Rigio ceir a threlyrs tracio

URN: SKSG10
Sectorau Busnes (Suites): Grips a thechnegwyr craeniau
Datblygwyd gan: ScreenSkills
Cymeradwy ar: 30 Maw 2018

Trosolwg

Mae’r Safon hwn yn ymwneud â rigio cerbyd neu drelar (llwyfan teithiol). Mae’n ymwneud â dethol y math cywir o fownt camera, craen neu fraich jib, a gosod y mownt cyfan heb achosi unrhyw niwed na pheryglu eraill.

 

Mae’n gofyn am adnabod pob perygl ac amgylchiad amgylcheddol a allai effeithio ar y gwaith, cynhyrchu asesiad risg a rhoi gwybod i’r tîm cynhyrchu am unrhyw anghenion arbennig.

 

Mae’r safon hwn ar gyfer unrhyw un sy’n rigio ceir neu drelars tracio.


Meini prawf perfformiad

Mae'n rhaid eich bod chi'n gallu:

1      Gwneud yn siŵr fod cyfanswm pwysau’r holl offer a phobl yn llai na chapasiti pwysau plât neu ‘drên’ cerbydau neu drelars

2      Defnyddio gwybodaeth ddibynadwy i gadarnhau lleoliadau ac onglau siotiau a llwybrau a chyflymder bwriedig cerbydau neu drelars

3      Teithio ar hyd y llwybr bwriedig ar adeg addas i adnabod addasrwydd yr arwynebedd y gyrrir drosto a natur unrhyw rwystrau neu beryglon

4      Cadarnhau lleoliadau, cyflymder a chyfeiriad unrhyw symudiadau eraill gyda staff cynhyrchu addas

5      Cynhyrchu asesiadau risg a chyfathrebu canfyddiadau i bob person perthnasol

6      Cadarnhau bod pob prop ac offer arall a osodwyd yn ddiogel ac yn sownd yn unol â rheoliadau, canllawiau ac arfer orau cyfredol y diwydiant

7      Adeiladu a lleoli rigiau a rhoi camerâu ac ategolion yn sownd heb achosi niwed i gerbydau, trelars nac anaf i bobl

8      Defnyddio deunyddiau, rhaffau, clymau neu strapiau hogi er mwyn atal unrhyw symud diangen

9      Gwirio fod rigiau’n cwrdd â gofynion diogelwch yn achos brecio mewn argyfwng

10   Darparu harneisiau diogelwch sydd o fewn dyddiad ar gyfer pob personél cynhyrchu addas

11   Cyfarwyddo pobl berthnasol ynghylch sut i ddefnyddio harneisiau diogelwch

12   Darparu gwarchodaeth amgylcheddol ar gyfer offer a phobl, sy’n ddiogel a sownd, yn unol â deddfwriaeth, canllawiau ac arfer orau cyfredol y diwydiant

13   Cael pob caniatâd a chliriad arbennig gan ffynonellau perthnasol

14   Cynghori staff cynhyrchu perthnasol pan fydd angen caniatâd arbennig

15   Rhoi gwybod i staff cynhyrchu addas am unrhyw rwystr neu amgylchiad sy’n effeithio ar y gallu i weithio’r rig yn ddiogel

16   Dangos fod rigiau’n ddiogel ar gyfer pellter a thaith lawn eu defnydd bwriedig

17   Cyfathrebu gwybodaeth berthnasol i yrwyr ar adegau addas i’w galluogi i weithredu’r cerbydau yn unol â gofynion iechyd a diogelwch

18   Sicrhau a diogelu offer pan nad yw’n cael ei ddefnyddio yn unol â chyfarwyddiadau’r gwneuthurwyr


Gwybodaeth a Dealltwriaeth

You need to know and understand:

1      Deddfwriaeth, canllawiau ac arfer orau cyfredol y diwydiant

2      Sut i gyfrifo cyfanswm pwysau unrhyw offer technegol, propiau neu bobl

3      Ffynonellau gwybodaeth ynghylch llwybrau arfaethedig a chyflymder cerbydau neu drelars a’u hoblygiadau i rigiau a phobl

4      Natur yr arwynebedd y gyrrir arno, ac effaith hynny ar rigiau a phobl

5      Terfynau eich arbenigedd a ble mae’n addas i alw ar arbenigwyr eraill

6      Manteision gweithio mewn tîm a sut i gyfathrebu ag eraill

7      Sut i weithio ar y cyd â gyrwyr a phryd a sut i gyfathrebu gyda nhw

8      Sut i adnabod rhwystrau neu beryglon posib o fewn i gylch gweithredu rigiau

9      Ffynonellau gwybodaeth am niferoedd a lleoliadau staff cynhyrchu mewn rigiau neu arnynt

10   Ffynonellau gwybodaeth am safleoedd bwriedig ac unrhyw ddigwyddiadau ategol neu agos

11   Sut i adeiladu rigiau heb achosi niwed i gerbydau na threlars, na niwed i bobl

12   Y mathau gwahanol o ddeunyddiau i ddarparu sadrwydd a diogelwch ychwanegol

13   Mesurau i’w dilyn i sicrhau fod yr holl bobl yn ddiogel

14   Dyfeisiadau i’w defnyddio i warchod offer camera rhag niwed allanol

15   Caniatâd arbennig y gellir bod angen ei gael pan fydd angen defnyddio cerbydau ar y briffordd gyhoeddus

16   Pryd i roi gwybod i’r tîm cynhyrchu am unrhyw rwystr i weithredu diogel

17   Sut i ddiogelu offer pan nad yw’n cael ei ddefnyddio

18   Pam ei bod hi’n bwysig cadw offer yn sych ac yn rhydd o lwch, tywod a malurion eraill

19   Yr Offer Gwarchod Personol (PPE) angenrheidiol


Cwmpas/ystod


Cwmpas Perfformiad


Gwybodaeth Cwmpas


Gwerthoedd


Ymddygiadau


Sgiliau


Geirfa


Dolenni I NOS Eraill


Cysylltiadau Allanol


Fersiwn rhif


Dyddiad Adolygu Dangosol

30 Maw 2022

Dilysrwydd

Ar hyn o bryd

Statws

Gwreiddiol

Sefydliad Cychwynnol

Screen Skills (gynt Creative Skillset)

URN gwreiddiol

SKSG10

Galwedigaethau Perthnasol

Gweithredwr Craen (Ffilm a theledu), Grip, Grip dan hyfforddiant, Technegydd Craen (Ffilm a theledu)

Cod SOC

3417

Geiriau Allweddol

Grip, Car, Drelars, Cerbydau, Crane, Camera, Iechyd a diogelwch, Mowntiau