Gosod a monitro paramedrau camerâu a lensys yn ystod saethiadau

URN: SKSC21
Sectorau Busnes (Suites): Camera
Datblygwyd gan: ScreenSkills
Cymeradwy ar: 30 Maw 2020

Trosolwg

​Mae'r safon hon yn ymwneud â gosod a monitro paramedrau camerâu a lensys yn ystod saethiadau. Fe all hyn fod yn berthnasol i gamerâu ffilm neu ddigidol. Fe allai hyn fod yn berthnasol i unrhyw fath o gynhyrchiad gan gynnwys ffilmiau nodwedd, dramâu Teledu, hysbysebion, rhaglenni dogfen, rhaglenni chwaraeon, darllediadau tu allan a digwyddiadau byw neu ar lwyfannau. Fe allai hyn fod yn berthnasol i saethiadau aml-gamera neu gamera unigol.

Mae hyn yn cynnwys dewis a gosod hidlwyr, gosod ac addasu paramedrau camerâu a lensys, cynnig datrysiadau pan fo gosodiadau'n gwrthdaro, monitro effaith ffynonellau golau, monitro gweithrediadau camerâu a datrys problemau.

Mae'r safon yn berthnasol i'r rheiny sy'n gweithio fel Cynorthwywyr 1af neu Dynwyr Ffocws.


Meini prawf perfformiad

Mae'n rhaid eich bod chi'n gallu:

  1. cytuno ar ofynion y cynhyrchiad yn ymwneud â gosodiadau'r camerâu gyda'r bobl briodol
  2. dewis a gosod hidlwyr sy'n bodloni'r gofynion o ran tymheredd lliw a gofynion eraill y cynhyrchiad
  3. gosod agorfa, cyflymder y camera, amledd, y tymheredd lliw, ongl y glicied caead ac ISO i fodloni gofynion y cynhyrchiad ar gyfer saethiadau
  4. defnyddio gosodiadau sy'n dwyn i ystyriaeth ffactorau hidlwyr wedi'u cyfuno
  5. gosod hyd ffocws gofynnol ar gyfer unrhyw lensys closio yn unol â gofynion y cynhyrchiad
  6. awgrymu datrysiadau dichonol pan fyddwch yn adnabod unrhyw wrthdaro rhwng, neu drafferthion gyda, lensys dewisol a gosodiadau camera
  7. hysbysu'r bobl berthnasol am unrhyw broblemau neu gyfyngiadau ynghylch gosodiadau camera na allwch chi eu datrys
  8. gweithredu er mwyn sicrhau nad ydy amleddau fflachio ffynonellau golau'n effeithio ar saethiadau
  9. monitro gweithrediad y camerâu drwy gydol y saethiadau
  10. gwneud unrhyw addasiadau gofynnol i osodiadau camerâu a lensys ar adegau priodol
  11. datrys unrhyw broblemau gyda'r camerâu gan amharu cyn lleied â phosibl ar y cynhyrchiad
  12. gweithio yn unol â'r gofynion iechyd a diogelwch

Gwybodaeth a Dealltwriaeth

You need to know and understand:

  1. ​nodweddion allweddol camerâu, lensys ac ategolion cyfredol ynghyd â hen fodelau
  2. diben lensys macro
  3. cyfyngiadau'r cyfarpar pan fo gofynion y cynhyrchiad yn newid
  4. y feddalwedd ar gyfer cyfradd fframiau ac effaith cyfradd fframiau ar gof y camera
  5. y technegau trîn camerâu a goblygiadau unrhyw ddifrod i gamerâu
  6. galluoedd, cyfyngiadau ac effeithiau gwahanol fathau o gyfarpar optegol cyfredol gan gynnwys lliwiau'r hidlwyr, tymheredd lliw a pharamedrau optegol eraill
  7. yr agweddau i'w hystyried wrth addasu gosodiadau camera gan gynnwys effeithiau ffurfiau camera a hyd ffocws ar ongl weledol, sut i ddadansoddi dyfnder maes a holltiadau ffocws, dyfnderau ffocws fflansys a'u goblygiadau, sut i asesu cyflinelliad closio ac ôl-ffocws a sut mae cylchoedd dryswch yn effeithio ar eglurder lluniau   
  8. ffynonellau golau fflachiog cyffredin, pryd a sut all amleddau ffynonellau golau achosi smotyn adlewyrch yn y lens ac effeithio ar ffenestri ongl y glicied caead ynghyd â sut all blwch tywyllu (matte boxes) a'r atalyddion (flags) ddatrys hyn
  9. y berthynas rhwng amledd a ffenestri ongl y glicied caead

yr agweddau o’r gweithrediadau camera i'w monitro gan gynnwys lefelau batri a phryd i ail-lenwi ffilm y saethiadau

  1. sut i awgrymu datrysiadau i unrhyw broblemau neu gyfyngiadau yn dringar
  2. y rolau eraill ynghlwm â'r cynhyrchiad gan gynnwys cyfarwyddwyr ffotograffiaeth, gweithredwyr camera, cyfarwyddwyr ac 2il gynorthwywyr camera a phryd i gyfathrebu gyda nhw
  3. unrhyw ofynion arbennig i ddiogelu'r cyfarpar pan fyddwch yn ei adael heb neb i ofalu amdano
  4. cyfarwyddiadau perthnasol y gwneuthurwyr ar gyfer y cyfarpar rydych yn ei ddefnyddio
  5. gofynion y ddeddfwriaeth a gweithdrefnau Iechyd a Diogelwch perthnasol

Cwmpas/ystod


Cwmpas Perfformiad


Gwybodaeth Cwmpas


Gwerthoedd


Ymddygiadau


Sgiliau


Geirfa


Dolenni I NOS Eraill


Cysylltiadau Allanol


Fersiwn rhif


Dyddiad Adolygu Dangosol

31 Maw 2024

Dilysrwydd

Ar hyn o bryd

Statws

Gwreiddiol

Sefydliad Cychwynnol

ScreenSkills

URN gwreiddiol

SKSCFP6

Galwedigaethau Perthnasol

Y Cyfryngau a Chyhoeddi, Y Celfyddydau, Y Cyfryngau a chyfathrebu, Gweithwyr Proffesiynol Cysylltiedig â’r Cyfryngau

Cod SOC

3417

Geiriau Allweddol

camera; hidliad; paramedrau lensys; modelau camera; gweithrediadau’r camera; ategolion a chyfarpar; saethu; atodiadau