Gosod a rheoli goleuadau ar gyfer saethiadau camera unigol

URN: SKSC7
Sectorau Busnes (Suites): Camera
Datblygwyd gan: ScreenSkills
Cymeradwy ar: 30 Maw 2020

Trosolwg

​Mae'r safon hon yn ymwneud â defnyddio goleuadau i amlygu lluniau ar gyfer saethiadau camera unigol. Fe allai hyn fod yn berthnasol i unrhyw fath o gynhyrchiad gan gynnwys ffilmiau nodwedd, dramâu Teledu, hysbysebion, rhaglenni dogfen, rhaglenni chwaraeon, darllediadau tu allan a digwyddiadau byw neu ar lwyfannau.  

Mae hyn yn cynnwys dewis goleuadau, ategolion, hidlwyr a'r cyfarpar, eu gosod yn ddiogel, defnyddio rheolyddion a gosodiadau camera a fydd yn effeithio ar yr amlygiad, datrys problemau a chofnodi gwybodaeth ar gyfer ail-gynhyrchu.

Mae'r safon hon ar gyfer gweithredwyr Camera sy'n gyfrifol am osod a rheoli goleuadau ar gyfer saethiadau camera unigol.


Meini prawf perfformiad

Mae'n rhaid eich bod chi'n gallu:

  1. cadarnhau gofynion saethiadau gan ddefnyddio gwybodaeth gan ffynonellau perthnasol
  2. dewis goleuadau ac ategolion sy'n gweddu i'r pŵer sydd ar gael a'r gofynion technegol
  3. gwirio bod y goleuadau a'r ategolion yn ddiogel i'w defnyddio ac yn addas i'r diben
  4. dewis safleoedd ar gyfer goleuadau a'r cyfarpar rheoli sy'n diwallu anghenion y cynhyrchiad
  5. rigio a gosod goleuadau yn unol â'r dulliau diogel o weithio ichi ac eraill heb ddifrodi'r eiddo  
  6. gofalu bod y goleuadau'n cynnig y tymheredd lliw gofynnol i ddiwallu anghenion y cynhyrchiad drwy gydol y saethiadau
  7. dewis hidlwyr, ategolion ac effeithiau sy'n cyflawni'r deilliannau artistig a thechnegol
  8. cyflawni'r effeithiau gofynnol drwy gydbwysedd gwyn, cynnydd (gain) a rheolyddion y glicied caead drwy gydol y saethiadau
  9. gosod gosodiadau amlygu sy'n diwallu'r anghenion o ran ffocws ac sy'n briodol ar gyfer hidlwyr ac effeithiau
  10. canfod datrysiadau effeithiol pan fo amodau'n peri problemau
  11. monitro ac addasu amlygiad i fodloni'r gofynion drwy gydol y saethiadau
  12. bodloni'r gofynion goleuo gan gadw at y cyllidebau y cytunwyd arnyn nhw
  13. cofnodi gwybodaeth am oleuo fel bod modd ail-gynhyrchu saethiadau pan fo'n briodol

Gwybodaeth a Dealltwriaeth

You need to know and understand:

  1. y ffynonellau gwybodaeth am ofynion saethiadau gan gynnwys sgriptiau a'ch cydweithwyr ar y cynhyrchiad
  2. y mathau o oleuadau sy'n addas ar gyfer camerâu gan ystyried y maint, pŵer, manylion technegol, dosbarthiad, goleuder a system rheoli'r goleuadau
  3. y problemau gyda gwaith y tu hwnt i'r stiwdio gan gynnwys y cyfanswm pŵer sydd ar gael, llwythi a goblygiadau defnyddio nifer o oleuadau ar y prif gyflenwad pŵer
  4. y ffynonellau pŵer a'r trefniadau pan nad ydyn nhw ar gael
  5. egwyddorion sylfaenol sinematograffi a ffotograffiaeth
  6. y ddeddfwriaeth iechyd diogelwch perthnasol, asesiadau risg a'r cyfarwyddiadau eraill ar gyfer ffynonellau pŵer a'r cyfarpar rydych yn ei ddefnyddio ynghyd â sut i weithredu ffyrdd diogel o weithio gan gynnwys pryd fydd angen tystysgrif Profi Offer Cludadwy (PAT) a sut i wirio ei fod o wedi'i gyflawni
  7. y problemau cyffredin gydag amodau goleuo a sut i'w datrys nhw ynghyd ag effeithiau lleoliadau, amodau hinsoddol ac amser y dydd ar y goleuo
  8. sut i rigio goleuadau
  9. y cysyniadau sylfaenol ynghlwm â goleuo ac amlygiad, gofynion amlygu'r saethiad a nodweddion y camera a all effeithio ar yr amlygiad
  10. y dulliau hwyluso symudiadau rhwng goleuadau mewnol ac allanol
  11. y mathau cyffredin o hidlwyr, eu defnyddiau a ffactorau amlygu ynghyd â defnyddiau a chyfyngiadau systemau amlygiad awtomatig
  12. ble i ganfod gwybodaeth am gyllidebau cynyrchiadau
  13. beth sydd angen ei gofnodi er mwyn hwyluso cydweddu gydag unrhyw ddeunydd dilynol gofynnol eraill

Cwmpas/ystod


Cwmpas Perfformiad


Gwybodaeth Cwmpas


Gwerthoedd


Ymddygiadau


Sgiliau


Geirfa


Dolenni I NOS Eraill


Cysylltiadau Allanol


Fersiwn rhif


Dyddiad Adolygu Dangosol

31 Maw 2024

Dilysrwydd

Ar hyn o bryd

Statws

Gwreiddiol

Sefydliad Cychwynnol

ScreenSkills

URN gwreiddiol

SKSC22

Galwedigaethau Perthnasol

Y Cyfryngau a Chyhoeddi, Y Celfyddydau, Y Cyfryngau a chyfathrebu, Gweithwyr Proffesiynol Cysylltiedig â’r Cyfryngau

Cod SOC

3417

Geiriau Allweddol

camera; rheolyddion camera; gosodiadau; effeithiau; amlygiad; awyrgylch y saethiad; hidlwyr; hidlwr; cyfarpar goleuo; cywiro lliw