Llwytho ffilm mewn camera a gosod yr ategolion

URN: SKSC11
Sectorau Busnes (Suites): Camera
Datblygwyd gan: ScreenSkills
Cymeradwy ar: 30 Maw 2020

Trosolwg

​Mae'r safon hon yn ymwneud llwytho ffilm mewn camerâu a gosod ategolion. Mae'r safon hon yn berthnasol i gamerâu ffilm. Fe allai hyn fod yn berthnasol i unrhyw fath o gynhyrchiad ond mae'n fwy tebygol o fod yn berthnasol i ffilmiau nodwedd, dramâu Teledu neu hysbysebion. Fe allai fod yn berthnasol i gynyrchiadau aml-gamera neu gamera unigol.

Mae'n ymwneud â gosod a diogelu casiau, lasio ffilm, lleihau sŵn y camera, ail-osod rhifyddion lluniau camera a gosod ac addasu ategolion.

Mae'r safon hon yn berthnasol i unrhyw un sy'n gyfrifol am osod ffilm gan gynnwys y rheiny sy'n gweithio fel Cynorthwywyr 1af, Tynwyr Ffocws a Chynorthwywyr Camera.


Meini prawf perfformiad

Mae'n rhaid eich bod chi'n gallu:

  1. monitro defnydd y ffilm a rhoi gwybod i'r bobl berthnasol pan fo angen newid y ffilm
  2. newid casiau ffilm ar adegau sy'n amharu cyn lleied â phosibl ar y saethiadau
  3. cadarnhau bod camerâu ffilm yn lân ac yn barod i dderbyn y casiau
  4. gosod a diogelu casiau yn y mannau priodol
  5. lasio ffilm ar hyd llwybrau ffilm fel ei fod yn rhedeg yn rhwydd pan gaiff y camerâu eu defnyddio
  6. addasu'r traw tynnu lawr fel bod sŵn y camera ffilm mor isel â phosibl
  7. ail-osod y rhifyddion darnau ffilm unwaith y byddwch chi wedi gosod y casiau 
  8. gosod, addasu a defnyddio'r holl ategolion yn unol â chyfarwyddiadau'r gwneuthurwyr
  9. cyfathrebu gyda phobl ac adrannau eraill pan fo'n briodol fel rhan o'ch gwaith
  10. gweithio yn unol â'r gofynion iechyd a diogelwch

Gwybodaeth a Dealltwriaeth

You need to know and understand:

  1. prif nodweddion y camerâu ffilm, lensys a'r ategolion cyfredol ynghyd â hen fodelau
  2. y technegau trin camerâu, y math o ddifrod a all ddigwydd ynghyd â goblygiadau unrhyw ddifrod i gamerâu a ffilm
  3. goblygiadau ffilm yn darfod yn ystod saethiad a sut a phryd i ymddwyn yn ymwthgar ynghylch gofynion newid y ffilm
  4. y rolau eraill ynghlwm â'r cynhyrchiad, fel cyfarwyddwyr ffotograffiaeth, gweithredwyr camerâu, cyfarwyddwyr ac 2il gynorthwywyr camerâu, a phryd i gyfathrebu gyda nhw  
  5. y technegau i ddiogelu'r cyflenwad ffilm rhag y tywydd
  6. unrhyw ofynion arbennig i ddiogelu'r cyfarpar pan fyddwch yn ei adael heb neb i ofalu amdano
  7. cyfarwyddiadau perthnasol y gwneuthurwyr ar gyfer y cyfarpar rydych yn ei ddefnyddio
  8. gofynion y ddeddfwriaeth a gweithdrefnau iechyd a diogelwch perthnasol
  9. sut i ddehongli dangosyddion sy'n berthnasol i ddefnyddio ffilm
  10. sut i baratoi, gosod a diogelu casiau camerâu ffilm
  11. sut i lasio ffilm yn gywir
  12. sut i osod, addasu a defnyddio ategolion gan gynnwys monitorau ar y set, unedau rheolaeth o bell, unedau cysoni electronig, allwyryddion glaw a thapiau fideo
  13. sut i asesu cyflinelliad

Cwmpas/ystod


Cwmpas Perfformiad


Gwybodaeth Cwmpas


Gwerthoedd


Ymddygiadau


Sgiliau


Geirfa


Dolenni I NOS Eraill


Cysylltiadau Allanol


Fersiwn rhif


Dyddiad Adolygu Dangosol

31 Maw 2024

Dilysrwydd

Ar hyn o bryd

Statws

Gwreiddiol

Sefydliad Cychwynnol

ScreenSkills

URN gwreiddiol

SKSCFP2

Galwedigaethau Perthnasol

Y Cyfryngau a Chyhoeddi, Y Celfyddydau, Y Cyfryngau a chyfathrebu, Gweithwyr Proffesiynol Cysylltiedig â’r Cyfryngau

Cod SOC

3417

Geiriau Allweddol

camera; casiau camera; mathau o ffilm; ategolion camera; lasio ffilm; gofynion iechyd a diogelwch