Rheoli dulliau a gweithdrefnau cynnal a chadw ar gyfer offer neu systemau darlledu a chyfryngau

URN: SKSBE8
Sectorau Busnes (Suites): Peirianneg Systemau Darlledu a Chyfryngau
Datblygwyd gan: ScreenSkills
Cymeradwy ar: 30 Maw 2022

Trosolwg

​Mae'r safon hon yn ymwneud â rheoli dulliau cynnal a chadw ar gyfer systemau darlledu a chyfryngau o'r safon ddisgwyliedig.

Mae'r safon hon yn berthnasol i amrywiaeth o systemau darlledu a chyfryngau gan gynnwys gweithrediad stiwdio, darlledu allanol, ôl-gynhyrchu, dosbarthiad a darllediad. Gall gweithgareddau cynnal a chadw fod yn rhai wedi'u trefnu, rhai arferol neu rai mewn argyfwng.

Mae'r safon hon ar gyfer y rheiny sy'n rheoli gwaith cynnal a chadw systemau darlledu a chyfryngau a'r rheiny sydd mewn swyddi peirianwyr systemau darlledu a chyfryngau a thechnegwyr.


Meini prawf perfformiad

Mae'n rhaid eich bod chi'n gallu:

  1. ​cadarnhau bod amodau yn addas er mwyn cynnal dulliau a gweithdrefnau cynnal a chadw
  2. rhoi cyfarwyddiadau i bobl berthnasol
  3. derbyn gwybodaeth am weithgareddau cynnal a chadw gaiff eu cynnal
  4. cynnal amserlen cynnal a chadw gyfredol gaiff ei diweddaru
  5. gwirio bod gwaith cynnal a chadw yn cael ei gyflawni gan ddilyn gweithdrefnau ac yn rhoi'r canlyniadau sydd eu hangen
  6. gwirio bod systemau cefnogi peirianneg darlledu a chyfryngau yn gweithredu gan ddilyn y gweithdrefnau
  7. rheoli defnydd adnoddau er mwyn sicrhau bod gwaith cynnal a chadw yn cael ei gynnal yn y ffordd fwyaf effeithlon
  8. rhoi dilyniant gwasanaeth i gleientiaid yn unol ag amodau'r cytundebau lefel gwasanaeth
  9. asesu gwybodaeth ac ystyried cyfleoedd i wella dulliau a gweithdrefnau cynnal a chadw
  10. gwirio bod gweithrediad dulliau a gweithdrefnau cynnal a chadw yn cydymffurfio gyda rheoliadau a chanllawiau
  11. dilyn camau cywirol os oes unrhyw wyriad o ddulliau a gweithdrefnau cytunedig
  12. gwirio bod cofnodion gwaith cynnal a chadw gaiff eu cynnal wedi'u cwblhau
  13. rhoi gwybod am a rhannu gydag eraill unrhyw broblemau nad oes modd eu datrys

Gwybodaeth a Dealltwriaeth

You need to know and understand:

  1. ​diben, manteision, cyfyngiadau a risgiau'r offer a meddalwedd sydd eu hangen ar gyfer systemau darlledu a chyfryngau
  2. y gwahaniaeth rhwng systemau sy'n seiliedig ar y cwmwl a systemau ar leoliad

  3. y rhagofalon diogelwch penodol i'w dilyn wrth weithio gydag offer, meddalwedd a systemau darlledu a chyfryngau

  4. sut i gysylltu systemau ac offer darlledu gyda systemau rhwydwaith

  5. y mathau o broblemau all godi wrth weithredu systemau darlledu a chyfryngau a pham ei bod yn bwysig eu datrys mewn pryd

