Cynnal a chadw batris camerâu yn ystod saethiadau

URN: SKSC27
Sectorau Busnes (Suites): Camera
Datblygwyd gan: ScreenSkills
Cymeradwy ar: 30 Maw 2020

Trosolwg

​Mae'r safon hon yn ymwneud â chynnal a chadw batris camerâu yn ystod saethiadau. Fe allai hyn fod yn berthnasol i unrhyw fath o gynhyrchiad gan gynnwys ffilmiau nodwedd, dramâu Teledu, hysbysebion, rhaglenni dogfen, rhaglenni chwaraeon, darllediadau tu allan a digwyddiadau byw neu ar lwyfannau. Fe allai fod yn berthnasol i gynyrchiadau aml-gamera neu gamera unigol.

Mae'n ymwneud â gofalu y caiff batris a'r gwefrwyr priodol eu defnyddio, monitro'r batris caiff eu defnyddio, gweithredu trefniadau gwefru, trefnu a labelu batris wedi'u gwefru a threfnu man storio priodol ar gyfer batris.

Mae'r safon hon ar gyfer unrhyw aelod o'r criw camera sy'n cynnal a chadw batris yn ystod saethiada.


Meini prawf perfformiad

Mae'n rhaid eich bod chi'n gallu:

  1. ​gwirio a chynghori ar y mathau addas o fatris
  2. monitro'r batris rydych yn eu defnyddio'n barhaus  
  3. rhoi gwybod i'r bobl berthnasol pan fo angen newid y batris
  4. gwirio bod y gwefrwyr yn addas ar gyfer y batris rydych yn eu defnyddio
  5. gwefru'r batris yn unol â'r gofynion iechyd a diogelwch a'r gweithdrefnau gwefru y cytunwyd arnyn nhw
  6. trefnu a gweithredu trefn ail-wefru fel bod yna gyflenwad cyson o fatris wedi'u gwefru
  7. cadw digon o fatris er mwyn diwallu'r anghenion saethu a gwefru
  8. rhifo'r batris wedi'u gwefru yn unol â'r drefn rydych yn bwriadu eu defnyddio
  9. storio batris yn unol â chyfarwyddiadau'r gwneuthurwyr
  10. prynu cyfleusterau arbennig i storio batris pan fo angen

Gwybodaeth a Dealltwriaeth

You need to know and understand:

  1. ​goblygiadau batris yn colli pŵer neu'n diffodd yn gyfan gwbl yn ystod saethiad
  2. pwy ddylech chi eu hysbysu pan fo angen newid batris
  3. sut a phryd i ymddwyn yn ymwthgar wrth ymwneud â gofynion newid batris
  4. y batris a'r gwefrwyr priodol sy'n cyd-fynd gyda'i gilydd
  5. sut i wefru a chydbwyso batris yn ddiogel
  6. y mathau o fatris ac oes cymharol batris  
  7. effeithiau tymheredd ar fatris
  8. sut i storio batris yn ddiogel ac a oes unrhyw ofynion storio arbennig
  9. sut i drefnu batris ar gyfer eu gwefru
  10. sut i labelu batris yn unol â'u statws
  11. sut i atal dadwefru mewn camgymeriad
  12. pa ddulliau sy'n bodoli er mwyn monitro'r batris rydych yn eu defnyddio

Cwmpas/ystod


Cwmpas Perfformiad


Gwybodaeth Cwmpas


Gwerthoedd


Ymddygiadau


Sgiliau


Geirfa


Dolenni I NOS Eraill


Cysylltiadau Allanol


Fersiwn rhif


Dyddiad Adolygu Dangosol

31 Maw 2024

Dilysrwydd

Ar hyn o bryd

Statws

Gwreiddiol

Sefydliad Cychwynnol

ScreenSkills

URN gwreiddiol

SKSC13

Galwedigaethau Perthnasol

Y Cyfryngau a Chyhoeddi, Y Celfyddydau, Y Cyfryngau a chyfathrebu, Gweithwyr Proffesiynol Cysylltiedig â’r Cyfryngau

Cod SOC

3417

Geiriau Allweddol

camera; batris; gwefrwyr; batris camera; cyfleusterau storio; storio; pŵer