Rigio pennau a systemau o bell

URN: SKSG8
Sectorau Busnes (Suites): Grips a thechnegwyr craeniau
Datblygwyd gan: ScreenSkills
Cymeradwy ar: 30 Maw 2018

Trosolwg

Mae’r Safon hwn yn ymwneud â gosodiad arbenigol pen a reolir o bell. Gallai hyn fod ar graen neu unrhyw fath arall o fownt y mae’r grip yn gyfrifol amdano, ble nad yw manyleb lawn y craen yn wybyddus i gyflenwr y pen o bell o reidrwydd. Mae’n ymwneud â chyflawni hyn yn ddiogel ac o fewn paramedrau’r mownt sydd i gael ei ddefnyddio.

 

Mae’r Safon hwn ar gyfer unrhyw un sy’n rigio pennau a
systemau o bell. 


Meini prawf perfformiad

Mae'n rhaid eich bod chi'n gallu:

1      Cynnal asesiadau risg yn unol â gofynion iechyd a diogelwch ar gyfer lleoliadau risg uchel

2      Gwirio fod pwysau’r pennau ynghyd â’r pwysau eraill sydd i’w llwytho ar y mowntiau ddim yn fwy na manylebau’r gwneuthurwr

3      Defnyddio rhyngwynebau a dyfeisiadau sicrhau a nodir

4      Sicrhau fod unrhyw fondiau daearu arbennig yn sicr a bod pob cebl yn caniatáu symud y pennau’n llawn ymhob cyfeiriad sy’n cael ei ddefnyddio

5      Gwirio nad yw ceblau’n gallu amharu ar fowntiau nac unrhyw beth nad yw’n rhan o’r mowntiau

6      Darparu gwarchodaeth amgylcheddol yn unol â manylebau’r mowntiau

7      Cytuno ar ddulliau cyfathrebu rhwng yr holl griw sy’n ymwneud `â gweithredu’r rigiau, sy’n ddibynadwy

8      Diogelu a gwarchod offer pan nad yw’n cael ei ddefnyddio yn unol â chyfarwyddiadau’r gwneuthurwr.


Gwybodaeth a Dealltwriaeth

You need to know and understand:

1      Deddfwriaeth, canllawiau ac arfer orau cyfredol y diwydiant

2      Sut i adnabod pan fydd lleoliadau’n risg uchel gan gynnwys uchder a lleoedd cyfyng.

3      Sut i gael gwybodaeth am bwysau pennau o bell, eu prif lwyth, ac unrhyw geblau, a’u perthnasedd i rigiau a’r hyn y maen nhw’n mynd i gael eu mowntio arnyn nhw

4      Dulliau a mathau o ffasninau sydd eu hagen i osod pennau o bell i fowntiau

5      Y mathau o glymau diogelwch ychwanegol sydd eu hangen ar gyfer camerâu a’u hategolion

6      Unrhyw ofynion trydanol arbennig

7      Cyfyngiadau eich arbenigedd a phryd y mae’n addas i alw ar arbenigwyr eraill

8      Manteision gweithio fel tîm a sut i gyfathrebu ag eraill

9      Unrhyw ofynion neu gyfyngiadau amgylcheddol arbennig

10   Bod gweithdrefnau a chyfathrebiadau diogelwch yn eu lle rhwng y grip a chriw’r camera, a’u pwysigrwydd

11   Gweithdrefnau i’w mabwysiadu wrth weithio ar uchder, gan gynnwys gwarchod, byrddau bysedd traed, byrddau cicio a chanllawiau dwylo

12   Sut i sicrhau offer pan nad yw’n cael ei ddefnyddio

13  Pam ei bod hi’n bwysig cadw offer yn sych ac yn rhydd o lwch, tywod a malurion eraill


Cwmpas/ystod


Cwmpas Perfformiad


Gwybodaeth Cwmpas


Gwerthoedd


Ymddygiadau


Sgiliau


Geirfa


Dolenni I NOS Eraill


Cysylltiadau Allanol


Fersiwn rhif


Dyddiad Adolygu Dangosol

30 Maw 2022

Dilysrwydd

Ar hyn o bryd

Statws

Gwreiddiol

Sefydliad Cychwynnol

Screen Skills (gynt Creative Skillset)

URN gwreiddiol

SKSG8

Galwedigaethau Perthnasol

Gweithredwr Craen (Ffilm a theledu), Grip, Grip dan hyfforddiant, Technegydd Craen (Ffilm a theledu)

Cod SOC

3417

Geiriau Allweddol

Grip, Iechyd a diogelwch, Systemau, Pennau