Rigio dolis camera a llwyfannau tracio

URN: SKSG6
Sectorau Busnes (Suites): Grips a thechnegwyr craeniau
Datblygwyd gan: ScreenSkills
Cymeradwy ar: 30 Maw 2018

Trosolwg

Mae’r Safon hwn yn ymwneud â rigio dolis camera neu lwyfannau tracio (nid craeniau). Mae hyn yn cynnwys deall y llwythi pwysau ac unrhyw wrthbwysau arbennig sydd ar waith. Mae’n ymwneud â darparu a chynnal a chadw unrhyw gyflenwadau ynni angenrheidiol a sicrhau eich bod chi’n deall y gofynion cynnal a chadw.

 

Mae’r Safon hwn ar gyfer unrhyw un sy’n ymwneud â
rigio dolis camera neu lwyfannau tracio.


Meini prawf perfformiad

Mae'n rhaid eich bod chi'n gallu:

1           Gwirio fod yr arwyneb neu’r trac sy’n cynnal y pwysau’n addas ar gyfer y doli camera neu’r llwyfan tracio
2          
Gwirio fod llwythi pwysau offer a gweithredwyr o fewn i lwythi
gweithio diogel y gwneuthurwr

3          
Gwirio fod hydroleg, pwyseddau ac unrhyw declynnau diogelwch pwysau
a ymgorfforir, yn unol â manyleb y gwneuthurwr

4          
Sicrhau fod trefn y gwaith adeiladu’n ddiogel ac na fydd yn peryglu
eraill nac yn niweidio offer

5          
Gwirio fod pob dyfais gloi’n weithredol, yn ei lle ac yn gweithio’n
unol â chyfarwyddiadau’r gwneuthurwr

6          
Cyfarwyddo pobl berthnasol ar y modd o ddefnyddio unrhyw swyddogaethau
cloi a diogelu arbenigol

7          
Adrodd am ddiffygion mewn offer yn unol â gweithdrefnau cynhyrchu

8          
Sicrhau offer yn ystod rigio neu storio er mwyn atal unrhyw
ddigwyddiadau a allai ei niweidio neu’i wneud yn anniogel

9          
Defnyddio gwybodaeth ddibynadwy i adnabod unrhyw ofynion trin neu
gynnal a chadw arbenigol yn ystod y cyfnod defnyddio

10        
Darparu gwarchodaeth amgylcheddol ddiogel a saff ar gyfer offer a
gweithredwyr, yn unol â rheoliadau, canllawiau ac arfer orau cyfredol y
diwydiant.

11        
Sicrhau fod yr holl adeiladwaith yn ddiogel ar gyfer y pwrpas y
bwriadwyd ef ar ei gyfer, a’i fod yn rhydd o unrhyw rwystrau

12        Sicrhau fod ceblau’n ddigon hir ac na ellir eu niweidio

13        
Ceisio cymorth arbenigol gan bobl berthnasol pan fydd angen offer
trydanol

14       Rigio trolis camera a
llwyfannau tracio yn unol â gweithdrefnau trin â llaw.


Gwybodaeth a Dealltwriaeth

You need to know and understand:

1      Deddfwriaeth, canllawiau ac arfer orau cyfredol y diwydiant

2      Sut i adnabod pwysau’r ddyfais dracio

3      Sut i gyfrifo pwysau’r holl offer sydd i gael ei fowntio

4      Sut i gael manylion pwysau pob personél a fydd yn cael eu cludo ar yr offer

5      Sut i werthuso addasrwydd arwynebeddau neu drac sy’n cynnal pwysau

6      Ble i ddod o hyd i wybodaeth am fanylebau pwysau’r gwneuthurwr

7      Llwythi gweithio diogel yr offer a’u pwrpas

8      Oblygiadau unrhyw nwyon neu hydroleg a gynhwysir yn yr offer a sut i’w monitro

9      Terfynau eich arbenigedd a ble mae’n addas i alw ar arbenigwyr eraill

10   Manteision gweithio mewn tîm a sut i gyfathrebu ag eraill

11   Y drefn y dylid adeiladu offer ynddi

12   Sut i wirio dyfeisiadau cloi i atal symud heb ganiatâd

13   Sut i sicrhau offer pan fo’n cael ei rigio neu storio

14   Achosion posib o niwed i offer a sut i’w hosgoi

15   Y gweithdrefnau cynnal a chadw parhaus sydd eu hangen

16   Sut i adnabod namau a’r weithdrefn adrodd nôl gywir

17   Gweithdrefnau trin â llaw berthnasol gan gynnwys Offer Gwarchod Personol (PPE) gofynnol

18   Y gwarchod amgylcheddol angenrheidiol

19   Sut i sicrhau’r rig pan fydd wedi cael ei adael heb ei oruchwylio neu mewn amodau tywydd anffafriol

20   Pam ei bod hi’n bwysig cadw offer yn sych ac yn rhydd o lwch, tywod a malurion eraill 

21   Pryd a ble i geisio cyngor arbenigol.


Cwmpas/ystod


Cwmpas Perfformiad


Gwybodaeth Cwmpas


Gwerthoedd


Ymddygiadau


Sgiliau


Geirfa


Dolenni I NOS Eraill


Cysylltiadau Allanol


Fersiwn rhif


Dyddiad Adolygu Dangosol

30 Maw 2022

Dilysrwydd

Ar hyn o bryd

Statws

Gwreiddiol

Sefydliad Cychwynnol

Screen Skills (gynt Creative Skillset)

URN gwreiddiol

SKSG6

Galwedigaethau Perthnasol

Gweithredwr Craen (Ffilm a theledu), Grip, Grip dan hyfforddiant, Technegydd Craen (Ffilm a theledu)

Cod SOC

3417

Geiriau Allweddol

Grip, Doliau camera, Llwyfan tracio, Iechyd a diogelwch