Rigio mowntiau statig ar gyfer cynyrchiadau

URN: SKSG3
Sectorau Busnes (Suites): Grips a thechnegwyr craeniau
Datblygwyd gan: ScreenSkills
Cymeradwy ar: 30 Maw 2018

Trosolwg

Mae’r Safon hwn yn ymwneud â rigio mowntiau statig ar gyfer cynhyrchiad. Mae’n ymwneud â dethol y mownt camera cywir ar gyfer pwysau a chydbwysedd y camera ac ar gyfer anghenion cynhyrchu’r siot.

 

Mae’n ymwneud â dethol a chydosod, neu baratoi, mowntiad stiwdio neu leoliad addas, gan ddwyn i ystyriaeth fesuriadau a phwysau’r camera a ddewiswyd ac unrhyw ategolion camera ychwanegol, er mwyn cyflawni gofynion artistig, gweithredol a thechnegol y siot neu’r siotiau.

 

Mae’r Safon hwn ar
gyfer unrhyw un sy’n rigio mowntiau statig ar gyfer cynhyrchiad.


Meini prawf perfformiad

Mae'n rhaid eich bod chi'n gallu:

1      Dewis mowntiau sy’n dwyn i ystyriaeth bwysau a chydbwysedd y camerâu

2      Cydosod mowntiau statig mewn dulliau sy’n caniatáu ar gyfer gwendidau mewn arwynebeddau ble mae’r mowntiau’n cael eu gosod

3      Gosod mowntiau yn y lleoliadau ble mae’u hangen

4      Lefelu mowntiau drwy 360º pan fydd angen a sicrhau eu bod yn gytbwys

5      Adnabod a gwirio fod pob dyfais gloi yn weithredol, yn ei lle ac yn gweithio’n unol â chyfarwyddiadau’r gwneuthurwr

6      Cydosod mowntiau yn y drefn a nodwyd er mwyn osgoi niwed

7      Cydosod mowntiau mewn ffyrdd na fydd yn peryglu’r hunan na phobl eraill

8      Adrodd am unrhyw beth sy’n rhwystro cydosod cywir a diogel, gan ddefnyddio gweithdrefnau adrodd nôl y cynhyrchiad

9      Rigio rhaffau, gwifrau, strapiau clicied a strapiau hogi sy’n cadw’r camerâu’n sefydlog wrth iddynt weithio ar uchder neu mewn amodau ansefydlog

10   Gwirio fod mowntiau’n ddiogel pan fydd mowntiau statig wedi’u gadael heb neb yn gofalu amdanynt neu mewn amodau tywydd anffafriol

11   Darparu cysgod amgylcheddol sy’n ddigonol ac yn ddiogel ar gyfer offer a gweithredwyr

12   Rigio mowntiau statig yn unol â gweithdrefnau trin â llaw

13   Gwirio pwyseddau a gwylio llwythi gweithio diogel ar gyfer cydrannau neu fowntiau sy’n defnyddio nwy neu hydroleg i’w gweithredu

14  Sicrhau a diogelu offer pan nad yw’n cael ei ddefnyddio yn unol â chyfarwyddiadau’r gwneuthurwr


Gwybodaeth a Dealltwriaeth

You need to know and understand:

 

1      O ble i gael gwybodaeth am bwysau a chydbwysedd camerâu

2      Swyddogaeth cydrannau mowntiau statig gan gynnwys trybeddau, pedestalau neu gymhorthion dyrchafedig ac ategolion, a threfn benodedig eu cydosod

3      Darpariaeth arbennig a all wrthbwyso diffygion yn yr arwynebedd

4      Cyfyngiadau eich arbenigedd a phryd y mae’n addas galw ar arbenigwyr eraill

5      Manteision gweithio mewn tîm a sut i gyfathrebu ag eraill

6      Y lleoliadau sydd eu hangen ar gyfer mowntiau

7      Gweithdrefnau cywir ar gyfer lefelu a chydbwyso mowntiau

8      Sut i wirio fod dyfeisiadau cloi’n gweithio’n gywir a bod yr holl adeiladwaith yn ddiogel

9      Sut i wneud y cydosod gan roi ystyriaeth addas i ddiogelwch yr hunan ac eraill

10   Gweithdrefnau adrodd nôl y cynhyrchiad a sut i adnabod namau

11   Diogelwch amgylcheddol addas a sut i’w roi’n sownd

12   Sut i wirio fod camera ac ategolion yn ddiogel wrth weithio ar uchder neu mewn amgylchiadau ansefydlog

13   Sut i sicrhau’r rig pan fydd wedi cael ei adael heb ei oruchwylio neu mewn amodau tywydd anffafriol

14   Pryd a sut i gynnal asesiad risg trin â llaw

15   Sut i sicrhau fod unrhyw rannau o’r mowntiau sydd o dan bwysau nwy neu hydroleg yn ddiogel

16   Gweithdrefnau trin â llaw berthnasol gan gynnwys Offer Diogelwch Personol (PPE)

17   Sut i ddiogelu offer pan nad yw’n cael ei ddefnyddio

18  Pam ei bod hi’n bwysig cadw offer yn sych ac yn rhydd o lwch, tywod a malurion eraill


Cwmpas/ystod


Cwmpas Perfformiad


Gwybodaeth Cwmpas


Gwerthoedd


Ymddygiadau


Sgiliau


Geirfa


Dolenni I NOS Eraill


Cysylltiadau Allanol


Fersiwn rhif


Dyddiad Adolygu Dangosol

30 Maw 2022

Dilysrwydd

Ar hyn o bryd

Statws

Gwreiddiol

Sefydliad Cychwynnol

Screen Skills formerly Creative Skillset

URN gwreiddiol

SKSG3

Galwedigaethau Perthnasol

Gweithredwr Craen (Ffilm a theledu), Grip, Grip dan hyfforddiant, Technegydd Craen (Ffilm a theledu)

Cod SOC

3417

Geiriau Allweddol

Grip, Rigio, Mowntiau statig, Iechyd a diogelwch