Gweithio’n effeithiol yn y diwydiannau creadigol

URN: SKSGS3
Sectorau Busnes (Suites): Cyfryngau Creadigol
Datblygwyd gan: ScreenSkills
Cymeradwy ar: 31 Maw 2019

Trosolwg

Mae’r Safon hon yn ymdrin â deall eich dyletswyddau yn ymwneud â phob prosiect a sut mae’n berthnasol i ddyletswyddau ac adrannau eraill. Sut rydych yn mynd ati i gyflawni eich gwaith mewn ffordd gynhyrchiol ac ymateb yn gadarnhaol i ofynion ac amgylchiadau newidiol. Hefyd mae’n rhaid ichi ofalu eich bod yn ymwybodol o’r newidiadau diweddaraf yn ymwneud ag ymarferion y diwydiant. 


Meini prawf perfformiad

Mae'n rhaid eich bod chi'n gallu:

  1. rheoli eich amser a chyfraniad eich hun gan ofalu bod eich gwaith yn effeithio'n gadarnhaol ar eraill ynghlwm
  2. gofalu caiff eich gwaith ei gyflwyno'n brydlon a'i fod yn bodloni'r cyfarwyddyd
  3. rhannu gwybodaeth a sgiliau gydag eraill rydych yn gweithio gyda nhw a chofio gofyn am help pan mae ei angen arnoch chi
  4. dehongli problemau a chanfod datrysiadau i gyflawni'r deilliannau dymunol yn y modd gorau posib
  5. rhannu gwaith gydag eraill pan fo'n briodol a defnyddio adborth yn adeiladol er mwyn adolygu gwaith pan fo angen
  6. gofalu eich bod yn hyblyg, addasadwy a chadarnhaol ynghylch cyfeiriadau newydd, gofynion creadigol a datblygiadau technegol
  7. adnabod pan gaiff newidiadau wedi'u ceisio gan eraill effaith niweidiol ar y gyllideb, graddfeydd amser, deilliannau  neu rannau eraill y gwaith. Cofiwch gyhoeddi hyn mewn ffordd briodol
  8. cadw a chynnig gwaith i eraill mewn ffordd briodol ar gyfer y swydd a mudiad rydych yn gweithio iddyn nhw
  9. cadw gwybodaeth sensitif yn gyfrinachol yn unol â gweithdrefnau cyfundrefnol a gofynion diogelu data
  10. gofyn am help neu gyngor pan nad ydych chi'n meddu ar y wybodaeth neu arbenigedd yn effeithio ar yr amserlen, cyllideb neu ansawdd
  11. gofalu eich bod yn ymwybodol o'r ymarferion newydd a diweddaraf ynghyd â'r newidiadau mewn meddalwedd a thechnoleg gysylltiedig  
  12. datblygu ethos i ddysgu a dod o hyd i gyfleoedd dysgu a rhwydweithio gan adnabod y rheiny a fydd mwyaf buddiol ichi

Gwybodaeth a Dealltwriaeth

You need to know and understand:

  1. y gofynion o ran dyluniad
  2. yr hynny sydd ar ddyfod neu lif gwaith a sut mae eich dyletswydd chi a dyletswydd eraill yn berthnasol iddo
  3. sut bydd angen ichi newid eich dyletswydd a chyfrifoldebau o bosib er mwyn trin gwahanol ofynion y darnau amrywiol o waith
  4. goblygiadau eich penderfyniadau ynghylch y gyllidebau ac adnoddau rydych yn ymwneud gyda nhw
  5. y cyfarwyddyd ar gyfer y gwaith a sut i ddehongli gofynion a pharamedrau
  6. sut a phryd i ofyn cwestiynau er mwyn gwella eich ymarfer
  7. sut i ymateb yn briodol ac ymdrin â sylwadau negatif a cheisiadau ychwanegol
  8. sut i addasu llif gwaith neu waith sydd ar ddyfod a chynllunio datrysiadau er mwyn mynd i'r afael â digwyddiadau annisgwyl
  9. sut i weithio fel rhan o dîm
  10. sut i adnabod pryd mae modd ail-ddefnyddio neu addasu syniadau neu waith blaenorol
  11. sut i gadw gwaith 
  12. goblygiadau deddfwriaethau a rheoliadau cyfredol yn ymdrin â Diogelu Data
  13. sut i ddefnyddio adnoddau ar-lein i ddysgu awgrymiadau a chanfod beth mae pobl eraill yn ei wneud
  14. Ksut i gwestiynu a herio penderfyniadau eraill mewn ffordd adeiladol a phryd byddai'n briodol ichi wneud hynny
  15. cyfyngiadau'r feddalwedd rydych yn ei ddefnyddio o ran eich gwaith a lle gallwch weithio
  16. ffynonellau gwybodaeth ynghylch datblygiadau yn y diwydiant
  17. cyfleoedd rhwydweithio a dysgu sydd ar gael a sut i fanteisio arnyn nhw

Cwmpas/ystod


Cwmpas Perfformiad


Gwybodaeth Cwmpas


Gwerthoedd


Ymddygiadau


Sgiliau


Geirfa


Dolenni I NOS Eraill


Cysylltiadau Allanol


Fersiwn rhif


Dyddiad Adolygu Dangosol

30 Maw 2022

Dilysrwydd

Ar hyn o bryd

Statws

Gwreiddiol

Sefydliad Cychwynnol

ScreenSkills

URN gwreiddiol

SKSGS3

Galwedigaethau Perthnasol

Y Celfyddydau, Cyfryngau a Chyhoeddi, Technegydd AR/VR (Realiti Estynedig / Rhithwirionedd)

Cod SOC

3417

Geiriau Allweddol

Dyletswydd, Llif gwaith, Newidiadau, Mudiad