Tracio a swingio craeniau a breichiau jib

URN: SKSG12
Sectorau Busnes (Suites): Grips a thechnegwyr craeniau
Datblygwyd gan: ScreenSkills
Cymeradwy ar: 30 Maw 2018

Trosolwg

Mae’r Safon hwn yn ymwneud â gweithredu craeniau a breichiau jib yn ddiogel a, phan fo angen, tracio’r holl adeiladwaith.

Mae’n ymwneud â deall cyfyngiadau rigiau o fewn eu hamgylchedd weithio, cydymffurfio â chanllawiau’r diwydiant a chynnal asesiadau risg.

 

Mae’r safon hwn ar gyfer unrhyw un sy’n tracio a swingio craeniau neu freichiau jib.

 


Meini prawf perfformiad

Mae'n rhaid eich bod chi'n gallu:

1      Gwirio’r gwaith cydosod a sicrhau fod tystysgrifau diogelwch perthnasol yn ddilys

2      Symud camerâu mewn symudiad llyfn yn unol â gofynion cyfarwyddwyr neu weithredwyr camerâu bob amser

3      Amseru symudiadau i gyd-fynd â gofynion y siot

4      Adnabod symudiadau sydd y tu hwnt i allu’r offer neu a gyfyngwyd gan y bobl sydd ar gael

5      Adrodd am gyfyngiadau wrth staff cynhyrchu perthnasol a cheisio a chyflwyno atebion dichonadwy

6      Rhoi hysbysiad clir o lwybrau bwriedig craeniau neu jibiau i bob person perthnasol

7      Gwirio fod llwybrau’n rhydd o bobl nad ydyn nhw’n hanfodol, ceblau a rhwystrau eraill

8      Cyfathrebu gyda phobl eraill mewn modd sy’n gwella ansawdd ac effeithiolrwydd y symudiadau

9      Sicrhau craeniau a jibiau yn unol â gweithdrefnau gweithredu cyn i unrhyw bersonél fynd ar y peiriant neu oddi arni, gan gytuno o’r ddeutu ar bob symudiad o’r fath gydag unrhyw weithredwyr eraill

10   Cymryd camau addas i sicrhau nad oes neb yn dod oddi ar y craeniau a jibiau cyn iddynt dderbyn cyfarwyddyd i wneud hynny gan weithredwyr y craen

11   Gwirio fod craeniau a jibiau bellter diogel i ffwrdd o unrhyw geblau foltedd uchel

12   Gwirio fod cyflymder y gwynt o fewn i gyfyngiadau gweithredol craeniau a jibiau

13   Sicrhau fod gwelededd da i ddau ben y craen neu’r breichiau jib bob amser ac nad oes dim rhwystrau, personél na rhwystrau eraill yn ystod y cyfnod defnyddio

14   Gwiriwch fod offer ac ategolion wedi'u gosod yn parhau'n ddiogel ac yn ddiogel yn unol â deddfwriaeth, canllawiau ac arfer gorau ar gyfer eu defnydd

15   Darparu asesiadau risg i’r tîm cynhyrchu yn unol â gofynion iechyd a diogelwch

16   Gweithredu craeniau neu freichiau jib yn unol `â deddfwriaeth a chanllawiau presennol

17   Sicrhau a gwarchod offer pan nad yw’n cael ei ddefnyddio yn unol â chyfarwyddiadau’r gwneuthurwyr


Gwybodaeth a Dealltwriaeth

You need to know and understand:

1      Deddfwriaeth berthnasol, canllawiau ac arfer orau’r diwydiant

2      Y ffordd gywir o gydosod craeniau a breichiau jibiau

3      Sut i gael tystysgrifau diogelwch

4      Sut i werthuso sadrwydd arwynebeddau ble bydd y craeniau a’r breichiau jib yn cael eu mowntio

5      Egwyddorion gweithredu craeniau, jibiau ac offer tracio

6      Ystyriaethau diogelwch unrhyw offer tracio

7      Cyfyngiadau lleoliadol yr offer sy’n cael ei ddefnyddio

8      Manteision gwaith tîm a sut i gyfathrebu ag eraill

9      Sut i gynnal asesiadau risg ac i bwy y dylid cyfathrebu’r canlyniadau

10   Sut y mae cyflymder y gwynt yn effeithio ar ddefnydd o graeniau a jibiau

11   Pellterau gweithio diogel oddi wrth geblau foltedd uchel

12   Sut i gynnal gwelededd dau ben y craen neu’r breichiau jib

13   Sut i wirio fod offer ac ategolion a osodwyd yn ddiogel a sicr

14   sut i sicrhau nad oes neb yn mynd ar y craeniau na’r jibiau, nac yn dod oddi arnynt, oni bai fod ganddynt awdurdod i wneud.

15   Sut i ddiogelu craeniau a jibiau pan nad ydynt ar waith

16  Pam ei bod hi’n bwysig cadw offer yn sych ac yn rhydd o lwch, tywod a malurion eraill


Cwmpas/ystod


Cwmpas Perfformiad


Gwybodaeth Cwmpas


Gwerthoedd


Ymddygiadau


Sgiliau


Geirfa


Dolenni I NOS Eraill


Cysylltiadau Allanol


Fersiwn rhif


Dyddiad Adolygu Dangosol

30 Maw 2022

Dilysrwydd

Ar hyn o bryd

Statws

Gwreiddiol

Sefydliad Cychwynnol

Screen Skills (gynt Creative Skillset)

URN gwreiddiol

SKSG12

Galwedigaethau Perthnasol

Gweithredwr Craen (Ffilm a theledu), Grip, Grip dan hyfforddiant, Technegydd Craen (Ffilm a theledu)

Cod SOC

3417

Geiriau Allweddol

Grip, Craneiau, Tracio, Iechyd a diogelwch, Breichiau jib