Ymchwilio syniadau i gyfrannu tuag at ddatblygu dyluniadau gwallt, wigiau, colur a phrostheteg ar gyfer cynyrchiadau

URN: SKSHWMP1
Sectorau Busnes (Suites): Gwallt, Wigiau, Colur a Phrostheteg ar gyfer Cynyrchiadau
Datblygwyd gan: ScreenSkills
Cymeradwy ar: 30 Maw 2021

Trosolwg

​Mae'r safon hon yn ymwneud â'ch gallu i archwilio elfennau creadigol y cysyniad dylunio.

Mae'n ymwneud ag ymchwilio cyfnod y stori, y genre ac unrhyw ofynion arbennig eraill gan gynnwys agweddau creadigol y dyluniad.

Mae angen canfod a allai llogwyr, gwneuthurwyr neu fasnachwyr gyflenwi'r cysyniad dylunio gan gadw at y gyllideb ac amserlen y cynhyrchiad.

Mae hefyd gofyn ichi ganfod a ydy'r staff a'r cyfleusterau sydd eu hangen arnoch chi ar gael.

Mae'r safon yn berthnasol i sawl rôl ond mae'n fwyaf perthnasol i rôl dylunwyr neu artistiaid gwallt a cholur.


Meini prawf perfformiad

Mae'n rhaid eich bod chi'n gallu:

  1. ​casglu'r holl ffynonellau angenrheidiol i ymchwilio agweddau creadigol y dyluniad yn seiliedig ar gysyniad dylunio gwreiddiol y cynhyrchiad  2. casglu gwybodaeth am gyfnod a genre y cynhyrchiad sy'n gysylltiedig â'r gofynion dylunio er mwyn gwneud penderfyniadau ynghylch y dyluniad creadigol 3. annog y perfformwyr i egluro'u syniadau am y cymeriad a sut byddan nhw'n perfformio'r cymeriad 4. cyfuno'r ymchwil i gynhyrchu'r dyluniad terfynol gan wirio bod hyn yn bodloni'r syniad dylunio gwreiddiol y cytunwyd arno gyda'r cyfarwyddwr 5. sicrhau y caiff y gofynion dylunio eu rhannu gyda'r tîm ac unrhyw gyflenwyr allanol 6. sicrhau y caiff unrhyw newidiadau i'r dyluniad gwreiddiol eu cytuno gyda'r cyfarwyddwr, pan gaiff y rhain eu cyfiawnhau gan ganlyniadau'r ymchwil 7. asesu a ydy'r cyfleusterau ar gyfer gwallt a/neu golur yn ddigonol, bod digonedd ohonyn nhw a’u bod nhw o'r ansawdd priodol i gyflawni'r cysyniad dylunio ynghyd â gwneud argymhellion ar gyfer addasiadau fel sy'n briodol 8. pennu'r gofynion gwallt, wigiau, colur a phrostheteg arbennig ac angenrheidiol ar gyfer effeithiau 9. canfod ffynonellau cyflenwi amgen pan nad yw‘r cyflenwyr yn gallu bodloni’ch gofynion 10. rheoli diffygion o ran niferoedd ac ansawdd yr adnoddau

Gwybodaeth a Dealltwriaeth

You need to know and understand:

  1. ​cysyniad dylunio gwreiddiol y cynhyrchiad
  2. cyfyngiadau'r cynhyrchiad o ran amser a'r gyllideb
  3. graddfa, math ac arddull weledol y cynhyrchiad
  4. cyfnod amser a genre y cynhyrchiad ynghyd â goblygiadau hyn ar gyfer y dyluniad
  5. sut i ddehongli'r wybodaeth rydych chi wedi'i chasglu a'i hymchwilio i fodloni'r syniad dylunio gwreiddiol y cytunwyd arno gyda'r cyfarwyddwr
  6. sut i egluro'r cyfarwyddyd dylunio i'r tîm a chwmnïau allanol
  7. dewisiadau creadigol y cyfarwyddwr a'r perfformwyr
  8. y cyflenwyr posibl a’r cwmnïau arbenigol y gallwch fanteisio arnyn nhw
  9. sut i sicrhau bod staff digonol gyda'r sgiliau angenrheidiol i gyflawni'r cysyniad dylunio
  10. a oes angen gofynion ac effeithiau arbennig o ran gwallt, wigiau, colur a phrostheteg 
  11. sut i weithredu pan fo diffygion o ran nifer ac ansawdd y deunyddiau, staff neu'r cyfleusterau
  12. sut i leihau gwastraff
  13. y ddeddfwriaeth, y polisïau a'r canllawiau iechyd a diogelwch ar gyfer y cynhyrchiad

Cwmpas/ystod


Cwmpas Perfformiad


Gwybodaeth Cwmpas


Gwerthoedd


Ymddygiadau


Sgiliau


Geirfa


Dolenni I NOS Eraill


Cysylltiadau Allanol


Fersiwn rhif


Dyddiad Adolygu Dangosol

30 Maw 2026

Dilysrwydd

Ar hyn o bryd

Statws

Gwreiddiol

Sefydliad Cychwynnol

ScreenSkills

URN gwreiddiol

SKSHM2

Galwedigaethau Perthnasol

Galwedigaethau Gwasanaeth Personol, Trinwyr gwallt a Galwedigaethau Cysylltiedig, Y Cyfryngau a Chyhoeddi, Y Celfyddydau, Y Cyfryngau a chyfathrebu, Y Celfyddydau Perfformio

Cod SOC

3417

Geiriau Allweddol

ymchwil, gwallt, wigiau, prostheteg, colur, dylunio, cysyniad dylunio, arddull weledol, iechyd a diogelwch