Cynnig cyfeiriad creadigol a strategol ar gyfer prosiectau’r diwydiant creadigol

URN: SKSGS17
Sectorau Busnes (Suites): Cyfryngau Creadigol
Datblygwyd gan: ScreenSkills
Cymeradwy ar: 31 Maw 2019

Trosolwg

​Mae'r Safon hon yn ymwneud â'ch gallu i ddeall a rhagnodi gofynion creadigol a masnachol lefel uchel a/neu ddiben y cynnyrch. 

I gyflawni hyn, byddwch yn trafod gyda'r cleient neu noddwyr eraill y prosiect. Mae angen ichi lunio syniadau syniadol, fel arfer wrth ymgynghori gydag eraill gan gyfuno meddwl creadigol a rhesymegol.

Bydd angen ichi gyflwyno dogfennau ysgrifenedig neu ar ffurf lluniau, goruchwylio timau prosiect ac arbenigwyr a gofalu caiff amcanion busnes y prosiect a gweledigaeth greadigol eu deall a'u cynnal a chadw. Bydd angen ichi gyfuno disgyblaethau arbenigedd mewn busnes, rheoli, cynnwys, dylunio a thechnoleg. Mae'r gweithrediad hwn yn debyg i reoli prosiect 'pur' ond mae'n canolbwyntio ar ofynion creadigol y prosiect yn hytrach na mecaneg cynnal y prosiect. Fodd bynnag, caiff y ddau weithrediad eu cyfuno yn aml yn ymarferol.


Meini prawf perfformiad

Mae'n rhaid eich bod chi'n gallu:

  1. adnabod a rhagnodi paramedrau dylunio, technegol a masnachol perthnasol
  2. meddwl am ddatrysiadau i fodloni gofynion o fewn paramedrau dylunio perthnasol
  3. dewis y technolegau a dulliau mwyaf priodol er mwyn cyflawni'r gwaith
  4. egluro gofynion y gwaith mewn ffordd eglur a chryno
  5. trafod gyda rheolwyr prosiect a staff rheoli strategol, creadigol a thechnegol er mwyn gofalu bod y gofynion yn eglur ac mae modd eu rhoi ar waith yn effeithiol
  6. trafod gyda noddwyr prosiect allanol a/neu fewnol er mwyn cadarnhau eu gofynion a disgwyliadau  
  7. trafod gyda'r cleient er mwyn derbyn cymeradwyaeth am y gwaith
  8. gwerthuso a chynnig adborth adeiladol ar waith creadigol a thechnegol wedi'i gyflawni gan eraill
  9. argymell newidiadau diichonol o ran dyluniad pan fo'n briodol

Gwybodaeth a Dealltwriaeth

You need to know and understand:

  1. ​yr adnoddau a graddfeydd amser gofynnol er mwyn cyflawni'r gwaith
  2. y gwahanol sgiliau arbenigol mae'n debyg fydd yn ofynnol ar gyfer prosiect penodol
  3. anghenion a disgwyliadau staff dylunio a chynhyrchu eich mudiad  
  4. natur busnes y cleient a'r cyd-destun gofynnol o ran y cynnyrch
  5. sut i gyfathrebu'n effeithiol gyda'r wahanol bobl sydd ynghlwm â'r gwaith datblygu
  6. sut i werthuso gwaith creadigol a thechnegol er mwyn gofalu ei fod yn addas i'r diben ac yn bodloni'r gofynion
  7. sut i gysoni gofynion cleientiaid, defnyddwyr a masnachwyr
  8. y gwahanol dechnolegau, llwyfannau, gwasanaethau ar-lein, offer, ffurfiau a dulliau creadigol neu dechnegol sydd ar gael a'u manteision, anfanteision a goblygiadau
  9. sut i adnabod pa dechnolegau, offer a dulliau creadigol neu dechnegol a fyddai'n fwyaf priodol i'w defnyddio
  10. sut i gyflwyno gwaith i'w gymeradwyo, rheoli ceisiadau am newidiadau a derbyn cymeradwyaeth terfynol
  11. tueddiadau cyfredol a disgwyliedig o ran y dyluniad, cysyniadau a thechnoleg ar gyfer y diwydiant 
  12. yr angen i ddwyn i ystyriaeth darpariaeth aml-sianel ac effaith tebygol hyn ar y dyluniad a'r datblygiad
  13. pwysigrwydd rheolaeth prosiect cadarn, gan gynnwys yr angen i dderbyn cymeradwyaeth ar gyfer un cyfnod allweddol cyn mynd rhagddi gyda'r cyfnod nesaf
  14. pwysigrwydd cyfarwyddyd creadigol cryf a chyfrifoldebau atebolrwydd amlwg yn y tîm
  15. trosolwg o brosesau rheoli prosiect a methodolegau fel y fethodoleg rhaeadr a methodoleg chwim

Cwmpas/ystod


Cwmpas Perfformiad


Gwybodaeth Cwmpas


Gwerthoedd


Ymddygiadau


Sgiliau


Geirfa


Dolenni I NOS Eraill


Cysylltiadau Allanol


Fersiwn rhif


Dyddiad Adolygu Dangosol

30 Maw 2022

Dilysrwydd

Ar hyn o bryd

Statws

Gwreiddiol

Sefydliad Cychwynnol

ScreenSkills

URN gwreiddiol

SKSGC1

Galwedigaethau Perthnasol

Y Celfyddydau, Cyfryngau a Chyhoeddi, Technegydd AR/VR (Realiti Estynedig / Rhithwirionedd), Technegydd Effeithiau Gweledol

Cod SOC

3417

Geiriau Allweddol

Prosiect, Creadigol, Strategol, Gynllunio