Defnyddio technegau ar wallt perfformiwr er mwyn creu edrychiad gwahanol

URN: SKSHWMP11
Sectorau Busnes (Suites): Gwallt, Wigiau, Colur a Phrostheteg ar gyfer Cynyrchiadau
Datblygwyd gan: ScreenSkills
Cymeradwy ar: 30 Maw 2021

Trosolwg

Mae'r safon hon yn ymwneud â'ch gallu i gyflawni amryw ddulliau torri, lliwio, gosod a thrin i greu gwahanol edrychiad i wallt y perfformiwr ar gyfer cynyrchiadau.  

Mae'r safon hon hefyd yn ymwneud â sicrhau bod perfformwyr yn gyfforddus ac yn gwbl ymwybodol o'r broses. Mae'n ymwneud â chydnabod priodweddau gwahanol fathau a gweadau gwallt gan gynnwys mathau cyrliog. Yn ogystal mae'n ymwneud â deall a dewis y cyfarpar, nwyddau a'r dulliau priodol i dorri, lliwio dros dro, gosod a thrin y gwallt.   

Mae hefyd yn ymdrin â sicrhau y caiff steil y gwallt ei gynnal o dan amodau'r cynhyrchiad. Mae angen dwyn i ystyriaeth y gofynion iechyd a diogelwch wrth dorri, lliwio dros dro, gosod a thrin gwallt.

Mae'r safon hon ar gyfer y rheiny sydd wedi cwblhau hyfforddiant cychwynnol ac sy'n meddu ar sgiliau a phrofiad o drin gwallt.

Mae'r safon hon yn berthnasol i'r holl rolau ond mae'n fwyaf perthnasol i gynorthwywyr gwallt.


Meini prawf perfformiad

Mae'n rhaid eich bod chi'n gallu:

  1. ​cytuno ar a dewis y technegau torri, gosod, lliwio a thrin er mwyn bodloni gofynion y dyluniad gyda'r unigolyn perthnasol
  2. cytuno ar a dewis y cyfarpar a'r nwyddau gofynnol gyda'r dylunydd er mwyn creu'r edrychiad a'r effaith y cytunwyd arnyn nhw
  3. cynghori'r perfformiwr ynghylch y technegau a'r nwyddau gwallt rydych yn bwriadu eu defnyddio
  4. gwirio croen y perfformiwr am unrhyw adweithiau niweidiol posib i'r nwyddau rydych yn bwriadu eu defnyddio
  5. gweithredu'n briodol ac ar unwaith os bydd nwyddau yn achosi adweithiau niweidiol
  6. sicrhau bod y perfformiwr mor gyfforddus â phosib pan fyddwch yn ail-steilio'u gwallt
  7. paratoi'r gwallt ar gyfer y technegau rydych chi wedi'u dewis
  8. gweithredu'r technegau y cytunwyd arnyn nhw gyda'r unigolyn perthnasol gan ddefnyddio dulliau diogel ac sydd wedi'u cymeradwyo
  9. defnyddio technegau steilio a gosod er mwyn cyflawni'r edrychiad a'r dyluniad y cawsoch chi eich cyfarwyddo i'w creu
  10. monitro a chynnal a chadw'r steil gwallt gofynnol drwy gydol y cynhyrchiad a gweithredu camau adfer lle bo'n briodol
  11. cynnal a chadw'r cyfarpar, yr offer a'r cynnyrch er dibenion diogelwch a hylendid
  12. cyfathrebu gyda lliw-wyr a steilwyr allanol lle bo angen er mwyn cyflawni'r technegau steilio, torri a lliwio cywir

Gwybodaeth a Dealltwriaeth

You need to know and understand:

  1. ​y gofynion dylunio y bu i'r unigolyn perthnasol eu rhannu gyda chi
  2. cyfyngiadau amserlen y cynhyrchiad o ran amser a'r gyllideb
  3. sut i gyflawni gwiriadau ar y croen
  4. pa weithrediadau i'w cyflawni pan gaiff y croen ei niweidio
  5. y ddeddfwriaeth, polisïau a'r canllawiau iechyd a diogelwch sy'n berthnasol i'r dulliau a thechnegau torri, gosod, lliwio dros dro a thrin
  6. y dulliau ar gyfer torri, gosod, lliwio a thrin gwallt ar gyfer steilio a dilyniant yn ystod y cynhyrchiad
  7. sut i drin a defnyddio gwahanol gyfarpar a chynnyrch
  8. y gwahanol gynnyrch a'r technegau steilio a gorffen i gyflawni'r dyluniad gofynnol
  9. pwysigrwydd dilyn cyfarwyddiadau ar sut i gynnal y steil gorffenedig drwy gydol y cynhyrchiad er dilyniant
  10. sut a phryd i newid eich dyluniad er mwyn bodloni gofynion y cynhyrchiad
  11. dulliau cynnal a chadw'r cyfarpar a'r cynnyrch yn lân ac yn ddiogel
  12. yr arbenigwyr y dylech chi gyfathrebu gyda nhw'n allanol ynghylch lliwio a steilio'r gwallt

Cwmpas/ystod


Cwmpas Perfformiad


Gwybodaeth Cwmpas


Gwerthoedd


Ymddygiadau


Sgiliau


Geirfa


Dolenni I NOS Eraill


Cysylltiadau Allanol


Fersiwn rhif


Dyddiad Adolygu Dangosol

30 Maw 2026

Dilysrwydd

Ar hyn o bryd

Statws

Gwreiddiol

Sefydliad Cychwynnol

ScreenSkills

URN gwreiddiol

SKSHM9

Galwedigaethau Perthnasol

Trinwyr gwallt a Galwedigaethau Cysylltiedig, Galwedigaethau Gwasanaethau Personol, Y Cyfryngau a Chyhoeddi, Y Celfyddydau, Y Cyfryngau a chyfathrebu, Crefftau, y celfyddydau creadigol a dylunio, Y Celfyddydau Perfformio

Cod SOC

3417

Geiriau Allweddol

gwallt, steil gwallt, gofynion dylunio, edrychiad, perfformiad, cynorthwyydd gwallt , gosod, torri, lliwio, iechyd a diogelwch