Rheoli a marchnata eich hun fel gweithiwr llawrydd yn y diwydiannau creadigol

URN: SKSGS1
Sectorau Busnes (Suites): Cyfryngau Creadigol
Datblygwyd gan: ScreenSkills
Cymeradwy ar: 31 Maw 2019

Trosolwg

​Mae'r Safon hon yn arbennig ichi os ydych chi'n gweithredu fel gweithiwr llawrydd yn y diwydiannau creadigol. Er mwyn sicrhau eich bod yn llwyddiannus, mae angen ichi chwilio am a dod o hyd i waith, trafod eich cytundeb eich hun (oni bai fod gennych chi asiant) a bodloni gofynion cyllidebu a chyfreithiol yn ymwneud â'ch statws llawrydd.

Mae hyn yn golygu meddu ar ddealltwriaeth dda o sut i hyrwyddo'ch cyflawniadau, hybu eich enw da a gofalu eich bod yn diweddaru eich sgiliau a gwybodaeth.

Mae hefyd yn ymwneud ag ystod o sgiliau busnes sy'n angenrheidiol er mwyn ffynnu fel gweithiwr llawrydd. Fe fydd angen i'r rhan fwyaf o bobl sy'n gweithio yn y diwydiannau creadigol baratoi ar gyfer dilyn gyrfa portffolio.


Meini prawf perfformiad

Mae'n rhaid eich bod chi'n gallu:

  1. sefydlu, cadw mewn cyswllt a chynnal cysylltiadau busnes yn y diwydiant yn rheolaidd
  2. ymwneud â rhwydweithiau perthnasol a mudiadau arbenigol i gefnogi eich gwaith llawrydd
  3. adnabod a dilyn strategaethau priodol er mwyn datblygu eich enw da proffesiynol a hyrwyddo'ch hun i gleientiaid posib.
  4. gofalu fod gennych chi systemau mewn lle sy'n helpu i adnabod cyfleoedd gwaith yn y cyfnod cynnar
  5. hyrwyddo eich enw da drwy ofalu eich bod yn dosbarthu gwybodaeth gyfredol a chryno am eich profiad, gwaith blaenorol, cyflawniadau ac argaeledd

  6. ymchwilio i asiantau dichonol neu gynrychiolwyr eraill yn eich ardal

  7. defnyddio eraill fel modelau cymhwysedd gan alluogi ichi adnabod anghenion datblygu a hyfforddiant
  8. gofyn am adborth adeiladol gan bobl berthnasol ynghylch eich perfformiad, yna gwerthuso'r adborth er mwyn adnabod eich anghenion datblygu
  9. cynnal eich datblygiad proffesiynol parhaus eich hun er mwyn gofalu eich bod yn adfywio, diweddaru ac ychwanegu at eich sgiliau a gwybodaeth

  10. gosod nodau realistig yn ymwneud ag anghenion hyfforddiant, perfformiad a chynnydd, targedau busnes, a’r defnydd o amser ac adnoddau er mwyn cyflawni amcanion, gan ailymweld â nhw a’u hadolygu’n rheolaidd

  11. gofalu bod cofnodion a chyfrifon yn cael eu diweddaru fel sy’n briodol a’u bod yn gywir a pherthnasol
  12. gosod a defnyddio systemau effeithiol ar gyfer rheoli cyllidebau, treth, TAW a gwaith papur arall
  13. sefydlu a chynnal gwasanaethau effeithiol i gefnogi'ch hun fel gweithiwr llawrydd
  14. cynllunio at y dyfodol i drefnu a chynnal llif gwaith ac arian ymarferol
  15. gofalu eich bod yn hyblyg ac yn barod i addasu i fodloni galwadau eraill gan gynnal eich arddull gweithio personol, eich brand a'ch enw da
  16. trafod amodau a thelerau sy'n bodloni gofynion cyfreithiol o ran cyfleoedd cyfartal, cyfraith gwaith, rheoliadau diwydiant cynhyrchu ac iechyd a diogelwch
  17. amcan a chytuno ar gyfraddau ffi realistig, amserlen a chostau eraill
  18. gosod deilliannau perfformiad eglur
  19. gofalu bod y cytundeb yn ymdrin â manylion yn ymwneud â thermau talu a chyfyngiad amser i dderbyn taliadau ynghyd â gofalu caiff goblygiadau pawb ynghlwm eu trafod yn eglur 
  20. gofalu bod manylion y cytundeb yn cyd-fynd gyda chytuniadau a chadw copi ysgrifenedig o'r cytundeb terfynol, wedi'i arwyddo, yn ddiogel
  21. penderfynu a fyddai cynnal proffiliau proffesiynol ar-lein yn fuddiol i'ch gwaith chi

Gwybodaeth a Dealltwriaeth

You need to know and understand:

