Cynnal a chadw camerâu ffilm
Trosolwg
Mae'r safon hon yn ymwneud â chynnal a chadw camerâu ffilm yn barhaus. Mae hyn yn berthnasol i gamerâu ffilm. Fe allai hyn fod yn berthnasol i unrhyw fath o gynhyrchiad ond mae'n fwyaf tebygol o fod yn berthnasol i ffilmiau nodwedd, dramâu Teledu neu hysbysebion.
Mae’n cynnwys iro mecanweithiau dwyn ffilm ymlaen, glanhau rhannau y mae modd i'r defnyddwyr eu cyrraedd, gwirio cyflinelliad a thracio, tynnu ffilm sy'n sownd, adnabod diffygion a'r cydrannau sydd wedi torri, cymryd camau unioni a chyfathrebu gydag eraill pan na allwch chi ddatrys unrhyw broblemau.
Mae'r Safon hon yn berthnasol i'r rheiny sy'n gweithio fel peirianwyr Lensys neu beirianwyr Camera.
Meini prawf perfformiad
Mae'n rhaid eich bod chi'n gallu:
- iro cydrannau perthnasol o fecanyddion dwyn ffilm ymlaen
- cynnal a chadw mecanyddion camerâu ffilm pan fo'n briodol
- glanhau holl rannau'r camerâu ffilm y mae modd i'r defnyddwyr eu cyrraedd
- gwirio cyflinelliad y lensys a thracio yn unol â chyfarwyddiadau'r gwneuthurwyr
- tynnu ffilm sy'n sownd a datrys unrhyw broblemau yn sgil ffilm sy'n sownd
- defnyddio'r wybodaeth briodol i adnabod unrhyw ddiffygion mecanyddol neu drydanol a'r cydrannau sydd wedi torri
- cymryd camau unioni i ddatrys diffygion neu broblemau eraill sy'n berthnasol i'ch maes arbenigedd chi
- cyfathrebu gyda'r bobl berthnasol am unrhyw ddiffygion neu broblemau eraill na allwch chi eu datrys
- storio camerâu a lensys mewn mannau diogel pan fyddwch chi wedi cwblhau'r gwaith neu pan fyddwch chi wedi eu gadael heb neb i ofalu amdanyn nhw
- cydymffurfio gyda'r gofynion iechyd a diogelwch bob amser
Gwybodaeth a Dealltwriaeth
You need to know and understand:
- prif nodweddion y camerâu ffilm, lensys a'r ategolion cyfredol ynghyd â hen fodelau
- pryd bydd angen cynnal a chadw mecanwaith camera ffilm
- y technegau trin camerâu a'r goblygiadau yn sgil unrhyw ddifrod i gamerâu a ffilm
- y gweithdrefnau a chynnyrch glanhau a chynnal a chadw ar gyfer y cyfarpar camera rydych yn ei ddefnyddio
- y cydrannau mecanweithiau dwyn ffilm ymlaen sydd angen eu hiro gan gynnwys y symudiad, crafanc tynnu lawr a'r pin cofrestru
- sut i adnabod a thynnu'r hyn sy'n achosi i'r ffilm fynd yn sownd
sut i adnabod ac ymdrin â difrod a gwyriad a achoswyd gan ffilm sy'n sownd
- y technegau cyfredol i gynnal a chadw camerâu ffilm a maes lensys
- dangosyddion diffygion mecanyddol neu drydanol a'r cydrannau sydd wedi torri ynghyd â'r camau unioni i'w datrys nhw
- y rolau eraill ynghlwm, fel cyfarwyddwyr ffotograffiaeth, gweithredwyr camera, cyfarwyddwyr a chynorthwywyr 1af ac 2il, a phryd i gyfathrebu gyda nhw
- gofynion y ddeddfwriaeth a gweithdrefnau iechyd a diogelwch perthnasol
- sut i storio camerâu a lensys yn ddiogel
- unrhyw ofynion arbennig i ddiogelu'r cyfarpar pan fyddwch yn ei adael heb neb i ofalu amdano
- cyfarwyddiadau perthnasol y gwneuthurwyr ar gyfer y cyfarpar rydych yn ei ddefnyddio