Defnyddio golygu i lunio stori

URN: SKSE2
Sectorau Busnes (Suites): Golygu
Datblygwyd gan: ScreenSkills
Cymeradwy ar: 30 Maw 2021

Trosolwg

​Mae'r safon hon yn ymwneud â'r golygydd yn defnyddio, dewis neu fireinio'r cynnwys maen nhw wedi'i gaffael i greu neu lunio'r stori y mae'r cleient yn ei ddychmygu.

Mae'n ymwneud â chyfleu'r stori a'r negeseuon allweddol ynghyd ag adlewyrchu'r nodweddion y mae'r cleient yn bwriadu eu defnyddio.

Mae'r safon ar gyfer y rolau canlynol: golygydd, golygydd cynorthwyol, uwch olygydd a golygydd iau.


Meini prawf perfformiad

Mae'n rhaid eich bod chi'n gallu:

  1. ​cydweithio'n agos gyda'r cleient i ddeall nodau artistig neu gyfathrebu'r prosiect
  2. awgrymu ffyrdd y gallai golygu helpu i gyfleu'r stori a'r negeseuon allweddol
  3. awgrymu ffyrdd y gallai golygu helpu adlewrychu'r nodweddion y mae'r cleient yn bwriadu eu defnyddio
  4. datblygu syniadau newydd sy'n helpu gydag adrodd y stori neu ddatrys unrhyw broblem
  5. golygu dilyniant y deunydd i ail-drefnu neu lunio'r stori
  6. gwerthuso'r saethiadau a'r golygfeydd o ran eu rôl yn y stori
  7. gwneud dyfarniadau technegol ynghylch ansawdd y cynnwys
  8. torri a threfnu saethiadau a golygfeydd i gyfleu cyflymder a rhythm, effaith, cyfeiriad y stori, awyrgylch a thyndra i ymgysylltu'r gynulleidfa gyda'r stori
  9. defnyddio'r adnoddau golygu i gyflawni'r nodau creadigol
  10. ymgysylltu gyda chydweithwyr i adnabod a chomisiynu deunyddiau ac effeithiau ychwanegol i ddatrys problemau neu wella'r cynnwys
  11. gweithio'n greadigol ac yn ddyfeisgar i fodloni'r cyfarwyddyd a chydymffurfio gyda'r canllawiau golygyddol a moesegol

cydweithio gyda'r cleient i wirio ac addasu'ch penderfyniadau fel bod y canlyniad yn adlewyrchu dull cydweithrediadol


Gwybodaeth a Dealltwriaeth

You need to know and understand:

  1. ​sut gallai'r dewis o lwyfannau a sianeli dosbarthu ynghyd â chyd-destun y stori effeithio ar waith golygu

sut caiff penderfyniadau golygu eu heffeithio pan fo'r deunydd yn rhan o gyfres neu pan mae’n bosibl y gallai gael ei ail-olygu ar gyfer ei ddefnyddio yn y dyfodol

  1. y ffynonellau gwybodaeth am anghenion y cleient, y gynulleidfa a'r cyd-destun
  2. sut i asesu ansawdd y deunydd o gymharu â'r safonau artistig disgwyliedig
  3. arddull, dyheadau a geirfa artistig y cleient
  4. y ffyrdd caiff yr awyrgylch, y stori, yr ystyr a'r wybodaeth eu cyfleu mewn gwahanol genres
  5. beth sy'n briodol ar gyfer arddull y cynhyrchiad a sut i sicrhau bod yr awyrgylch yn adlewyrchu'r cynnwys
  6. sut i ragweld llif y stori a safbwynt posib y gynulleidfa am y stori
  7. y cyfraniadau posib i brosiect gan gydweithwyr ôl gynhyrchiad
  8. sut i adrodd stori a phryd gallai ddialog amgen gynorthwyo'r stori
  9. y technegau, y confensiynau a'r cyfarpar ar gyfer torri

  10. sut gellir torri fideos mewn gwahanol ffyrdd er mwyn cyflawni gwahanol ddeilliannau

  11. sut i gyflwyno syniadau a derbyn a chynnal perthnasau pan gaiff syniadau a gwaith eu barnu neu phan fo'r cyfarwyddyd yn newid
  12. pryd a sut i ddefnyddio cyfarpar golygu i wella'r stori

y safonau gwylio cyfredol a'r safonau proffesiynol, cenedlaethol a rhyngwladol cyfredol y gellir eu cyflawni ynghyd â mynegiannau o ran ymarfer gorau ar gyfer yr ystod o lwyfannau a chynnwys


Cwmpas/ystod


Cwmpas Perfformiad


Gwybodaeth Cwmpas


Gwerthoedd


Ymddygiadau


Sgiliau


Geirfa


Dolenni I NOS Eraill


Cysylltiadau Allanol


Fersiwn rhif


Dyddiad Adolygu Dangosol

30 Maw 2026

Dilysrwydd

Ar hyn o bryd

Statws

Gwreiddiol

Sefydliad Cychwynnol

ScreenSkills

URN gwreiddiol

SKSE2

Galwedigaethau Perthnasol

Gweithwyr Proffesiynol Cysylltiedig a Galwedigaethau Technegol, Y Cyfryngau a Chyhoeddi, Gweithwyr Proffesiynol Cyswllt ym maes Dylunio, Y Celfyddydau, Y Cyfryngau a chyfathrebu, Crefftau, y celfyddydau creadigol a dylunio

Cod SOC

3417

Geiriau Allweddol

golygu; stori; golygydd; cyfryngau; cynhyrchydd; cyfarwyddwr; cleient; negeseuon allweddol; genre; nodweddion; cyfleu