Dad-rigio cyfarpar camera ar ôl saethiadau

URN: SKSC15
Sectorau Busnes (Suites): Camera
Datblygwyd gan: ScreenSkills
Cymeradwy ar: 30 Maw 2020

Trosolwg

​Mae'r safon hon yn ymwneud â dad-rigio'r camerâu, lensys a'r ategolion ar ôl saethiadau. Fe allai hyn fod yn berthnasol i gamerâu ffilm neu ddigidol. Fe allai hefyd fod yn berthnasol i unrhyw fath o gynhyrchiad gan gynnwys ffilmiau nodwedd, dramâu Teledu, hysbysebion, rhaglenni dogfen, rhaglenni chwaraeon, darllediadau tu allan a digwyddiadau byw neu ar lwyfannau.

Mae hyn yn ymwneud â dad-osod ategolion a lensys, tynnu camerâu oddi ar fowntiau, datgymalu camerâu, gwirio a thrwsio unrhyw ddifrod neu wallau ynghyd â glanhau a phacio cyfarpar.   

Mae'r safon hon yn berthnasol i'r rheiny sy'n gweithio fel Cynorthwywyr 1af, Tynwyr Ffocws neu weithredwyr Camera unigol.


Meini prawf perfformiad

Mae'n rhaid eich bod chi'n gallu:

  1. gofalu bod y camerâu'n ddiogel a'u gwarchod rhag unrhyw ddifrod yn sgil y tywydd
  2. dad-osod ategolion a lensys a thynnu camerâu oddi ar fowntiau yn y drefn gywir gan ddefnyddio'r technegau cywir hefyd
  3. datgymalu camerâu yn unol â chyfarwyddiadau'r gwneuthurwyr
  4. gwirio cyfarpar am wallau, toriadau, colled dŵr, baw a diffygion
  5. glanhau unrhyw gyfarpar camera sydd wedi dod i gyswllt â'r ddaear, dŵr neu sylweddau niweidiol eraill  
  6. trwsio unrhyw namau, doriadau neu ddiffygion sy'n berthnasol i'ch maes arbenigedd chi, gan roi gwybod i'r bobl berthnasol am unrhyw beth na allwch chi eu trwsio
  7. defnyddio Cyfarpar Diogelu Personol (PPE) pan fo'n briodol yn sgil y gofynion iechyd a diogelwch
  8. storio cyfarpar camera yn eu casys gwreiddiol

Gwybodaeth a Dealltwriaeth

You need to know and understand:

  1. y cyfarpar cyfredol a hen fodelau gan gynnwys lensys, hidlwyr, ategolion lensys, pennau, coesau a throliau
  2. y technegau ar gyfer dad-rigio camerâu
  3. y technegau trin camerâu cyfredol a'r math o ddifrod posibl os byddwch yn cam-drin camerâu a'r cyfarpar ac ategolion cysylltiedig
  4. sut i storio cyfarpar camera yn ddiogel
  5. y cyfarpar camera mae'n bosib y bydd angen ichi eu glanhau fel lensys, mowntiau, ceblau a thrybeddau
  6. y gweithdrefnau a deunyddiau cyfredol i lanhau lensys 
  7. eich arbenigedd yn ymwneud â thrwsio namau, toriadau a diffygion a phryd y dylech chi eu cyfeirio at bobl eraill
  8. gofynion y ddeddfwriaeth a gweithdrefnau Iechyd a Diogelwch perthnasol
  9. a oes angen Cyfarpar Diogelu Personol ai pheidio
  10. unrhyw ofynion arbennig i ddiogelu'r cyfarpar pan fyddwch yn ei adael heb neb i ofalu amdano 
  11. cyfarwyddiadau perthnasol y gwneuthurwyr ar gyfer y cyfarpar rydych yn ei ddefnyddio

Cwmpas/ystod


Cwmpas Perfformiad


Gwybodaeth Cwmpas


Gwerthoedd


Ymddygiadau


Sgiliau


Geirfa


Dolenni I NOS Eraill


Cysylltiadau Allanol


Fersiwn rhif


Dyddiad Adolygu Dangosol

31 Maw 2024

Dilysrwydd

Ar hyn o bryd

Statws

Gwreiddiol

Sefydliad Cychwynnol

ScreenSkills

URN gwreiddiol

SKSCFP9

Galwedigaethau Perthnasol

Y Cyfryngau a Chyhoeddi, Y Celfyddydau, Y Cyfryngau a chyfathrebu, Gweithwyr Proffesiynol Cysylltiedig â’r Cyfryngau

Cod SOC

3417

Geiriau Allweddol

camera; lensys; ategolion; dad-rigio; modelau camera; cyfarpar; cyflenwyr