Comisiynu systemau darlledu a chyfryngau

URN: SKSBE6
Sectorau Busnes (Suites): Peirianneg Systemau Darlledu a Chyfryngau
Datblygwyd gan: ScreenSkills
Cymeradwy ar: 30 Maw 2022

Trosolwg

​Mae'r safon hon yn ymwneud  â chomisiynu systemau darlledu a chyfryngau ar ddiwedd y broses osod.

Mae'r safon hon yn berthnasol i amrywiaeth o systemau darlledu a chyfryngau gan gynnwys gweithrediad stiwdio, darlledu allanol, ôl-gynhyrchu, dosbarthiad a darllediad.


Meini prawf perfformiad

Mae'n rhaid eich bod chi'n gallu:

  1. ​rhagnodi dulliau a gweithdrefnau ar gyfer y system ddarlledu a chyfryngau gaiff ei chomisiynu
  2. cynllunio comisiynu systemau darlledu a chyfryngau
  3. penderfynu ar a chael gafael ar yr adnoddau sydd eu hangen i gomisiynu systemau darlledu a chyfryngau
  4. gweithredu comisiwn systemau darlledu a chyfryngau pan fydd amodau yn addas
  5. gweithredu comisiynu systemau darlledu a chyfryngau gan ddilyn gweithdrefnau cytunedig
  6. adnabod a datrys problemau sy'n ymwneud â chomisiynu systemau darlledu a chyfryngau
  7. asesu canlyniadau comisiynu a gwirio bod allgynhyrchion systemau darlledu a chyfryngau yn cwrdd â'r gofynion
  8. cadarnhau bod systemau darlledu a chyfryngau yn cwrdd â'r gofynion ac yn cydymffurfio gyda'r holl reoliadau a chanllawiau perthnasol
  9. cofnodi canlyniadau comisiynu mewn systemau gwybodaeth
  10. gwirio bod cleientiaid wedi derbyn trosglwyddiad rheolaeth wrth drosglwyddo systemau comisiwn iddynt

Gwybodaeth a Dealltwriaeth

You need to know and understand:

  1. ​diben, manteision, cyfyngiadau a risgiau'r offer a meddalwedd sydd eu hangen ar gyfer systemau darlledu a chyfryngau
  2. y gwahaniaeth rhwng systemau sy'n seiliedig ar y cwmwl a systemau ar leoliad
  3. rhagofalon diogelwch penodol i'w dilyn wrth weithio gydag offer, meddalwedd a systemau darlledu
  4. sut i weithio'r offer, meddalwedd a systemau darlledu a chyfryngau sydd eu hangen
  5. y diben a'r protocolau sy'n gysylltiedig â chyfeirio gan ddefnyddio IP
  6. egwyddorion dyluniad, pensaernïaeth, datblygiad a chynhaliaeth rhwydweithiau
  7. sut i gysylltu systemau ac offer darlledu a chyfryngau gyda systemau rhwydwaith
  8. prosesau'r sefydliad ar gyfer sicrhau diogelwch rhwydwaith a diogelwch ymarferol data a systemau
  9. systemau gweithio diogel ac ar eich pen eich hun ar gyfer gweithio gydag erialau, foltedd uchel, byrddau trydan, byrddau switsh a chyflenwadau trydan di-dor
  10. gofynion technegol Ansawdd Gwasanaeth sy'n cael effaith ar gomisiynu
  11. manylebau ac allgynhyrchion cytunedig ar gyfer y systemau darlledu a chyfryngau gaiff eu comisiynu
  12. cyfluniadau cynnyrch a gwasanaeth
  13. y broses, dulliau a gweithdrefnau comisiynu mae modd eu defnyddio ar gyfer systemau darlledu a chyfryngau
  14. sut i weithredu comisiwn a mesur llwyddiant
  15. y fanyleb i lywio cynllunio’r comisiynu sy’n berthnasol i’r system a’r
    gosodiad
  16. y cyfluniad sydd ei angen cyn trosglwyddo
  17. gofynion y rhanddeiliaid
  18. y profion sydd eu hangen er mwyn gwerthuso'r system
  19. pa ffactorau dylid eu hystyried wrth gynllunio comisiynu

  20. pa fathau o broblemau comisiynu allai godi a sut i'w datrys

  21. yrheoliadau, canllawiau, gweithdrefnau a systemau cwmni perthnasol sy'n ymwneud ag iechyd, diogelwch, yr amgylchedd a darlledu a sut i gael gwybodaeth amdanynt
  22. pwysigrwydd cadw cofnodion o wybodaeth comisiynu
  23. sut i roi gwybod am a rhannu problemau gydag eraill

Cwmpas/ystod


Cwmpas Perfformiad


Gwybodaeth Cwmpas


Gwerthoedd


Ymddygiadau


Sgiliau


Geirfa


Dolenni I NOS Eraill


Cysylltiadau Allanol


Fersiwn rhif


Dyddiad Adolygu Dangosol

30 Maw 2026

Dilysrwydd

Ar hyn o bryd

Statws

Gwreiddiol

Sefydliad Cychwynnol

ScreenSkills

URN gwreiddiol

SKSBE6

Galwedigaethau Perthnasol

Peiriannydd Darlledu , Peiriannydd Darlledu Allanol , Peiriannydd Stiwdio , Peiriannydd Prosiect, Peiriannydd Ôl-gynhyrchu, Peiriannydd Lluniau, Peiriannydd Cynnal a Chadw Darlledu, Peiriannydd Darllediad

Cod SOC

3147

Geiriau Allweddol

darlledu; peirianneg; comisiynu; systemau;