Cyfathrebu a chyd-drefnu ar saethiad aml-gamera

URN: SKSC23
Sectorau Busnes (Suites): Camera
Datblygwyd gan: ScreenSkills
Cymeradwy ar: 30 Maw 2020

Trosolwg

​Mae'r safon hon yn ymwneud â chyfathrebu a chyd-drefnu ar saethiad aml-gamera. Mae'n ymwneud â chyfathrebu gyda'r criw camera yn ogystal â chyfathrebu rhwng y criw camera ac eraill sydd ynghlwm â'r cynhyrchiad. Fe allai hyn fod yn berthnasol i unrhyw fath o gynhyrchiad gan gynnwys ffilmiau nodwedd, dramâu Teledu, hysbysebion, rhaglenni dogfen, rhaglenni chwaraeon, darllediadau tu allan a digwyddiadau byw neu ar lwyfannau.

Mae hyn  yn cynnwys chyfathrebu dros radio, porthwyr, monitorau, goleunodau a gan ddefnyddio wybodaeth ysgrifenedig, signalau ac ystumiau. Mae hefyd yn ymwneud â chyd-drefnu gyda gweithredwyr camera eraill i wella ansawdd y saethiadau, amseriad symudiadau'r camera a phontio rhwng saethiadau.

Mae'r safon hon ar gyfer gweithredwyr Camera sy'n gweithio ar gynhyrchiad aml-gamera.


Meini prawf perfformiad

Mae'n rhaid eich bod chi'n gallu:

  1. sicrhau a defnyddio cyfarpar ar gyfer cyfathrebu a chyd-drefnu fel sy'n briodol ar gyfer saethiadau
  2. gwirio bod radios, goleunodau, porthwyr a monitorau'n gweithio heb unrhyw ymyrraeth
  3. atal datgelu unrhyw gyfathrebu ar sain rhaglenni neu'r amgylchedd gweithio
  4. adnabod a dehongli cyfathrebu sy'n benodol i'ch rôl weithredol chi
  5. adnabod a dehongli gwybodaeth caiff ei gyfeirio at weithwyr eraill, ond a all effeithio ar eich rôl weithredol chi
  6. llunio nodiadau gweithredol eglur y bydd modd i weithredwyr eu dehongli pan fo angen
  7. defnyddio signalau neu ystumiau priodol pan fo cyfathrebu ar lafar yn anymarferol
  8. cyfathrebu gydag aelodau'r criw ar adegau priodol
  9. cyfeirio cyfathrebu drwy drydydd parti priodol pan fo angen
  10. cydymffurfio gyda phrotocolau priodol wrth gyfathrebu gyda thimau cynhyrchu neu adrannau eraill
  11. defnyddio goleunodau'r camerâu, porthwyr, monitorau a radios i gydlynu saethiadau camera, symudiadau ac ail-leoliadau ar adegau priodol
  12. defnyddio goleunodau'r camerâu, porthwyr, monitorau a radios i wella ansawdd saethiadau, amseriad symudiadau'r camerâu a phontio rhwng saethiadau
  13. defnyddio porthwyr neu fonitorau i gydlynu'ch saethiadau chi gyda saethiadau gweithredwyr eraill
  14. defnyddio porthwyr neu fonitorau i wella golwg ac amseriad porthi rhwng saethiadau, toriadau, cymysgiadau, toddiadau a disodliadau
  15. defnyddio porthwyr a monitorau i addasu cyfansoddiad saethiad wrth ddefnyddio troslythreniadau, sgriniau hollt neu effeithiau electronig eraill

Gwybodaeth a Dealltwriaeth

You need to know and understand:

  1. y cadwyni a phrotocolau cyfathrebu perthnasol
  2. sut i gyfathrebu gydag aelodau'r criw a phryd y mae'n briodol ichi wneud hynny
  3. y dulliau cyfathrebu di-eiriau mae'n bosib y byddwch yn ei ddefnyddio pan fo angen ichi weithio mewn distawrwydd 
  4. y derminoleg a byrfoddau y caiff eu defnyddio
  5. sut i gael gafael ar, cysylltu a gweithredu gwahanol fathau o radios
  6. yr agweddau iechyd a diogelwch ynghlwm â defnyddio radios mewn mannau gyda graddfa sŵn amgylchynol uchel  
  7. sut i adnabod a dehongli perthnasedd y wybodaeth rydych yn ei derbyn yn gywir
  8. sut i ddefnyddio goleunodau camera, porthwyr, monitorau a radios i wella ansawdd saethiadau
  9. sut a phryd y mae hi'n briodol i gyfathrebu gyda'r tîm cynhyrchu, y tîm lluniau, neu adrannau cyfleusterau eraill
  10. y ffynonellau porthiant gan gynnwys porthwyr ffenestr allanol a phorthwyr cymysg
  11. sut i ddefnyddio porthwyr ffenestri allanol, porthwyr cymysg a monitrau i gyd-lynu a chyflenwi allbwn eich camera gyda chynnwys cyffredinol a pharhaus y rhaglen 
  12. y mathau o wybodaeth gallwch ei defnyddio i wella ansawdd y saethiadau gan gynnwys sŵn rhaglen, sylwebaeth, rhifau saethiadau a'r camerâu, ôl-gyfrif neu gyfrif bariau
  13. sut i ddefnyddio porthwyr a monitorau i wella pontio rhwng saethiadau ac i fonitro unrhyw droslythreniadau neu effeithiau electronig rhwng saethiadau a all effeithio ar gyfansoddiad y llun
  14. y gwahanol fathau o oleunodau camerâu a sut i'w dehongli
  15. y cyfyngiadau ynghlwm â gweithredu goleunodau camerâu
  16. cyfeirio allbwn eich camera a pwy o bosib fydd yn ei ddefnyddio, hyd yn oed pan na fyddwch chi'n bresennol yn y saethiad

Cwmpas/ystod


Cwmpas Perfformiad


Gwybodaeth Cwmpas


Gwerthoedd


Ymddygiadau


Sgiliau


Geirfa


Dolenni I NOS Eraill


Cysylltiadau Allanol


Fersiwn rhif


Dyddiad Adolygu Dangosol

31 Maw 2024

Dilysrwydd

Ar hyn o bryd

Statws

Gwreiddiol

Sefydliad Cychwynnol

ScreenSkills

URN gwreiddiol

SKSC18

Galwedigaethau Perthnasol

Y Cyfryngau a Chyhoeddi, Y Celfyddydau, Y Cyfryngau a chyfathrebu, Gweithwyr Proffesiynol Cysylltiedig â’r Cyfryngau

Cod SOC

3417

Geiriau Allweddol

camera; meic cyswllt electronig; cyd-drefniant gweledol; porthwyr ffenestri camera; saethiad teledu aml-gamera; goleunodau; criw camera