Gosod dewislenni camera ar gyfer gweithredu’r camera

URN: SKSC14
Sectorau Busnes (Suites): Camera
Datblygwyd gan: ScreenSkills
Cymeradwy ar: 30 Maw 2020

Trosolwg

​Mae'r safon hon yn ymwneud â gosod dewislenni camera i weithredu'r camera er mwyn bodloni gofynion y cynhyrchiad. Fe allai hyn fod yn berthnasol i unrhyw fath o gynhyrchiad gan gynnwys ffilmiau nodwedd, dramâu Teledu, hysbysebion, rhaglenni dogfen, rhaglenni chwaraeon, darllediadau tu allan a digwyddiadau byw neu ar lwyfannau. Fe allai hyn fod yn berthnasol i gamerâu digidol neu ffilm ar saethiadau aml-gamera neu gamera unigol.  

Mae'n ymwneud â manteisio ar, addasu, defnyddio a chadw copïau wrth gefn o systemau dewislenni camerâu, gwirio y bydd y prif osodiadau llun a'r gosodiadau llun eilaidd ynghyd â gosodiadau monitorau camera yn cyflawni'r allbynnau gofynnol ynghyd â chau systemau dewislenni yn ddiogel gan beidio ag effeithio ar osodiadau eraill.

Mae'r safon hon ar gyfer unrhyw aelod o'r criw camera sy'n gosod dewislenni camerâu gan gynnwys gweithredwyr Camera unigol.


Meini prawf perfformiad

Mae'n rhaid eich bod chi'n gallu:

  1. defnyddio systemau dewislenni camerâu yn unol â chyfarwyddiadau'r gwneuthurwyr
  2. adnabod a dewis tudalennau dewislenni ac is-ddewislenni ar gyfer y gosodiadau gofynnol
  3. addasu gosodiadau ar ddewislenni camerâu i ddangos yr allbynnau yn y mannau cywir
  4. dewis gosodiadau sy'n cyfunioni gydag unrhyw gamerâu eraill ynghlwm â'r cynhyrchiad
  5. addasu gosodiadau ar ddewislenni camerâu i gyflawni'r allbynnau gofynnol
  6. gwirio bod y gosodiadau gwirioneddol yn ymddangos fel sydd wedi'i ddewis ar ddewislenni'r camerâu
  7. cau systemau dewislenni camerâu gan beidio ag effeithio ar unrhyw osodiadau eraill
  8. rhoi gwybod i'r bobl neu'r adrannau priodol am unrhyw broblemau yn ymwneud â gosod dewislenni camerâu
  9. awgrymu datrysiadau dichonol i broblemau sy'n codi pan fyddwch yn gosod dewislenni camerâu
  10. gweithio gan gydymffurfio gyda'r gweithdrefnau iechyd a diogelwch bob amser

Gwybodaeth a Dealltwriaeth

You need to know and understand:

  1. ​nodweddion allweddol camerâu cyfredol ynghyd â hen fodelau
  2. arddangosiad statws a gosodiadau gwneuthurwyr y caiff eu defnyddio'n gyfredol
  3. gosodiadau addasu camerâu a ffenestri camerâu y caiff eu defnyddio'n gyfredol
  4. sut i adnabod nodweddion gosodiadau dewislenni camerâu
  5. sut i ddarllen dewislenni, is-ddewislenni a dosbarthiadau categorïau
  6. y lleoliadau ar gyfer arddangosiadau gan gynnwys unrhyw ffynonellau allanol, monitorau a ffenestri camerâu gofynnol
  7. sut i adnabod ac addasu unrhyw brif osodiadau llun a gosodiadau llun eilaidd
  8. pam ei bod hi'n bwysig cyfunioni gosodiadau rhwng gwahanol gamerâu pan fyddwch yn gweithio ar gynhyrchiad aml-gamera
  9. sut i bennu gwybodaeth a gosodiadau i wahanol osodiadau defnyddwyr
  10. sut i wneud copi wrth gefn o'r gosodiadau ac ar ba gyfrwng
  11. tudalennau dewislenni ac is-ddewislenni gallwch lwytho ac ysgrifennu gwybodaeth i ac o gardiau cof, cofion bach neu ddyfeisiau eraill
  12. sut i ddarllen, ysgrifennu neu addasu unrhyw newidiadau i gardiau cof, cofion bach neu ddyfeisiau eraill
  13. pwy ddylech chi roi gwybod iddyn nhw am unrhyw broblemau'n gweithredu gosodiadau'r camera
  14. gofynion y ddeddfwriaeth a gweithdrefnau iechyd a diogelwch perthnasol

Cwmpas/ystod


Cwmpas Perfformiad


Gwybodaeth Cwmpas


Gwerthoedd


Ymddygiadau


Sgiliau


Geirfa


Dolenni I NOS Eraill


Cysylltiadau Allanol


Fersiwn rhif


Dyddiad Adolygu Dangosol

31 Maw 2024

Dilysrwydd

Ar hyn o bryd

Statws

Gwreiddiol

Sefydliad Cychwynnol

ScreenSkills

URN gwreiddiol

SKSCTV2

Galwedigaethau Perthnasol

Y Cyfryngau a Chyhoeddi, Y Celfyddydau, Y Cyfryngau a chyfathrebu, Gweithwyr Proffesiynol Cysylltiedig â’r Cyfryngau

Cod SOC

3417

Geiriau Allweddol

camera; gweithrediadau’r camera; gofyniad y cynhyrchiad; systemau camera; gosodiadau llun; saethiadau camerâu cludadwy unigol