Cynorthwyo gweithredwyr camera yn ystod y broses trefnu cyfarpar a’r ymarferion

URN: SKSC24
Sectorau Busnes (Suites): Camera
Datblygwyd gan: ScreenSkills
Cymeradwy ar: 30 Maw 2020

Trosolwg

​Mae'r safon hon yn ymwneud â chynorthwyo gweithredwyr camera yn ystod y broses trefnu offer a'r ymarferion. Fe allai hyn fod yn berthnasol i unrhyw fath o gynhyrchiad gan gynnwys ffilmiau nodwedd, dramâu Teledu, hysbysebion, rhaglenni dogfen, rhaglenni chwaraeon, darllediadau tu allan a digwyddiadau byw neu ar lwyfannau. 

Mae hyn yn cynnwys dewis a pharatoi lensys, cofnodi gofynion marcio, gosod marciau ffocws a galw ac egluro systemau codio lliwiau i actorion.

Mae'r safon yn berthnasol i'r rheiny sy'n gyfrifol am gynorthwyo gweithredwyr camera yn ystod y broses trefnu cyfarpar a'r ymarferion gan gynnwys y rheiny sy'n gweithio fel 2il Gynorthwywyr neu Lwythwyr clepio.


Meini prawf perfformiad

Mae'n rhaid eich bod chi'n gallu:

  1. cynorthwyo gweithredwyr camera pan fo'n ofynnol er mwyn bodloni gofynion y cynhyrchiad
  2. gwirio bod cyflenwad digonol o lensys penodol ar gael
  3. paratoi lensys penodol i'w defnyddio yn unol â gofynion y cynhyrchiad
  4. cyflenwi'r lensys sydd wedi'u paratoi i'r bobl briodol pan fo'n ofynnol
  5. trin lensys gan sicrhau eich bod yn eu cadw mewn cyflwr digonol bob amser
  6. gosod marciau ffocws a galw yn unol â gofynion y cynhyrchiad
  7. cofnodi marciau ffocws ar ffurfiau priodol
  8. marcio safleoedd actorion a'r camerâu gan ddefnyddio'r systemau codio lliwiau cywir
  9. egluro systemau codio lliwiau i actorion ar adegau na fydd yn amharu ar y cynyrchiadau
  10. gweithio ar y set yn unol â gofynion iechyd a diogelwch y cynhyrchiad

Gwybodaeth a Dealltwriaeth

You need to know and understand:

  1. nodweddion allweddol lensys cyfredol
  2. y technegau trin a symud cyfarpar a goblygiadau unrhyw ddifrod i lensys
  3. y gweithdrefnau a'r cynnyrch glanhau a chynnal a chadw ar gyfer lensys
  4. pryd mae hi'n briodol i chi gynorthwyo gweithredwyr camera
  5. sut i wirio cyflenwadau lensys
  6. sut i ddehongli gofynion ar gyfer paratoi lensys
  7. buddion mynychu'r ymarferion cyntaf
  8. buddion gosod marciau ffocws a marciau galw ar gyfer eraill
  9. sut i ddehongli gofynion ar gyfer marciau ffocws a galw o'r ymarfer
  10. systemau codio lliwiau cymeradwy y diwydiant ar gyfer marciau ffocws a galw
  11. rolau eraill sydd ynghlwm â'r cynhyrchiad, fel gweithredwyr camera, a chynorthwywyr camera 1af neu dynwyr ffocws, a phryd i gyfathrebu gyda nhw
  12. unrhyw ofynion arbennig i ddiogelu'r cyfarpar pan fyddwch yn ei adael heb neb i ofalu amdano
  13. gofynion y ddeddfwriaeth a gweithdrefnau Iechyd a Diogelwch perthnasol

Cwmpas/ystod


Cwmpas Perfformiad


Gwybodaeth Cwmpas


Gwerthoedd


Ymddygiadau


Sgiliau


Geirfa


Dolenni I NOS Eraill


Cysylltiadau Allanol


Fersiwn rhif


Dyddiad Adolygu Dangosol

31 Maw 2024

Dilysrwydd

Ar hyn o bryd

Statws

Gwreiddiol

Sefydliad Cychwynnol

ScreenSkills

URN gwreiddiol

SKSC24

Galwedigaethau Perthnasol

Y Cyfryngau a Chyhoeddi, Y Celfyddydau, Y Cyfryngau a chyfathrebu, Y Celfyddydau Perfformio, Gweithwyr Proffesiynol Cysylltiedig â’r Cyfryngau

Cod SOC

3417

Geiriau Allweddol

camera; saethiad; gwneuthurwyr; cyflenwyr; ategolion; digwyddiadau byw; arddangosfeydd; ymarfer; gofynion iechyd a diogelwch; gweithrediadau camera