Cyd-drefnu’r criw i osod camerâu yn eu safleoedd priodol

URN: SKSC19
Sectorau Busnes (Suites): Camera,Digwyddiadau Byw
Datblygwyd gan: ScreenSkills
Cymeradwy ar: 30 Maw 2020

Trosolwg

​Mae'r safon hon yn ymwneud â chyd-drefnu'r criw i osod camerâu er mwyn bodloni gofynion y cynhyrchiad. Mae hyn yn ymdrîn ag amseru a'r llwybrau y bydd y camerâu'n eu dilyn. Fe allai hyn fod yn berthnasol i unrhyw fath o gynhyrchiad gan gynnwys ffilmiau nodwedd, dramâu Teledu, hysbysebion, rhaglenni dogfen, rhaglenni chwaraeon, darllediadau tu allan a digwyddiadau byw neu ar lwyfannau.  

Mae hyn yn cynnwys dehongli gofynion saethiadau, dehongli gofynion o ran y camera ar gyfer pob gweithredwr camera, cydymffurfio gyda gofynion diogelwch, cyfathrebu gyda'r criw a phobl eraill perthnasol a datrys problemau.

Mae'r safon hon ar gyfer Gweithredwyr Camera ac unrhyw un arall sy'n gyfrifol am gyd-drefnu'r criw i osod camerâu yn eu safleoedd priodol.


Meini prawf perfformiad

Mae'n rhaid eich bod chi'n gallu:

  1. cydymffurfio gyda'r ddeddfwriaeth iechyd a diogelwch, asesiadau risg a'r cyfarwyddiadau eraill ynghylch dulliau diogel o weithio yn ymwneud â symud cyfarpar camera'n ddiogel
  2. gofalu bod unrhyw dystysgrifau diogelwch neu asesiadau risg gofynnol ar gael, eu bod nhw wedi'u diweddaru ac wedi'u gwirio 
  3. dehongli'r gofynion ynghylch saethiadau ar ffurf cyfarwyddiadau arwahanol ar gyfer y gwahanol weithredwyr sydd ynghlwm â'r cynhyrchiad
  4. rhannu gwybodaeth eglur gyda'r criw am safleoedd y camerâu, llwybrau'r camerâu ac amseriad y symudiadau
  5. gwirio bod y criw yn llunio nodiadau a marciau er mwyn gofalu y caiff saethiadau wedi'u hymarfer eu hail-greu'n fanwl gywir

gofalu bod y criw yn derbyn cyfleusterau cyfathrebu digonol sy'n gweddu i'r cynyrchiadau a'r cyfarpar sy’n cael ei ddefnyddio

  1. trafod llwybrau ac amseriadau symudiadau'r camerâu gyda'r holl bobl berthnasol
  2. goruchwylio symud camerâu ar y cyflymder cywir i gyd-fynd gydag awyrgylch a hyd y saethiadau, gan ddwyn i ystyriaeth unrhyw symudiadau'r artistiaid, tempo cerddorol neu unrhyw gymhelliant arall yn ymwneud â'r perfformiad
  3. trafod problemau gyda'r bobl berthnasol ar unwaith
  4. addasu symudiadau fel y cytunwyd er mwyn datrys problemau

Gwybodaeth a Dealltwriaeth

You need to know and understand:

  1. ​y ddeddfwriaeth Iechyd a Diogelwch, canllawiau'r diwydiant ac unrhyw gyfarwyddiadau perthnasol eraill yn ymwneud â'r cyfarpar camera rydych yn ei ddefnyddio, ynghyd â sut i gydymffurfio gyda dulliau diogel o weithio
  2. sut i gadarnhau bodolaeth tystysgrifau diogelwch ac asesiadau risg ynghyd â'u dilysrwydd
  3. beth mae asesiadau risg yn ymdrin â nhw a'r gwaith ynghlwm â chyflawni asesiadau risg
  4. sut i gydnabod cyfrifoldebau unrhyw staff sy'n derbyn cyfarpar gan y perchennog gwreiddiol, gan ysgwyddo'r cyfrifoldeb cyffredinol dros ddefnyddio'r cyfarpar yn ddiogel  
  5. y gofynion ynghylch gosod camerâu yn y safleoedd cywir
  6. y gwahanol griwiau camera a'u perthynas gyda'i gilydd
  7. sut i bennu cyfrifoldebau i'r staff sydd ar gael

sut i gyd-drefnu’r criw a chyfathrebu â nhw

  1. marciau cymeradwy y diwydiant ar gyfer cofnodi symudiad a safleoedd camerâu
  2. sut i adnabod pwy all gael eu heffeithio gan symudiadau'r camera

gyda phwy ddylech drafod problemau 

  1. pa broblemau all godi, a sut i addasu gweithrediadau i fynd i'r afael â nhw

Cwmpas/ystod


Cwmpas Perfformiad


Gwybodaeth Cwmpas


Gwerthoedd


Ymddygiadau


Sgiliau


Geirfa


Dolenni I NOS Eraill


Cysylltiadau Allanol


Fersiwn rhif


Dyddiad Adolygu Dangosol

31 Maw 2024

Dilysrwydd

Ar hyn o bryd

Statws

Gwreiddiol

Sefydliad Cychwynnol

ScreenSkills

URN gwreiddiol

SKSC19

Galwedigaethau Perthnasol

Y Cyfryngau a Chyhoeddi, Y Celfyddydau, Y Cyfryngau a chyfathrebu, Gweithwyr Proffesiynol Cysylltiedig â’r Cyfryngau

Cod SOC

3417

Geiriau Allweddol

camera; criw camera; amseriadau; gweithredwr camera; digwyddiadau byw; arddangosfeydd; asesiad risg