Datblygu a defnyddio rhwydweithiau proffesiynol yn y diwydiannau creadigol

URN: SKSGS12
Sectorau Busnes (Suites): Cyfryngau Creadigol
Datblygwyd gan: ScreenSkills
Cymeradwy ar: 31 Maw 2019

Trosolwg

​Mae'r Safon hon yn ymwneud â datblygu rhwydweithiau proffesiynol er mwyn cefnogi eich gwaith cyfredol ac yn y dyfodol ynghyd â'ch datblygiad personol.

Gall y rhwydweithiau hyn ymwneud ag ystod eang o bobl – fel cydweithwyr rydych yn gweithio'n uniongyrchol gyda nhw, pobl o fudiadau a busnesau eraill, cleientiaid a chwsmeriaid, aelodau cymdeithasau proffesiynol a masnach yn ogystal â chysyllltiadau cyfryngau cymdeithasol.


Meini prawf perfformiad

Mae'n rhaid eich bod chi'n gallu:

  1. ​buddsoddi'ch amser mewn gweithgareddau rhwydweithio a datblygu rhwydwaith o gysylltiadau busnes
  2. bod yn barod i gymryd yr awenau pan ddaw cyfle i rwydweithio
  3. sefydlu perthnasau gydag eraill yn gyflym ac yn effeithiol ynghyd â gofalu eich bod yn gwneud argraff gychwynnol da
  4. gofalu eich bod yn rhannu neges gyson, gan gynnwys eich arwyddion aneiriol
  5. hysbysu pobl yn gwbl eglur beth allwch chi ei gynnig a sut y bydd yn ategu eu ffordd o weithio
  6. gofalu eich bod yn cysylltu'n effeithiol gyda chymaint o bobl â phosib mewn unrhyw sefyllfa rhwydweithio
  7. gofalu eich bod yn mynd ati i gysylltu ymhellach neu weithredu pan fyddwch yn addo gwneud hynny
  8. argymell pobl eraill yn eich rhwydwaith cysylltiadau pan nad oes modd ichi gynnig gwasanaeth neu gynnyrch
  9. dod o hyd i fyrdd o gadw mewn cyswllt rheolaidd gyda chysylltiadau newydd a phresennol
  10. adnabod perthnasau busnes nad ydyn nhw mor llwyddiannus â'r disgwyl a cheisio'u gwella
  11. dwyn i ystyriaeth y gwahaniaethau rhwng pobl o gefndiroedd gwahanol o ran eich perthnasau busnes
  12. cydnabod fod pobl yn meddu ar wahanol weithdrefnau wrth ymdrin ag eraill gan addasu'ch ymddygiad i fodloni hyn lle'n bosib a phriodol

Gwybodaeth a Dealltwriaeth

You need to know and understand:

  1. sut i ddatblygu perthnasau'n gyflym pan fyddwch yn cwrdd â phobl a gofalu eich bod yn creu argraff gychwynnol da
  2. sut gall iaith y corff ddylanwadu ar eich dulliau cyfathrebu gydag eraill
  3. sut i wrando'n astud ac aralleirio er mwyn dangos y buoch chi'n gwrando'n astud
  4. sut i adnabod cyfleoedd drwy wrando ar bobl eraill a chanfod cysylltiadau posib sy'n debyg i'ch sefyllfa chi
  5. sut i hyrwyddo'ch gwaith mewn ffordd a fydd yn annog eraill i ddysgu mwy amdanoch chi
  6. pwysigrwydd ymddwyn ag uniondeb tuag at eraill bob amser
  7. beth sydd angen ichi ei wneud er mwyn datblygu a chynnal parch ac ymddiriedaeth
  8. pa mor bwysig ydy hi i adnabod a pharchu ffiniau priodol o ystyried eich perthnasau gydag eraill
  9. sut byddwch chi'n elwa drwy gyflwyno a chyfeirio eich cysylltiadau busnes at eraill pan fo cyfle ichi wneud hynny
  10. sut i gynnal perthnasau rhwydweithio
  11. buddion ac anfanteision y grwpiau rhwydweithio ffurfiol sydd ar gael
  12. sut i adnabod, dysgu am a pharchu'r gwahaniaethau rhwng pobl o wahanol ddiwylliannau neu gefndiroedd
  13. beth sy'n dylanwadu ar bobl i ymddwyn mewn ffyrdd penodol

Cwmpas/ystod


Cwmpas Perfformiad


Gwybodaeth Cwmpas


Gwerthoedd


Ymddygiadau


Sgiliau


Geirfa


Dolenni I NOS Eraill


Cysylltiadau Allanol


Fersiwn rhif


Dyddiad Adolygu Dangosol

30 Maw 2022

Dilysrwydd

Ar hyn o bryd

Statws

Gwreiddiol

Sefydliad Cychwynnol

ScreenSkills

URN gwreiddiol

SKSGR3

Galwedigaethau Perthnasol

Ffotograffydd, Gweithwyr Proffesiynol Cyswllt Cyfryngau, Y Celfyddydau, Cyfryngau a Chyhoeddi, Golygydd

Cod SOC

3417

Geiriau Allweddol

Rhwydweithiau,Creadigol, Cysylltiadau, Ymddiriedolaeth