyaf perthnasol i ddylunwyr.


Meini prawf perfformiad

Mae'n rhaid eich bod chi'n gallu:

  1. ​dehongli graddfa a math y cynhyrchiad rydych yn gweithio arno ynghyd â'i arddull weledol cyffredinol 
  2. adnabod y gofynion o ran gwallt, wigiau, colur a phrostheteg ar gyfer y cymeriadau neu'r perfformwyr y mae'r dyluniad yn berthnasol iddyn nhw

gwerthuso awgrymiadau a syniadau'r cyfarwyddwr ar gyfer y dyluniad gan ystyried eu dewisiadau creadigol a'u hymarferoldeb

  1. dehongli edrychiad pob cymeriad ar y cychwyn ac wrth i'r cynhyrchiad ddatblygu   

  2. sefydlu a oes yna ofynion ar gyfer dyluniad gwallt, wigiau, colur a phrostheteg arbennig ac effeithiau arbennig corfforol

  3. cynhyrchu syniadau dylunio cychwynnol sy'n gyson gyda'r sgript ac sy'n bodloni cyfarwyddyd y cyfarwyddwr
  4. amcangyfrif a chadarnhau'r amser paratoi, y gyllideb a'r adnoddau gofynnol ar gyfer y dyluniad
  5. cyflwyno'ch syniadau dylunio i'r gwneuthurwyr penderfyniadau
  6. gweithio gyda chysyniadau'r cyfarwyddwr a chyfyngiadau'r cynhyrchiad yn eich dyluniad pan fo'n ofynnol
  7. egluro'r goblygiadau'r dyluniad y cytunwyd arno o ran yr amser a'r gyllideb i dîm y cynhyrchiad
  8. trin a thrafod a chytuno ar gyllidebau a graddfeydd amser ynghyd ag annog y cyfarwyddwyr i gytuno ar syniadau sydd o fewn y gyllideb ac sy'n ymarferol o ran logisteg
  9. cofnodi'r syniad dylunio y cytunwyd arno gyda'r cyfarwyddwr
  10. cadw cofnod o'r holl arian gafodd ei wario yn ystod y cynhyrchiad a chyflwyno dadansoddiad terfynol o'r gyllideb
  11. sicrhau y caiff y gofynion dylunio eu rhannu gyda'r tîm
  12. cysylltu gyda'r bobl berthnasol i gyflawni'r dyluniad gofynnol
  13. creu a chynnal amgylchedd gwaith diogel ar gyfer y tîm gwallt, wigiau, colur a phrostheteg.

Gwybodaeth a Dealltwriaeth

You need to know and understand:

  1. ​sut i lunio dadansoddiad o'r sgript
  2. dadansoddiad o'r sgript, y gyllideb a'r amserlen ar gyfer y dyluniad
  3. math, graddfa ac arddull weledol y cynhyrchiad
  4. dewisiadau creadigol y cyfarwyddwr a'u hymarferoldeb
  5. sut i ddehongli edrychiad ac edrychiad gofynnol pob cymeriad
  6. effaith posib amser y stori ar edrychiad unrhyw gymeriad
  7. a oes angen unrhyw golur arbennig, dyluniad gwallt neu effeithiau arbennig a phwy i gyfathrebu gyda nhw ar gyfer y gwaith hwn
  8. sut i lunio syniadau dylunio cychwynnol sy'n gyson gyda'r sgript ac sy'n ystyriol o'i chymeriadaeth
  9. sut i gyflwyno'ch syniadau dylunio i'r gwneuthurwyr penderfyniadau
  10. sut a phryd i gyfaddawdu gan newid eich syniadau i fodloni cysyniadau'r cyfarwyddwr a chyfyngiadau'r cynhyrchiad
  11. sut i gofnodi syniadau'r dyluniad, y cytunwyd arnyn nhw, yn gywir 
  12. sut i drin a thrafod y cyllidebau a'r graddfeydd amser ar gyfer eich gwaith a gyda phwy y dylech chi eu trin a thrafod
  13. sut i egluro goblygiadau'r dyluniad o ran amser a'r gyllideb gyda thîm y cynhyrchiad
  14. pwy y dylech chi gyfathrebu gyda nhw ynghylch unrhyw broblemau gallai godi i'r adran gwallt, wigiau, colur a phrostheteg 
  15. y ddeddfwriaeth iechyd a diogelwch, y polisïau a'r canllawiau ar gyfer y cynhyrchiad a sut i rannu'r rhain gyda'r tîm
  16. sut i sicrhau cyfathrebu effeithiol rhwng y tîm

Cwmpas/ystod


Cwmpas Perfformiad


Gwybodaeth Cwmpas


Gwerthoedd


Ymddygiadau


Sgiliau


Geirfa


Dolenni I NOS Eraill


Cysylltiadau Allanol


Fersiwn rhif


Dyddiad Adolygu Dangosol

30 Maw 2026

Dilysrwydd

Ar hyn o bryd

Statws

Gwreiddiol

Sefydliad Cychwynnol

ScreenSkills

URN gwreiddiol

SKSHM3

Galwedigaethau Perthnasol

Galwedigaethau Gwasanaeth Personol, Trinwyr gwallt a Galwedigaethau Cysylltiedig, Y Cyfryngau a Chyhoeddi, Y Celfyddydau, Y Cyfryngau a chyfathrebu, Crefftau, y celfyddydau creadigol a dylunio, Y Celfyddydau Perfformio

Cod SOC

3417

Geiriau Allweddol

ymchwil, gwallt, wigiau, prostheteg, colur, dyluniad, cysyniad y dyluniad, arddull weledol, iechyd a diogelwch