Dehongli gwybodaeth am gynhyrchiad er mwyn cynllunio gweithgaredd y grip

URN: SKSG1
Sectorau Busnes (Suites): Grips a thechnegwyr craeniau
Datblygwyd gan: ScreenSkills
Cymeradwy ar: 30 Maw 2018

Trosolwg

Mae’r Safon hwn yn ymwneud â’ch gallu i ddehongli gwybodaeth am gynhyrchiad a chynllunio gweithgaredd y grip. Efallai y bydd gwybodaeth am gynhyrchiad ar ffurf sgriptiau, trefniadau saethu, rhagddelweddiaethu, delweddiaethu technegol, gwybodaeth sy’n deillio o ymweliadau â safleoedd (recces) a dogfennau cynhyrchu eraill. Bydd angen i chi gynhyrchu eich cynlluniau mewn fformatau derbyniol, gan ymgynghori ag eraill pan fo’n addas.

Mae’r Safon hwn ar eich cyfer chi os ydych chi’n dehongli gwybodaeth am gynhyrchiad  er mwyn cynllunio gweithgaredd grip.

 


Meini prawf perfformiad

Mae'n rhaid eich bod chi'n gallu:

1      Cael gafael ar sgriptiau, rhagddelweddiaethu, delweddiaethu technegol a threfniadau saethu cyn cynllunio gweithgaredd y grip

2      Dadansoddi sgriptiau a threfniadau saethu er mwyn adnabod gofynion gweithgaredd grip

3      Defnyddio gwybodaeth berthnasol o ymweliadau safle a delweddiaethu i adnabod gofynion a chyfyngiadau technegol unrhyw weithgaredd grip

4      Egluro unrhyw amwysedd yn eich dehongliad ynghylch gofynion grip gyda’r bobl addas

5      Rhestru a nodi beth sydd ei angen i gyflawni gweithgaredd grip i gwrdd ag anghenion cynhyrchu

6      Cofnodi cynllun gweithgaredd grip mewn fformat sy’n cwrdd ag anghenion y cynhyrchiad

7      Dogfennu pob agwedd o reoli risg sy’n gysylltiedig â’ch gwaith mewn fformatau gofynnol, gan ddarparu hyn i eraill pan fo gofyn

8     Tynnu sylw pennaeth pob adran berthnasol at unrhyw agwedd o’ch gwaith ar gynhyrchiad a allai gyflwyno risg neu berygl i’w hadran 

9      Cadarnhau gyda’r bobl berthnasol y gellir cyflawni gweithgaredd grip a gynlluniwyd yn unol â deddfwriaeth iechyd a diogelwch

 


Gwybodaeth a Dealltwriaeth

You need to know and understand:

1     Fformat sgript a sut i ddarllen un i adnabod gweithgaredd grip

2      Sut i gael mynediad i ragddelweddiaethu a delweddiaethu technegol ar gyfer cynyrchiadau

3      Sut i ddehongli rhagddelweddiaethu a delweddiaethu technegol er mwyn adnabod gofynion grip

4      Sut i gael gafael ar drefniadau saethu, a’u dehongli, wrth gynllunio gweithgaredd grip

5      Sut y mae gwybodaeth o leoliadau (recces technegol) yn gallu effeithio ar ofynion grip

6      Sut i gael gwybodaeth am leoliad(au) pan nad oeddech chi’n gallu talu ymweliad eich hun

7      Manteision gweithio fel tîm a sut i gyfathrebu ag eraill

8      Gofynion cynhyrchu i’w hystyried wrth gynllunio gweithgaredd grip gan gynnwys diogelwch a lleoliad

9      Sut i gysylltu â phersonél cynhyrchu perthnasol i sicrhau fod gweithgaredd grip a gynlluniwyd yn cwrdd â gofynion

10   Cyllidebau ac amserlenni cynhyrchu a sut y mae’r rhain yn effeithio ar weithgaredd grip

11   Y rhyngberthynas rhwng adrannau eraill a gweithgaredd grip

12   Sut i weithio mewn cydweithrediad ag adrannau eraill

13  Prosesau a dulliau rheoli asesu risg


Cwmpas/ystod


Cwmpas Perfformiad


Gwybodaeth Cwmpas


Gwerthoedd


Ymddygiadau


Sgiliau


Geirfa


Dolenni I NOS Eraill


Cysylltiadau Allanol


Fersiwn rhif


Dyddiad Adolygu Dangosol

30 Maw 2022

Dilysrwydd

Ar hyn o bryd

Statws

Gwreiddiol

Sefydliad Cychwynnol

Screen Skills gynt Creative Skillset

URN gwreiddiol

SKSG1

Galwedigaethau Perthnasol

Gweithredwr Craen (Ffilm a theledu), Grip, Grip dan hyfforddiant, Technegydd Craen (Ffilm a theledu)

Cod SOC

3417

Geiriau Allweddol

Iechyd a diogelwch, Recces, Lleoliadau