Monitro dadansoddiad y sgript, dilyniant a manylion camera technegol yn ystod y broses drefnu ac ymarferion

URN: SKSC31
Sectorau Busnes (Suites): Camera
Datblygwyd gan: ScreenSkills
Cymeradwy ar: 30 Maw 2020

Trosolwg

​Mae'r safon hon yn ymwneud â monitro dadansoddiad y sgript, dilyniant a manylion camera technegol yn ystod y broses drefnu a'r ymarferiadau i baratoi ar gyfer y saethu pob dydd. Fe allai hyn fod yn berthnasol i unrhyw fath o gynhyrchiad wedi'i sgriptio gan gynnwys ffilmiau nodwedd a dramâu Teledu. 

Mae'n ymwneud â gwirio gofynion dilyniant, monitro dilyniant, cyfathrebu gyda'r bobl briodol i ofalu eich bod yn cynnal y dilyniant, paratoi rhestrau saethiadau, monitro manylion y sgript a stori, cefnogi actorion gyda'u llinellau, monitro'r broses drefnu dechnegol ac amseru ymarferion. 

Mae'r safon hon yn berthnasol i oruchwylwyr Sgriptiau.


Meini prawf perfformiad

Mae'n rhaid eich bod chi'n gallu:

  1. seilio paratoadau ar gyfer saethiad pob dydd ar y wybodaeth ar daflenni galwad
  2. echdynnu tudalennau sgript y cyfarwyddwyr a lluniau llonydd cyfeirio o fannau penodol
  3. cyflwyno'r holl wybodaeth berthnasol o ran cydweddu i'r dadleuwyr data
  4. paratoi a chadarnhau gofynion dilyniant ar gyfer golygfeydd wedi'u trefnu yn ddyddiol
  5. cadarnhau os byddwch chi'n saethu'r golygfeydd yn ystod y dydd neu gyda'r nos gyda'r bobl berthnasol ynghyd â chadarnhau unrhyw ddefnydd gofynnol o oleuadau ymarferol a chydweddu'r goleuadau
  6. cyfathrebu gyda'r bobl berthnasol am ofynion ynghylch dadansoddiadau'r saethiadau ar gyfer pob golygfa
  7. paratoi rhestrau saethiadau sy'n ymdrin â'r gofynion
  8. monitro trefn pob saethiad drwy gydol yr ymarferion
  9. gofalu na chaiff unrhyw gyfeiriadau neu ddialog wedi'u sgriptio eu hesgeuluso yn ystod yr ymarferion
  10. cynorthwyo actorion gyda'u llinellau pan fo angen
  11. monitro amseriadau ymarferion a rhoi gwybod i'r bobl berthnasol am hydoedd dichonol sy'n rhy hir neu'n rhy fyr
  12. cadw cofnodion cywir ac eglur o safleoedd actorion a safleoedd camerâu ymhob lle a man yn ystod ffilmio
  13. adnabod, cofnodi, a rhoi gwybod i'r bobl briodol am unrhyw newidiadau i safleoedd actorion neu gamerâu
  14. gwirio bod y dirprwy actorion yn cyflawni'r symudiadau, troeon a gweithrediadau cywir er dibenion goleuo 
  15. monitro symudiadau'r camerâu a'r mannau stopio gan roi gwybod i'r bobl berthnasol am unrhyw broblemau golygu dichonol
  16. cyfathrebu gyda'r bobl berthnasol am oblygiadau dilyniant yn sgil unrhyw newidiadau i olygfeydd
  17. cyflwyno rhifau llechi a golygfeydd i'r bobl berthnasol ar adegau priodol
  18. cyfathrebu gydag adrannau perthnasol am faterion penodol yn ymwneud â dilyniant ar adegau priodol
  19. mynd i'r afael ag unrhyw faterion yn ymwneud â dilyniant cyn gynted â phosibl

Gwybodaeth a Dealltwriaeth

You need to know and understand:

  1. ​gwybodaeth ar daflenni galwad i'w defnyddio er mwyn paratoi ar gyfer saethiadau'r diwrnod canlynol
  2. y mathau o wybodaeth sy'n ofynnol ar gyfer cydweddu a'r camau ynghlwm â hynny
  3. y wybodaeth i'w chyflwyno ar restrau saethiadau
  4. pam ei bod hi'n bwysig i roi sylw rhagorol i fanylder
  5. sut mae amseriadau'n effeithio ar ofynion ar gyfer y cyflenwad ffilm a sut mae hyn yn berthnasol i lwythwyr clepio
  6. sut mae amseriadau'n effeithio ar hyd y sgript
  7. sut mae symudiadau camera a phwyntiau stopio wrth ffilmio yn effeithio ar y gofynion golygu
  8. lle i ganfod gwybodaeth am saethu golygfeydd yn ystod y dydd neu gyda'r nos gan gynnwys gan gyfarwyddwyr a ffilmwyr
  9. y goblygiadau ynghlwm â goleuo golygfeydd i'w saethu yn ystod y dydd neu gyda'r nos
  10. pryd a pham y bydd angen goleuadau ymarferol ar setiau
  11. y goblygiadau dilyniant dichonol ynghlwm a newidiadau i olygfeydd a phwy ddylech chi gydweithio gyda nhw yn eu cylch
  12. yr adegau priodol i gyfathrebu gyda'r adrannau camera, cynhyrchu ac adrannau eraill yn ystod y broses drefnu ac ymarfer
  13. gofynion y ddeddfwriaeth a gweithdrefnau Iechyd a Diogelwch perthnasol
  14. sut i gofnodi safleoedd actorion a'r camerâu a phwy i'w hysbysu ynghylch unrhyw newidiadau 
  15. adrannau mae'n bosib y bydd gofyn ichi gydweithio gyda nhw ynghylch materion dilyniant penodol a sut i gysylltu gyda nhw gan gynnwys yr adrannau gwallt, colur, gwisg a phropiau
  16. pwy sydd angen y wybodaeth am rifau'r llechi a golygfeydd gan gynnwys ail gynorthwywyr, llwythwyr clepio, a'r gweithwyr sain
  17. sut i fonitro dialog a'r ffilmio gan gymharu gyda'r sgript
  18. sut i gynorthwyo actorion gydag ymarfer eu llinellau
  19. pryd a sut i brocio cof actorion
  20. sut i weithio'n effeithiol gydag actorion a'r dirprwy actorion

Cwmpas/ystod


Cwmpas Perfformiad


Gwybodaeth Cwmpas


Gwerthoedd


Ymddygiadau


Sgiliau


Geirfa


Dolenni I NOS Eraill


Cysylltiadau Allanol


Fersiwn rhif


Dyddiad Adolygu Dangosol

31 Maw 2024

Dilysrwydd

Ar hyn o bryd

Statws

Gwreiddiol

Sefydliad Cychwynnol

ScreenSkills

URN gwreiddiol

SKSCSS3

Galwedigaethau Perthnasol

Y Cyfryngau a Chyhoeddi, Y Celfyddydau, Y Cyfryngau a chyfathrebu, Gweithwyr Proffesiynol Cysylltiedig â’r Cyfryngau

Cod SOC

3417

Geiriau Allweddol

camera; ymarferion; gofynion dilyniant; manylion technegol; ymarferion; sgript