Gweithio mewn ffordd broffesiynol o fewn peirianneg darlledu

URN: SKSBE16
Sectorau Busnes (Suites): Peirianneg Systemau Darlledu a Chyfryngau
Datblygwyd gan: ScreenSkills
Cymeradwy ar: 30 Maw 2015

Trosolwg

Mae'r Safon yma yn nodi'r cymwyseddau sydd eu hangen arnoch i weithio mewn ffordd broffesiynol o fewn peirianneg darlledu ac i reoli'ch cyfraniad fel ei fod yn cael effaith bositif ar y rheiny yr ydych yn gweithio gyda nhw. Mae hyn yn berthnasol i systemau darlledu o dan wahanol amodau gan gynnwys gweithrediad stiwdio, darllediadau allanol, ôl-gynhyrchu, dosbarthu a throsglwyddo.

Bydd eich cyfrifoldebau yn gofyn chi gynnal eich gwaith mewn ffordd gynhyrchiol, rhannu gwybodaeth gydag eraill, ymateb yn gadarnhaol i ofynion ac amgylchiadau newidiol ac i sefyll eich tir pan ofynnir i chi wneud rhywbeth yr ydych yn teimlo sy'n anfoesegol. Bydd eich cyfrifoldebau yn gofyn i chi gydymffurfio â gwahanol bolisïau a gweithdrefnau sefydliadol, ac i adrodd nôl unrhyw broblem na allwch ei datrys i'r unigolion perthnasol.


Meini prawf perfformiad

Mae'n rhaid eich bod chi'n gallu:

Yr hyn mae'n rhaid i chi allu ei wneud

P1 sicrhau bod eich gwaith yn cael ei gyflawni ar amser ac yn ateb y briff
P2 rhannu gwaith a chyfnewid gwybodaeth a sgiliau ar beirianneg ddarlledu ag eraill ar adegau priodol

P3 dehongli problemau a dod o hyd i atebion sy'n cyflawni'r allbynnau peirianneg ddarlledu a ddymunir

P4 rhoi a derbyn adborth mewn ffordd adeiladol a defnyddio'r adborth i adolygu gwaith pan fo angen

P5 bod yn hyblyg, addasadwy a chadarnhaol i syniadau newydd, gofynion creadigol a datblygiadau technegol

P6 hyrwyddo unrhyw newidiadau sy'n dilyn datblygiadau o fewn llif gwaith a datblygiadau technegol mewn peirianneg ddarlledu

P7 nodi pryd y bydd newidiadau a ofynnwyd amdanynt gan eraill yn debygol o gael effaith andwyol ar amserlenni, y canlyniadau terfynol, yr amgylchedd neu rannau eraill o'r gwaith gan gyfathrebu hyn mewn modd priodol

P8 cyfathrebu eich barn mewn ffordd gyson pan ofynnir i chi wneud rhywbeth yr ydych yn teimlo sy'n anfoesegol, yn anymarferol neu a fydd yn cael effaith negyddol ar yr amgylchedd

P9 storio a pharatoi gwaith i eraill mewn ffurf briodol ar gyfer y swydd a'r sefydliad yr ydych yn gweithio iddo

P10 ceisio cymorth neu gyngor gan bobl briodol neu ffynonellau gwybodaeth pan fydd cyfyngiadau yn eich gwybodaeth neu arbenigedd yn effeithio ar eich gwaith

P11 chwilio am gyfleoedd dysgu a rhwydweithio a fydd fwyaf buddiol i chi


Gwybodaeth a Dealltwriaeth

You need to know and understand:

Yr hyn mae'n rhaid i chi ei wybod a deall

​K1 gofynion technegol Ansawdd Gwasanaeth sy'n effeithio ar eich gwaith

K2 llif gwaith peirianneg darlledu a sut mae eich rôl a rolau eraill yn ffitio i mewn iddo

K3 diben, budd, cyfyngiadau a risgiau'r offer a meddalwedd sy'n ofynnol ar gyfer systemau darlledu a phryd y mae'n briodol i'w defnyddio

K4 gofynion gweithredol a phrotocolau mewn perthynas â systemau darlledu, meddalwedd ac offer gan gynnwys pwy all eu defnyddio

K5 sut y bydd angen i'ch swyddogaeth a'ch cyfrifoldebau newid hwyrach i ymdrin â gofynion amrywiol y gwaith peirianneg ddarlledu 

K6 goblygiadau eich penderfyniadau ar yr adnoddau yr ydych yn ymwneud ag â hwy

K7 sut i nodi effaith amgylcheddol eich gwaith a'i gyfleu i bobl eraill
K8 briff y gwaith a sut i ddehongli'r gofynion a pharamedrau

K9 y manteision o wrando ar syniadau pobl eraill a sut i adnabod unigolion a allai eich cefnogi pan fyddwch angen hynny

K10 sut a phryd i ofyn cwestiwn er mwyn gwella eich gwaith

K11 sut i ymateb a delio yn briodol â sylwadau negyddol a gofynion ychwanegol

K12 sut i addasu'r llif gwaith a chynllunio atebion wrth orfod ymdrin â'r annisgwyl

K13 sut i weithio fel rhan o dîm

K14 sut i sylwi pryd y gallai syniadau neu waith peirianneg ddarlledu flaenorol eu hailddefnyddio neu eu haddasu

K15 sut i storio gwaith peirianneg ddarlledu

K16 sut i ddefnyddio adnoddau ar-lein i chwilio am gyngor ac i gael gwybod beth mae eraill yn ei wneud

K17 sut i holi a herio yn adeiladol benderfyniadau pobl eraill a phryd y mae'n briodol i wneud hynny

K18 cyfyngiadau'r feddalwedd a ddefnyddiwch o ran yr hyn yr ydych yn ei wneud a ble y gallwch weithio

K19 y cyfleoedd rhwydweithio a dysgu sydd yn bodoli a sut i wybod amdanynt

K20 canllawiau, gweithdrefnau a systemau perthnasol y sefydliad o ran iechyd, diogelwch, yr amgylchedd a rheoliadau darlledu, a sut i dderbyn gwybodaeth amdanynt


Cwmpas/ystod


Cwmpas Perfformiad


Gwybodaeth Cwmpas


Gwerthoedd


Ymddygiadau


Sgiliau


Geirfa


Dolenni I NOS Eraill

​Cynhyrchu Ffilm a Theledu


Cysylltiadau Allanol


Fersiwn rhif


Dyddiad Adolygu Dangosol

30 Maw 2016

Dilysrwydd

Ar hyn o bryd

Statws

Gwreiddiol

Sefydliad Cychwynnol

Creative Skillset

URN gwreiddiol

SKSBE16

Galwedigaethau Perthnasol

Peiriannydd, Peiriannydd Darlledu , Peiriannydd Darlledu Allanol , Peiriannydd Trosglwyddo , Peiriannydd Llun, Peiriannydd Stiwdio , Peiriannydd Prosiect

Cod SOC

2124;2129;3135

Geiriau Allweddol

Darlledu, Peirianneg, Systemau, Technegol