Cytuno ar ofynion a pharamedrau ynghylch gweithgareddau dylunio yn y diwydiannau creadigol

URN: SKSGS16
Sectorau Busnes (Suites): Cyfryngau Creadigol
Datblygwyd gan: ScreenSkills
Cymeradwy ar: 31 Maw 2019

Trosolwg

​Mae'r Safon hon yn ymwneud â chaffael, dadansoddi a dehongli'r cyfarwyddyd creadigol a gwybodaeth berthnasol er mwyn adnabod y fframwaith cyffredinol, gofynion a pharamedrau ar gyfer eich gwaith a gofalu bod yr arddull ac effaith yn briodol.


Meini prawf perfformiad

Mae'n rhaid eich bod chi'n gallu:

  1. ​cadarnhau a dadansoddi gwybodaeth ar ofynion a pharamedrau, gan gynnwys unrhyw ofynion, ffactorau a chyfleoedd arbennig a fydd yn effeithio ar natur a gweithrediad yr allbynnau creadigol

  2. egluro a chadarnhau gwybodaeth amhendant, amwys neu goll ar ofynion a pharamedrau

  3. pennu gofynion ar gyfer cysondeb
  4. egluro a chadarnhau arddull gweledol a'r effaith arfaethedig gyda gwneuthurwyr penderfyniadau priodol
  5. adnabod nodweddion dymunol o wybodaeth a manylion perthnasol
  6. manteisio ar gyngor arbenigol pan gaiff problemau penodol eu hadnabod sydd y tu hwnt i'ch arbenigedd personol chi
  7. adnabod ac asesu allbynnau creadigol, datrysiadau technegol neu dechnegau blaenorol wnaeth lwyddo mewn amgylchiadau tebyg yn ôl eu perthnasedd
  8. datblygu athroniaeth a manyleb sy'n diwallu anghenion y prosiect
  9. gofalu bod modd cyflawni'r gwaith o fewn cyfyngiadau cost ac amser y prosiect
  10. cydnabod a chadarnhau unrhyw newidiadau wedi'u ceisio gan y gwneuthurwyr penderfyniadau yn eglur a'u cynnwys mewn manylebau gofynion
  11. adnabod cyfleoedd pellach i ddefnyddio allbynnau creadigol pan fo'n briodol er mwyn gwella'r llwyddiannau creadigol a masnachol

Gwybodaeth a Dealltwriaeth

You need to know and understand:

  1. ​amcanion yr allbwn creadigol a'r dibenion artistig y bydd gofyn iddo'i gefnogi
  2. sut i fanteisio ar, dadansoddi a dehongli'r cyfarwyddyd creadigol a gwybodaeth berthnasol
  3. pwy ydy'r gwneuthurwyr penderfyniadau a sut i egluro gofynion, arddull gweledol a pharamedrau gyda nhw
  4. sut i addasu gofynion pan fo newidiadau gofynnol gan wneuthurwyr penderfyniadau a'r gweithredoedd priodol pan nad oes modd bodloni'r cais am newid
  5. sut mae ffactorau a chyfleoedd yn amrywio i weddu i wahanol gynyrchiadau
  6. sut i adnabod effaith gofynion y cynhyrchiad, paramedrau a chynllunio, paramedrau a chynlluniau ar ddatblygiad allbynnau creadigol
  7. ffynonellau gwybodaeth ar allbynnau creadigol a datrysiadau technegol presennol
  8. medrau a chyfyngiadau technoleg arfaethedig a thechnegau sydd ar gael
  9. sut i werthuso allbynnau creadigol a datrysiadau technegol presennol ynghyd â datrysiadau syniadol arfaethedig o ran perthnasedd

Cwmpas/ystod


Cwmpas Perfformiad


Gwybodaeth Cwmpas


Gwerthoedd


Ymddygiadau


Sgiliau


Geirfa


Dolenni I NOS Eraill


Cysylltiadau Allanol


Fersiwn rhif


Dyddiad Adolygu Dangosol

30 Maw 2022

Dilysrwydd

Ar hyn o bryd

Statws

Gwreiddiol

Sefydliad Cychwynnol

ScreenSkills

URN gwreiddiol

SKSGC2

Galwedigaethau Perthnasol

Technegwyr Gwyddoniaeth a Pheirianneg, Y Celfyddydau, Cyfryngau a Chyhoeddi, Technegydd AR/VR (Realiti Estynedig / Rhithwirionedd), Technegydd Effeithiau Gweledol

Cod SOC

3417

Geiriau Allweddol

Gweithgaredd, Paramedrau, Amcanion, Cyfarwyddyd