  1. pwy ydy'r prif fudiadau comisiynu yn eich maes arbenigedd chi a'r ffordd orau o gysylltu gyda nhw
  2. sut i gynnal eich moeseg a'ch arferion proffesiynol chi a dilyn y datblygiadau newydd yn y diwydiant amlgyfryngau
  3. ffyrdd derbyniol o farchnata eich hun a'ch gwasanaethau yn eich diwydiant
  4. ffyrdd creadigol o ddangos i gleientiaid ei fod yn fuddiol iddyn nhw gysylltu gyda chi ynghylch gwaith posib
  5. yr adnoddau gorau a mwyaf effeithiol er mwyn hyrwyddo eich hun
  6. a fyddai asiant, gwasanaeth dyddiadur neu gronfa ddata talent ar-lein, yn medru eich helpu i ddod o hyd i waith
  7. sut i fanteisio ar gyfleoedd gwaith yn eich diwydiant chi
  8. sut i amcangyfrif cyfraddau realistig ar gyfer ffioedd, ac os yn briodol, adnoddau fel llety a threuliau

  9. sut i drafod amodau a thelerau yn unol â gofynion cyfreithiol a gofynion y diwydiant

  10. pryd bydd angen ichi drefnu yswiriant a sut i wneud hynny
  11. pryd a sut i gytuno ar randaliadau
  12. sut i gynnal cysylltiadau ac arwain trafodaethau gyda chleientiaid posib
  13. sut i drafod a chytuno ar gytundebau cyfreithiol sy'n ymwneud ag incwm disgwyliedig, yr amser sydd ar gael a deilliannau sefydlog eglur
  14. ffynonellau cyngor perthnasol yn ymwneud â gwaith, yswiriant, rheoliadau treth a deddfwriaethau busnesau bach eraill
  15. sut i gadw cofnodion syml (incwm, gwariant a llif arian) a sut i anfonebu a mynd ar drywydd taliadau hwyr
  16. sut i osod a rheoli cyllidebau personol a busnes
  17. sut i gydnabod y gwahaniaeth rhwng penderfyniadau creadigol a busnes
  18. sut i gynllunio ar gyfer yr annisgwyl, gosod amserlenni a chynllunio at y dyfodol er mwyn ichi fedru cynnal llif arian a gwaith ymarferol
  19. sut i ddatblygu rhwydweithiau cefnogi er mwyn mynd i'r afael â'r anawsterau ynghlwm â gweithio ar eich pen eich hun
  20. sut i adnabod mentoriaid dichonol a datblygu perthynas fentora gynhyrchiol
  21. sut i reoli eich datblygiad proffesiynol parhaus er mwyn sicrhau eich bod yn meddu ar y sgiliau a'r wybodaeth ddiweddaraf
  22. buddion cynnal proffiliau proffesiynol ar-lein a'r dewisiadau er mwyn cyflawni hyn gan gynnwys gwefannau hyrwyddo, blogiau a defnyddio'r cyfryngau cymdeithasol

Cwmpas/ystod


Cwmpas Perfformiad


Gwybodaeth Cwmpas


Gwerthoedd


Ymddygiadau


Sgiliau


Geirfa


Dolenni I NOS Eraill


Cysylltiadau Allanol


Fersiwn rhif


Dyddiad Adolygu Dangosol

30 Maw 2022

Dilysrwydd

Ar hyn o bryd

Statws

Gwreiddiol

Sefydliad Cychwynnol

ScreenSkills

URN gwreiddiol

SKSGS1

Galwedigaethau Perthnasol

Cyfryngau a chyfathrebu, Peiriannydd Darlledu , Peiriannydd Darlledu Allanol , Peiriannydd Stiwdio , Uwch Dechnegydd Effeithiau Arbennig , Technegydd Effeithiau Arbennig, Goruchwyliwr Effeithiau Arbennig, Gweithwyr Proffesiynol Cynhyrchu Sain (Ffilm a Theledu), Gweithwyr proffesiynol ôl-gynhyrchu , Gweithredwr Craen (Ffilm a theledu), Grip dan hyfforddiant, Technegydd Craen (Ffilm a theledu), Y Celfyddydau, Cyfryngau a Chyhoeddi, Technegydd AR/VR (Realiti Estynedig / Rhithwirionedd), Technegydd Effeithiau Gweledol, Rheolwyr Cynhyrchu, Cydlynydd Cynhyrchu, Cydgysylltydd Ol-gynhyrchu, Cynorthwyydd Cynhyrchu, Cynorthwyydd Camera, Person Camera, Lliwiwr (Ffilm a Theledu), Goreugwr Data, Technegydd Foley, Grip Allweddol, Cynhyrchydd Llinell, Goreugwr Cyfryngau, Goruchwyliwr Ôl-gynhyrchu, Peiriannydd Ôl-gynhyrchu, Goruchwyliwr Sain, Gweithiwr Effeithiau Arbennig Dan Hyfforddiant, Peiriannydd Lluniau

Cod SOC

3417

Geiriau Allweddol

Gweithiwr Llawrydd, Creadigol, Gweithwyr Proffesiynol