Tracio camerâu

URN: SKSG11
Sectorau Busnes (Suites): Grips a thechnegwyr craeniau
Datblygwyd gan: ScreenSkills
Cymeradwy ar: 30 Maw 2018

Trosolwg

Mae’r Safon hwn yn ymwneud â symud camerâu ar hyd trac neu arwyneb addas arall. Mae’n gofyn am ddealltwriaeth drylwyr o, ac ymateb hyfyw i, unrhyw beryglon sy’n ymwneud â thrin, symud a gosod offer trwm.

 

Mae’n ymwneud `â chyfathrebu’n glir a manwl gyda’r aelod criw perthnasol er mwyn cyflawni atebion artistig sy’n cwrdd ag anghenion y cynhyrchiad.

 

Mae’r safon hwn ar gyfer unrhyw un sy’n tracio camerâu.


Meini prawf perfformiad

Mae'n rhaid eich bod chi'n gallu:

1      Symud camerâu mewn symudiad llyfn a dilyn gofynion y gweithredwr bob amser
2     
Amseru symudiadau i gyd-fynd ag anghenion cynhyrchu

3     
Adnabod symudiadau sydd y tu hwnt i allu’r offer neu a gyfyngir gan
y bobl sydd ar gael

4     
Adrodd am gyfyngiadau i weithredwyr camera a cheisio atebion sy'n
cwrdd ag anghenion y cynhyrchiad

5     
Rhoi hysbysiad clir o’r llwybrau bwriedig i bob person perthnasol

6     
Gwirio fod llwybrau’n rhydd o bobl nad ydyn nhw’n hanfodol, ceblau a
rhwystrau eraill

7     
Cyfathrebu â phobl eraill mewn ffyrdd sy’n gwella ansawdd ac
effeithlonrwydd symudiadau

8     
Symud camerâu yn unol â gweithdrefnau trin â llaw

9    Diogelu a gwarchod
offer pan nad yw’n cael ei ddefnyddio yn unol â chyfarwyddiadau’r gwneuthurwr


Gwybodaeth a Dealltwriaeth

You need to know and understand:

1      Deddfwriaeth, canllawiau ac arfer orau cyfredol y diwydiant

2      Egwyddorion gweithredu offer tracio

3      Ystyriaethau diogelwch offer tracio

4      Ble i gael gwybodaeth am lwybrau bwriedig ac anghenion cynhyrchu

5      Unrhyw symudiadau bwriedig eraill

6      Cyfyngiadau lleoli offer

7      Pryd a sut i gynnal asesiadau risg trin â llaw

8      Gweithdrefnau trin â llaw gan gynnwys yr Offer Gwarchod Personol (PPE) sydd ei angen

9      Manteision gweithio fel tîm a sut i gyfathrebu ag eraill

10   Sut i sicrhau offer pan nad yw’n cael ei ddefnyddio

11   Pam ei bod hi’n bwysig cadw offer yn sych ac yn rhydd o lwch, tywod a malurion eraill

 


Cwmpas/ystod


Cwmpas Perfformiad


Gwybodaeth Cwmpas


Gwerthoedd


Ymddygiadau


Sgiliau


Geirfa


Dolenni I NOS Eraill


Cysylltiadau Allanol


Fersiwn rhif


Dyddiad Adolygu Dangosol

30 Maw 2022

Dilysrwydd

Ar hyn o bryd

Statws

Gwreiddiol

Sefydliad Cychwynnol

Screen Skills (gynt Creative Skillset)

URN gwreiddiol

SKSG11

Galwedigaethau Perthnasol

Gweithredwr Craen (Ffilm a theledu), Grip, Grip dan hyfforddiant, Technegydd Craen (Ffilm a theledu)

Cod SOC

3417

Geiriau Allweddol

Grip, Camera, Tracio, Iechyd a diogelwch