Adnabod anghenion cleientiaid ar gyfer systemau darlledu a chyfryngau

URN: SKSBE1
Sectorau Busnes (Suites): Peirianneg Systemau Darlledu a Chyfryngau
Datblygwyd gan: ScreenSkills
Cymeradwy ar: 30 Maw 2022

Trosolwg

​Mae'r safon hon yn ymwneud ag adnabod gofynion cleientiaid gyda systemau darlledu a chyfryngau.

Mae'r safon hon yn berthnasol i amrywiaeth o systemau darlledu a chyfryngau gan gynnwys gweithrediad stiwdio, darlledu allanol, ôl-gynhyrchu, dosbarthiad a darllediad. Gall cleientiaid fod yn rhai mewnol neu allanol i'r sefydliad rydych chi'n gweithio iddo. 

Mae'r safon hon ar gyfer peirianwyr systemau darlledu a chyfryngau.


Meini prawf perfformiad

Mae'n rhaid eich bod chi'n gallu:

  1. ​cael gafael ar wybodaeth am ofynion y cleient ar gyfer systemau darlledu a chyfryngau
  2. cadarnhau amcanion y cleient ar gyfer systemau darlledu a chyfryngau gyda'r bobl berthnasol
  3. penderfynu a ydy gofynion gweithredol, ymarferol, cynaliadwyedd, amgylcheddol ac ariannol y cleient yn ddichonol
  4. sefydlu nodweddion unigryw neu benodol sydd angen ystyriaeth benodol
  5. penderfynu ar ofynion cysylltedd, ergonomeg, ansawdd ac iechyd a diogelwch gan ddefnyddio gwybodaeth gyfredol
  6. gweithio o fewn rhagofalon diogelwch penodol wrth weithio gydag offer, meddalwedd a systemau darlledu
  7. cytuno ar ofynion a phrotocolau gweithredu sy'n gysylltiedig â systemau, meddalwedd ac offer darlledu a chyfryngau gan gynnwys pwy all eu defnyddio
  8. sefydlu a chytuno ar gylch gorchwyl eglur gyda chleientiaid i asesu a ydy amcanion wedi'u cyflawni
  9. cofnodi gofynion mewn systemau gwybodaeth i'w defnyddio yn y dyfodol

Gwybodaeth a Dealltwriaeth

You need to know and understand:

  1. ​diben, manteision, cyfyngiadau a risgiau'r offer a meddalwedd sydd eu hangen ar gyfer systemau darlledu a chyfryngau
  2. y gwahaniaeth rhwng systemau sy'n seiliedig ar y cwmwl a systemau ar leoliad
  3. y diben a'r protocoliau sy'n gysylltiedig â chyfeirio gan ddefnyddio IP
  4. diben a manteision gwahanol brotocoliau a systemau ffrydio
  5. egwyddorion dyluniad, pensaernïaeth, datblygiad a chynhaliaeth rhwydweithiau
  6. sut i gysylltu systemau ac offer darlledu a chyfryngau gyda systemau rhwydwaith
  7. prosesau'r sefydliad ar gyfer sicrhau diogelwch rhwydwaith a diogelwch ymarferol data a systemau
  8. gofynion technegol Ansawdd Gwasanaeth sy'n cael effaith ar eich gwaith
  9. rhagofalon a systemau gweithio diogel ac ar eich pen eich hun ar gyfer gweithio gydag erialau, foltedd uchel, byrddau trydan, byrddau switsh a chyflenwadau trydan di-dor
  10. y prosesau gweithredol a thechnegol gaiff eu defnyddio gyda systemau darlledu a chyfryngau
  11. y gwahanol ddulliau sydd angen eu mabwysiadu wrth weithio gyda chleientiaid, gweithredwyr, staff cynhyrchu, staff technegol, trydydd barti, darparwyr gwasanaeth a phobl berthnasol eraill
  12. y gweithdrefnau ar gyfer cysylltu gydag adran neu sefydliad y cleient
  13. y mathau o nodweddion dylid eu hystyried yn unigryw neu benodol
  14. sut i gadarnhau gofynion cleient, gan gynnwys y rheiny sy'n gysylltiedig â gweithrediad, dichonoldeb, cyfleuster, cyllideb, manyleb dechnegol a lleoliad
  15. systemau'r sefydliad ar gyfer cofnodi gwybodaeth gan gynnwys gofynion y cleient, gofynion y broses, manylion technegol, nodweddion unigryw a newidiadau cytunedig
  16. meini prawf gwerthuso mae modd ei ddefnyddio ar gyfer gwahanol fathau o ddyluniadau systemau darlledu
  17. rheoliadau, canllawiau, gweithdrefnau a systemau sefydliad perthnasol sy'n ymwneud ag iechyd, diogelwch, yr amgylchedd a darlledu a sut i gael gwybodaeth amdanynt

Cwmpas/ystod

gwahanol fathau o ddyluniadau systemau darlledu gan gynnwys y rheiny sy'n gysylltiedig â:

  1. natur ymarferol
  2. perfformiad
  3. cost
  4. ansawdd
  5. technoleg
  6. ymarferoldeb
  7. amserlen weithredu
  8. rhwyddineb gweithredu
  9. rhwyddineb a chost cynnal a chadw
  10. hyd bywyd/ gallu i uwchraddio
  11. mynediad i weithredwyr
  12. gofynion diogelwch
  13. cydymffurfio gyda safonau sefydliad, diwydiant ac iechyd a diogelwch
  14. cynaliadwyedd

Cwmpas Perfformiad


Gwybodaeth Cwmpas


Gwerthoedd


Ymddygiadau


Sgiliau


Geirfa


Dolenni I NOS Eraill


Cysylltiadau Allanol


Fersiwn rhif


Dyddiad Adolygu Dangosol

30 Maw 2026

Dilysrwydd

Ar hyn o bryd

Statws

Gwreiddiol

Sefydliad Cychwynnol

ScreenSkills

URN gwreiddiol

SKSBE1

Galwedigaethau Perthnasol

Peiriannydd Darlledu , Peiriannydd Darlledu Allanol , Peiriannydd Stiwdio , Peiriannydd Prosiect, Peiriannydd Ôl-gynhyrchu, Peiriannydd Lluniau, Peiriannydd Cynnal a Chadw Darlledu, Peiriannydd Darllediad

Cod SOC

3147

Geiriau Allweddol

darlledu; peirianneg; technegol; cynhyrchiad; gofynion;