Adnabod cyfarpar camera ar gyfer cynyrchiadau
URN: SKSC1
Sectorau Busnes (Suites): Camera
Datblygwyd gan: ScreenSkills
Cymeradwy ar:
30 Maw 2020
Trosolwg
Mae'r safon hon yn ymwneud ag adnabod y cyfarpar camera priodol i ddiwallu anghenion y cynhyrchiad. Fe allai hyn fod yn berthnasol i unrhyw fath o gynhyrchiad gan gynnwys ffilmiau nodwedd, dramâu Teledu, hysbysebion, rhaglenni dogfen, rhaglenni chwaraeon, darllediadau tu allan a digwyddiadau byw neu ar lwyfannau.
Mae'n cynnwys ag adnabod cyfarpar camera sy'n bodloni gofynion y cynhyrchiad a'r saethiad, trafod opsiynau, ystyried y goblygiadau iechyd a diogelwch a'r gofynion wrth gefn a herio'r dewis o gyfarpar pan nad ydyw'n addas.
Mae'r safon hon ar gyfer unrhyw un sy'n adnabod cyfarpar camera priodol pe bai er eu defnydd nhw neu er defnydd pobl eraill.
Meini prawf perfformiad
Mae'n rhaid eich bod chi'n gallu:
- adnabod cyfarpar camera sy'n gweddu i'r math o leoliad, y cyflenwad trydan a'r defnydd disgwyliedig
- trafod opsiynau o ran cyfarpar camera gyda'r bobl briodol
- adnabod cyfarpar sy'n caniatáu i'r cynhyrchiad fod yn hyblyg ynghyd ag unrhyw ofynion wrth gefn priodol
- adnabod cyfarpar camera sy'n bodloni'r canllawiau diogelwch sy'n berthnasol i'r defnydd a ragwelir
- adnabod cyfarpar camera a fyddai'n bodloni gofynion y cynhyrchiad a bodloni gofynion technegol ac artistig saethiadau penodol
- pennu cyfarpar camera i'r bobl briodol pan fo angen
- adnabod cyfyngiadau'r cyfarpar penodol pan fo gofynion y cynhyrchiad yn newid
- herio'r dewis o gyfarpar sydd ddim yn diwallu anghenion y cynhyrchiad gyda'r bobl briodol
- cofnodi manylion y cyfarpar dewisol yn unol â gofynion y cynhyrchiad
Gwybodaeth a Dealltwriaeth
You need to know and understand:
- y modelau camerâu, ategolion a'r cyfarpar grip cyfredol, a hen fodelau a'u nodweddion, defnyddiau, buddion, cyfyngiadau a chostau gan gynnwys eu pwysau a'u symudoledd
- y feddalwedd ar gyfer cyfradd fframiau ac effaith cyfradd fframiau ar gof y camera
- manteision ac anfanteision y gwahanol opsiynau o ran ffurfiau saethu yn gysylltiedig â gofynion y cynhyrchiad
- sut i wirio bod y cyfarpar yn cydymffurfio gyda'r sianelau
- y goblygiadau iechyd a diogelwch perthnasol pan fyddwch yn penderfynu ar adnoddau
- sut i gyflwyno asesiadau a gofynion yn eglur
- ffurfiau a dulliau'r cynhyrchiad ynghyd â'r gofynion artistig neu dechnegol ac a ydych chi'n rhagweld bod angen unrhyw brosesau effeithiau arbennig gan gynnwys effeithiau labordy neu effeithiau fideo ôl gynhyrchu
- sut i gyfrannu tuag at ddadansoddiad ac amserlenni'r sgript
- sut i asesu'r dewis o gyfarpar gydag unrhyw oblygiadau canlyniadol yn ymwneud â'r amgylchedd saethu
- gofynion y cynhyrchiad gan gynnwys y gofynion o ran y gyllideb a'r amserlen a sut i ofalu eich bod yn cadw atyn nhw
- y cyflenwyr cyfarpar a chyfleusterau storio
- sut i lunio rhestr o'r cyfarpar dewisol
Cwmpas/ystod
Cwmpas Perfformiad
Gwybodaeth Cwmpas
Gwerthoedd
Ymddygiadau
Sgiliau
Geirfa
Dolenni I NOS Eraill
Cysylltiadau Allanol
Fersiwn rhif
Dyddiad Adolygu Dangosol
31 Maw 2024
Dilysrwydd
Ar hyn o bryd
Statws
Gwreiddiol
Sefydliad Cychwynnol
ScreenSkills
URN gwreiddiol
SKSC2
Galwedigaethau Perthnasol
Y Cyfryngau a Chyhoeddi, Y Celfyddydau, Y Cyfryngau a chyfathrebu, Gweithwyr Proffesiynol Cysylltiedig â’r Cyfryngau
Cod SOC
3417
Geiriau Allweddol
camera; pennu; cyfarpar camera; anghenion y cynhyrchiad; ffurf recordio; iechyd a diogelwch; cyfarpar; gofynion