Rheoli gwaith timau yn y diwydiannau creadigol

URN: SKSGS8
Sectorau Busnes (Suites): Cyfryngau Creadigol
Datblygwyd gan: ScreenSkills
Cymeradwy ar: 31 Maw 2019

Trosolwg

​Mae'r Safon hon yn ymwneud â rheoli gwaith eich tîm ac ystyried sut mae modd gwella perfformiad eich tîm.

Mae'n ymwneud â gofalu bod eich tîm yn cydymffurfio gyda gofynion y cyfarwyddyd. Hefyd, pan na fydd eich tîm yn cydymffurfio gyda'r gofynion hyn, mae'r safon yn ymwneud ag ymchwilio'r rhesymau dros hyn drwy gyfathrebu gydag aelodau priodol o'ch tîm.

Mae'r safon hefyd yn ymwneud ag ystyried ffyrdd o wella ansawdd y gwaith a dulliau gweithio a thrafod hyn gyda'ch tîm ac unigolion eich tîm mewn dull cadarnhaol. Mae gofyn ichi gydymffurfio gyda'r holl ddeddfwriaeth iechyd a diogelwch a gwaith perthnasol wrth ichi reoli eich tîm.


Meini prawf perfformiad

Mae'n rhaid eich bod chi'n gallu:

  1. rhoi gwybod i'ch tîm am gwmpas eu cyfrifoldebau swydd mewn ffordd sy'n hyrwyddo perthnasau gweithio effeithiol

  2. rhoi gwybod i'ch tîm y byddwch yn monitro eu perfformiad yn y gwaith

  3. gofalu eich bod yn cynnal asesiadau risg ynghylch gwaith eich tîm a bod eich tîm yn cydymffurfio gyda deddfwriaeth iechyd a diogelwch perthnasol wrth weithio
  4. datblygu cynllun gwaith yn ymwneud â chi a'ch tîm
  5. gofalu bod holl aelodau'ch tîm yn ymwybodol o'r gweithgareddau penodol maen nhw'n gyfrifol amdanyn nhw
  6. cynnig cyfleoedd i unigolion i gyfrannu o ystyried eu datblygiad personol eu hun
  7. cynnig cyngor ac arweiniad ar adegau sy'n briodol i anghenion y cyfarwyddyd a'r unigolyn
  8. gofalu bod eich tîm yn ymwybodol o'r weithdrefn yn ymwneud â mynd i'r afael â phroblemau a phwy ddylech chi eu hysbysu am broblemau o'r fath
  9. lle nad ydy aelod(au) o'ch tîm yn bodloni gofynion y cyfarwyddyd, bydd angen ichi drafod hyn gydag aelod eich tîm i ganfod y rheswm dros hyn
  10. gwerthuso'r rhesymau gan aelod eich tîm ac ystyried sut ddylech chi weithredu er mwyn cynorthwyo gyda chyflawni'r cyfarwyddyd a bod yr unigolyn yn cyflawni
  11. cynnig adborth i'ch tîm cyfan ynghylch y cynhyrchiad cyffredinol a'i gynnydd
  12. ymgynghori gyda'ch tîm ar awgrymiadau i wella perfformiad yn y dyfodol
  13. canfod cyfleoedd i wella cynhyrchiant a llif gwybodaeth

Gwybodaeth a Dealltwriaeth

You need to know and understand:

  1. ​sgiliau eich tîm a'u cwmpas o ran cyfrifoldebau swydd
  2. sut i rannu gofynion y cyfarwyddyd ac arddull creadigol gyda'ch tîm a chadarnhau eu bod yn deall
  3. sut i ddatblygu cynllun gwaith sy'n cynnig manylion eglur o ddyletswyddau a chyfrifoldebau
  4. pwysigrwydd cynnig cyfle i unigolion gyfrannu ac ysbrydoli eu datblygiad personol

  5. y person sy'n gyfrifol am gynnal asesiadau risg ac eich cyfrifoldebau iechyd a diogelwch o ran pobl eraill

  6. pwysigrwydd rhoi gwybod i'ch tîm y byddwch chi'n monitro eu perfformiad, beth fyddwch chi'n chwilio amdanyn nhw a sut gallan nhw dderbyn adborth
  7. gweithredu priodol yn sgil perfformiad anfoddhaol gan aelod o'r tîm
  8. deddfwriaeth, rheoliadau a chodau ymarfer sy'n berthnasol i reoli pobl eraill a'r gwaith gaiff ei gyflawni

Cwmpas/ystod


Cwmpas Perfformiad


Gwybodaeth Cwmpas


Gwerthoedd


Ymddygiadau


Sgiliau


Geirfa


Dolenni I NOS Eraill


Cysylltiadau Allanol


Fersiwn rhif


Dyddiad Adolygu Dangosol

30 Maw 2022

Dilysrwydd

Ar hyn o bryd

Statws

Gwreiddiol

Sefydliad Cychwynnol

ScreenSkills

URN gwreiddiol

SKSSGW5

Galwedigaethau Perthnasol

Ffotograffydd, Technegydd ffotograffig

Cod SOC

3417

Geiriau Allweddol

Timau, Rheoli, Cyfrifoldebau