Cadw a darparu cyflenwad o gyfarpar camera a deunyddiau

URN: SKSC2
Sectorau Busnes (Suites): Camera,Digwyddiadau Byw
Datblygwyd gan: ScreenSkills
Cymeradwy ar: 30 Maw 2020

Trosolwg

​Mae'r safon hon yn ymwneud â chadw a darparu cyflenwad o gyfarpar a deunyddiau camera ar gyfer saethiadau. Fe all hyn fod yn berthnasol i gamerâu ffilm neu ddigidol. Fe allai hyn fod yn berthnasol i unrhyw fath o gynhyrchiad gan gynnwys ffilmiau nodwedd, dramâu Teledu, hysbysebion, rhaglenni dogfen, rhaglenni chwaraeon, darllediadau tu allan a digwyddiadau byw neu ar lwyfannau.

Mae hyn yn cynnwys chadw cyflenwad digonol, storio cyfarpar a deunyddiau, darparu cyfarpar a deunyddiau sy'n barod i'w defnyddio, cadw cofnodion dyddiol o'r defnydd o gyfarpar a'r cyflenwad, dychwelyd cyfarpar nad oes eu hangen rhagor a dosbarthu gwaith papur i'r tîm cynhyrchu.

Mae'r Safon hon yn berthnasol i'r rheiny sy'n gyfrifol am gadw a darparu deunyddiau camera gan gynnwys y rheiny sy'n gweithio fel 2il Gynorthwywyr neu Lwythwyr Clepio.


Meini prawf perfformiad

Mae'n rhaid eich bod chi'n gallu:

  1. cadw cyflenwad digonol o'r cyfarpar a deunyddiau camera gofynnol ar gyfer saethiadau
  2. trin cyfarpar a deunyddiau mewn ffyrdd sy'n diogelu eu cyflwr
  3. storio cyfarpar a deunyddiau camera mewn mannau diogel
  4. cadw cofnodion eglur a chywir o holl nwyddau traul yr adran camera
  5. cadarnhau ydy'r cyfarpar camera gofynnol ar gael gyda'r cyflenwyr a llogwyr priodol
  6. cyfathrebu gyda'r bobl briodol ynghlwm â'r cynhyrchiad ynghylch y costau a threfniadau danfon
  7. cadarnhau amseriadau gyda'r bobl briodol er mwyn gofalu bod cyflenwad digonol o gyfarpar a deunyddiau camera i fodloni gofynion y cynhyrchiad
  8. darparu cyflenwadau digonol o gyfarpar a deunydd camera pan fo'u hangen
  9. darparu cyfarpar a deunyddiau camera sy'n barod i'w defnyddio
  10. cadw cofnodion dyddiol, sy'n eglur a chywir, am yr holl gyfarpar a deunydd camera rydych yn eu defnyddio, eu derbyn a'u hanfon
  11. trefnu dychwelyd unrhyw gyfarpar camera na fyddwch eu hangen rhagor yn unol â gweithdrefnau'r cynhyrchiad
  12. cwblhau a llunio copïau o'r holl waith papur gofynnol i'r bobl briodol ynghlwm â'r cynhyrchiad

Gwybodaeth a Dealltwriaeth

You need to know and understand:

  1. y technegau trin camerâu a goblygiadau unrhyw ddifrod i gamerâu
  2. y cyflenwadau o gyfarpar a deunyddiau gan gynnwys  camerâu, lensys a'r ategolion, cardiau cof camerâu digidol, cyflenwad ffilm, casiau camerâu ffilm a llechi digidol
  3. sut i osod a defnyddio system codau lliw ar gyfer cyflenwadau ffilm a blychau casiau wedi'u llwytho
  4. y gweithrediadau er mwyn gofalu bod cyfarpar yn barod i'w ddefnyddio gan gynnwys gwirio ei fod yn lân, wedi'i gynnal a chadw a bod y cardiau cof digidol wedi'u ffurfio
  5. y gweithdrefnau a nwyddau glanhau a chynnal a chadw ar gyfer y cyfarpar camera rydych yn ei ddefnyddio gan gynnwys glendid yr holl arwynebau gwydr
  6. sut i osod a chyflenwi ystafell dywyll lân a chwbl dywyll ynghyd â man llwytho
  7. pam ei bod hi'n bwysig i gynnal perthnasau gwaith da gyda chyflenwyr a llogwyr cyfarpar camera
  8. y rolau eraill ynghlwm â'r cynhyrchiad, fel gweithredwyr camera, a chynorthwywyr 1af neu dynwyr ffocws, a phryd i gyfathrebu gyda nhw  
  9. sut i storio camerâu a lensys yn ddiogel
  10. unrhyw ofynion arbennig i ddiogelu'r cyfarpar pan fyddwch yn ei adael heb neb i ofalu amdano
  11. cyfarwyddiadau perthnasol y gwneuthurwyr ar gyfer y cyfarpar rydych yn ei ddefnyddio
  12. gofynion y ddeddfwriaeth a gweithdrefnau Iechyd a Diogelwch perthnasol

Cwmpas/ystod


Cwmpas Perfformiad


Gwybodaeth Cwmpas


Gwerthoedd


Ymddygiadau


Sgiliau


Geirfa


Dolenni I NOS Eraill


Cysylltiadau Allanol


Fersiwn rhif


Dyddiad Adolygu Dangosol

31 Maw 2024

Dilysrwydd

Ar hyn o bryd

Statws

Gwreiddiol

Sefydliad Cychwynnol

ScreenSkills

URN gwreiddiol

SKSCCL7

Galwedigaethau Perthnasol

Y Cyfryngau a Chyhoeddi, Y Celfyddydau, Y Cyfryngau a chyfathrebu, Gweithwyr Proffesiynol Cysylltiedig â’r Cyfryngau

Cod SOC

3417

Geiriau Allweddol

camera; cofnodion; saethu; gwneuthurwyr; cyflenwyr; cyflenwadau; ategolion; digwyddiadau byw; arddangosfeydd; cyfarpar