  6. yr offer a'r technegau gaiff eu defnyddio i adnabod a chywiro beth sy'n achosi diffygion mewn offer a systemau darlledu a chyfryngau
  7. prosesau a phrotocoliau'r sefydliad ar gyfer sicrhau diogelwch rhwydwaith a diogelwch ymarferol data a systemau
  8. amodau cytundebau lefel gwasanaeth ar gyfer cynnal a chadw a datrys problemau
  9. gofynion Ansawdd Gwasanaeth technegol sy'n cael effaith ar eich gwaith a sut caiff sicrhau ansawdd ei gynnal
  10. gwahanol gamau'r broses gynnal a chadw
  11. dulliau a gweithdrefnau cynnal a chadw mae modd eu defnyddio ar gyfer gwahanol fathau o offer a systemau darlledu a chyfryngau
  12. y potensial ar gyfer gwneud arbedion effeithlonrwydd gyda gwaith cynnal a chadw drwy gyfuno tasgau neu wneud mwy nag un gwahanol weithgaredd ar y tro
  13. sut i weithredu a monitro system gweithio o gwmpas neu wrth gefn i gleientiaid tra bod gwaith cynnal a chadw yn cael ei gyflawni

  14. sut i baratoi ar gyfer gweithredu gweithgareddau cynnal a chadw gan ddilyn archebion gwaith, rhestrau tasgau ac amserlenni

  15. y ffactorau i'w cydbwyso er mwyn cyflawni strategaeth gynnal a chadw ddiogel a chost effeithiol  
  16. sut i neilltuo adnoddau i waith cynnal a chadw a sut i adnabod unrhyw offer arbenigol gaiff eu defnyddio i gynnal gwaith cynnal a chadw ar galedwedd a meddalwedd
  17. ffynonellau gwybodaeth cynnal a chadw 

  18. sut i werthuso gwybodaeth cynnal a chadw a'r dulliau a'r gweithdrefnau gaiff eu defnyddio

  19. rheoliadau, canllawiau, gweithdrefnau a systemau sefydliadol sy'n ymwneud ag iechyd, diogelwch, yr amgylchedd a darlledu a sut i gael gwybodaeth amdanynt

  20. maint eich cyfrifoldeb chi ac i bwy ddylech chi roi gwybod os oes gennych chi broblemau na allwch chi eu datrys


Cwmpas/ystod

gwahanol gamau'r broses gynnal a chadw

  1. cadarnhau symptomau
  2. datgysylltu offer
  3. symud i'r ardal gynnal a chadw
  4. datgymalu, dod o hyd i ddiffygion
  5. tynnu cydrannau
  6. ailosod
  7. cyflunio meddalwedd
  8. profi
  9. ailosod

  10. comisiynu

  11. trosglwyddo

**

ffactorau i gydbwyso strategaeth gynnal a chadw** gan gynnwys

  1. faint o frys sydd amdano a pha mor hanfodol ydy o yn y broses gynhyrchu
  2. amserlenni a therfynau amser
  3. amodau amgylcheddol
  4. amodau gweithredol
  5. amser cymedrig rhwng methiannau
  6. pethau annisgwyl sydd eu hangen
  7. awdurdod priodol

ffynonellau gwybodaeth cynnal a chadw gan gynnwys

  1. dogfennaeth gweithdrefnau
  2. dogfennaeth offer/ardal
  3. adborth gan y rheiny sy'n cynnal y gwaith cynnal a chadw
  4. cofnodion gwaith wedi'u cwblhau
  5. cerrig milltir a thargedau
  6. canlyniadau profion cydymffurfio technegol

Cwmpas Perfformiad


Gwybodaeth Cwmpas


Gwerthoedd


Ymddygiadau


Sgiliau


Geirfa


Dolenni I NOS Eraill


Cysylltiadau Allanol


Fersiwn rhif


Dyddiad Adolygu Dangosol

30 Maw 2026

Dilysrwydd

Ar hyn o bryd

Statws

Gwreiddiol

Sefydliad Cychwynnol

ScreenSkills

URN gwreiddiol

SKSBE8

Galwedigaethau Perthnasol

Peiriannydd Darlledu , Peiriannydd Darlledu Allanol , Peiriannydd Stiwdio , Peiriannydd Prosiect, Peiriannydd Ôl-gynhyrchu, Peiriannydd Lluniau, Peiriannydd Cynnal a Chadw Darlledu, Peiriannydd Darllediad

Cod SOC

3147

Geiriau Allweddol

darlledu; peirianneg; cynnal a chadw; dulliau; gweithdrefnau;