Rigio mowntiau car mewn cerbydau neu arnynt

URN: SKSG9
Sectorau Busnes (Suites): Grips a thechnegwyr craeniau
Datblygwyd gan: ScreenSkills
Cymeradwy ar: 30 Maw 2018

Trosolwg

Mae’r Safon hwn yn ymwneud â mowntio mownt camera mewnol neu allanol ar gerbyd neu ynddo. Mae’n ymwneud â dethol y math cywir o fownt camera a gosod y mownt heb niweidio’r cerbyd.

 

Mae’n ymwneud â defnyddio rhaffau strapiau hogi ac offer gosod arall, ac asesu cryfder ac addasrwydd y deunyddiau hynny. Mae’n ymwneud ag adnabod pob perygl ac amgylchiad amgylcheddol a allai effeithio ar y gwaith, cynhyrchu asesiad risg a rhoi gwybod i’r tîm cynhyrchu am unrhyw anghenion arbennig.

 

Mae’r Safon hwn ar gyfer unrhyw un sy’n rigio mowntiau car.


Meini prawf perfformiad

Mae'n rhaid eich bod chi'n gallu:

1        Gwirio fod pwysau’r camerâu a’r ategolion ddim yn fwy nag uchafswm llwyth pwysau’r mowntiau

2        Defnyddio gwybodaeth ddibynadwy i gadarnhau’r lleoliadau ac onglau siot sydd eu hangen

3        Gwirio fod arwynebeddau y bydd offer yn cael ei fowntio arno’n ddigon cryf i’w gynnal

4        Cadarnhau gyda phobl berthnasol lwybrau, cyflymder, safleoedd a chyfeiriad y cerbyd sy’n cael ei fowntio ac unrhyw gerbydau eraill

5        Teithio ar hyd y llwybr bwriedig ar adeg addas i adnabod natur yr arwynebedd ac unrhyw rwystrau

6        Cynhyrchu asesiad risg yn unol â gofynion iechyd a diogelwch

7        Adeiladu a lleoli rigiau a gwneud camerâu ac ategolion yn sownd yn unol â gofynion cynhyrchu

8        Defnyddio deunyddiau, rhaffau, clymau, strapiau hogi, gwifrau a strapiau clicied addas, yn unol â’u manylebau er mwyn atal unrhyw symud diangen

9        Nodi pwlis a rhaffau sydd o fewn llwythi gweithio diogel (SWL)

10     Cadarnhau nad yw rigiau’n rhwystro’r hyn y gall gyrwyr ei weld na’u gallu i gadw rheolaeth ar y cerbyd

11     Rigio cerbydau mewn modd sy’n golygu eu bod yn cydymffurfio ag unrhyw reoliadau cerbyd neu drafnidiaeth ffordd

12     Cynghori staff cynhyrchu perthnasol pan fydd angen caniatâd arbennig

13     Rhoi gwybod i staff cynhyrchu addas am unrhyw rwystr neu amgylchiadau sy’n effeithio gweithio’r rigiau’n ddiogel

14     Gwirio fod y rig yn ddiogel yn unol â rheoliadau a chanllawiau cyfredol

15   Diogelu a gwarchod offer pan nad yw’n cael ei ddefnyddio, yn unol â chyfarwyddiadau gwneuthurwyr


Gwybodaeth a Dealltwriaeth

You need to know and understand:

1      Deddfwriaeth, canllawiau ac arfer orau cyfredol y diwydiant

2      Pwysau’r camera ac unrhyw ategolion, sut i’w cyfrifo, a sut y gallant effeithio ar y mowntiau

3      Y math o ddeunyddiau yr atodir mowntiau iddynt, a’u cryfder

4      Llwybr bwriedig a chyflymder y cerbyd, a’r gofod clirio a chryfder unrhyw atodiadau sydd eu hagen

5      Natur yr arwynebedd y gyrrir arno, a sut i adnabod unrhyw rwystrau posib

6      Safle bwriedig unrhyw gerbydau atodol neu rai sy’n pasio

7      Terfynau eich arbenigedd a ble mae’n addas i alw ar arbenigwyr eraill

8      Manteision gweithio mewn tîm a sut i gyfathrebu ag eraill

9      Sut i gynhyrchu asesiad risg

10   Sut i ddethol y math o rig a sut i’w gyfosod heb achosi unrhyw niwed i’r cerbyd

11   Mathau gwahanol o strapiau hogi, clymau, strapiau clicied a gwifrau ar gyfer darparu sadrwydd a diogelwch ychwanegol

12   Sut i glymu hwylraff, cwlwm clof, cwlwm hanner a chwlwm llinglwm

13   Sut i ddethol y math cywir o drac, pwli, strap hogi, cwlwm, strap clicied a weiren

14   Llwythi gweithio diogel y deunyddiau i’w defnyddio ar gyfer cymhwysiad penodol a sut i’w cyfrifo

15   Pa fesurau i’w cymryd i sicrhau fod y gyrrwr ac unrhyw gyd-deithwyr yn ddiogel

16   Sut i ddatgysylltu’r bagiau awyr a phryd y mae’n addas gwneud hynny

17   Pa ddyfeisiadau i’w ddefnyddio i warchod yr offer camera rhag niwed allanol

18   Rheoliadau cerbydau neu drafnidiaeth ffordd berthnasol

19   Caniatâd arbennig y gellir bod angen ei gael pan fydd angen defnyddio cerbydau ar y briffordd gyhoeddus

20   Pa amgylchiadau allai effeithio ar weithredu diogel ac wrth bwy y dylid rhoi gwybod

21   Beth sy’n debygol o dynnu sylw defnyddwyr eraill y ffordd

22   Sut i ddiogelu offer pan nad yw’n cael ei ddefnyddio

23  Pam ei bod hi’n bwysig cadw offer yn sych ac yn rhydd o lwch, tywod a malurion eraill


Cwmpas/ystod


Cwmpas Perfformiad


Gwybodaeth Cwmpas


Gwerthoedd


Ymddygiadau


Sgiliau


Geirfa


Dolenni I NOS Eraill


Cysylltiadau Allanol


Fersiwn rhif


Dyddiad Adolygu Dangosol

30 Maw 2022

Dilysrwydd

Ar hyn o bryd

Statws

Gwreiddiol

Sefydliad Cychwynnol

Screen Skills (gynt Creative Skillset)

URN gwreiddiol

SKSG9

Galwedigaethau Perthnasol

Gweithredwr Craen (Ffilm a theledu), Grip, Grip dan hyfforddiant, Technegydd Craen (Ffilm a theledu)

Cod SOC

3417

Geiriau Allweddol

Grip, Iechyd a diogelwch, Car, Mowntiau, Cerbydau