Rigio ceblau ar gyfer cynyrchiadau

URN: SKSC6
Sectorau Busnes (Suites): Camera
Datblygwyd gan: ScreenSkills
Cymeradwy ar: 30 Maw 2020

Trosolwg

​Mae'r safon hon yn ymwneud â rigio ceblau ar gyfer cynyrchiadau gyda gofynion sylweddol yn ymwneud â cheblau. Fe allai hyn fod yn berthnasol i unrhyw fath o gynhyrchiad gan gynnwys ffilmiau nodwedd, dramâu Teledu, hysbysebion, rhaglenni dogfen, rhaglenni chwaraeon, darllediadau tu allan a digwyddiadau byw neu ar lwyfannau ond mae'n bwysig yn benodol i gynyrchiadau darllediadau byw neu ddarllediadau tu allan. Fe allai fod yn berthnasol i gynhyrchiad aml-gamera neu gamera unigol.

Mae’n cynnwys ag adnabod y ceblau cywir a gofalu eu bod nhw ar gael, gosod a diogelu ceblau yn unol â'r gofynion diogelwch ynghyd â gosod ceblau dros ben a cheblau ategol.

Mae'r safon hon ar gyfer unrhyw un sy'n rigio ceblau ar gyfer cynyrchiadau.


Meini prawf perfformiad

Mae'n rhaid eich bod chi'n gallu:

  1. gwirio'r ceblau, a gofalu bod y ceblau gofynnol ar gael ar gyfer y cyfarpar rydych yn ei ddefnyddio 
  2. symud y ceblau i'r safle gofynnol gan ddefnyddio peirianwaith codi neu dechnegau codi cywir
  3. gwirio bod y pwyntiau cebl, llwybrau ceblau ac unrhyw geblau patch yn cydymffurfio gyda'r wybodaeth a roddwyd

  4. trefnu pwyntiau a llwybrau ceblau er mwyn lleihau unrhyw geblau'n croesi ac fel eu bod nhw'n agos i safleoedd arfaethedig y camerâu

  5. gosod ceblau dros ben er mwyn atal y ceblau rhag clymu neu droelli pan fyddwch yn eu defnyddio
  6. gofalu eich bod yn rhwymo'r ceblau lle maen nhw'n plygu'n naturiol
  7. diogelu ceblau er mwyn osgoi pwysau ar blygiau a socedi
  8. diogelu unrhyw geblau tonnog ar hyd y ceblau camera
  9. hongian neu oleddfu ceblau er mwyn osgoi rhwystro llwybrau mynediad, mynedfeydd neu allanfeydd ac er mwyn cydymffurfio gyda'r safonau diogelwch perthnasol
  10. gwirio bod y gwaith rigio yn cydymffurfio gyda'r gweithdrefnau iechyd a diogelwch

Gwybodaeth a Dealltwriaeth

You need to know and understand:

  1. y mathau o geblau, cysylltwyr a chyfarpar cydgysylltu
  2. sut i wirio soletrwydd ceblau a chysylltwyr, a chydgysylltiad cyfarpar
  3. y dulliau o gludo neu godi ceblau
  4. sut i adnabod diffygion cyffredin a phwy i'w hysbysu yn eu cylch
  5. agweddau diogelwch ac amgylcheddol llwybro ceblau
  6. sut i drin a hongian ceblau heb achosi unrhyw ddifrod neu beryg i bobl eraill
  7. goblygiadau ceblau'n croesi a sut i'w hosgoi
  8. sut i ddeall cynlluniau ceblau
  9. sut i osgoi ceblau'n clymu neu droelli
  10. sut i ddiogelu ceblau
  11. pa weithdrefnau diogelwch sy'n berthnasol i rigio ceblau
  12. sut i rigio ceblau er mwyn lleihau ymyriad trydanol

Cwmpas/ystod


Cwmpas Perfformiad


Gwybodaeth Cwmpas


Gwerthoedd


Ymddygiadau


Sgiliau


Geirfa


Dolenni I NOS Eraill


Cysylltiadau Allanol


Fersiwn rhif


Dyddiad Adolygu Dangosol

31 Maw 2024

Dilysrwydd

Ar hyn o bryd

Statws

Gwreiddiol

Sefydliad Cychwynnol

ScreenSkills

URN gwreiddiol

SKSC10

Galwedigaethau Perthnasol

Y Cyfryngau a Chyhoeddi, Y Celfyddydau, Y Cyfryngau a chyfathrebu, Y Celfyddydau Perfformio, Gweithwyr Proffesiynol Cysylltiedig â’r Cyfryngau

Cod SOC

3417

Geiriau Allweddol

camera; gweithrediadau camera; rheoli ceblau; ceblau; llwybro; cysylltu; digwyddiadau byw; arddangosfeydd; rigio