Cynllunio a chynnal digwyddiadau chwaraeon a gweithgaredd corfforol yn y gymuned

URN: SKAWWC5
Sectorau Busnes (Suites): Gweithio o fewn y gymuned
Datblygwyd gan: SkillsActive
Cymeradwy ar: 30 Maw 2022

Trosolwg

​Mae'r safon yma'n disgrifio'r medrusrwydd sydd ei angen ar ymarferwyr sy'n gweithio o fewn y gymuned er mwyn cynllunio a chynnal digwyddiadau chwaraeon a gweithgaredd corfforol yn y gymuned. Bydd y digwyddiadau hyn yn annog ymwneud gan y gymuned a chodi lefelau gweithgaredd. Byddwch yn cynllunio'r digwyddiad ar sail mewnwelediad a chael ysbrydoliaeth o ddigwyddiadau chwaraeon Cenedlaethol a phwysig. Tra'n sicrhau bod y digwyddiad yn gynhwysol a hygyrch byddwch yn cynnal gweithgareddau ac arloesol.

Mae'r safon yma ar gyfer pob ymarferydd sy'n gweithio o fewn y gymuned.


Meini prawf perfformiad

Mae'n rhaid eich bod chi'n gallu:

  1. nodi'r anghenion a'r cyfleoedd ar gyfer digwyddiadau chwaraeon a gweithgaredd corfforol yn y gymuned

  2. casglu gwybodaeth er mwyn nodi anghenion a chyfleoedd

  3. defnyddio mewnwelediad i gefnogi datblygiad y digwyddiad

  4. dadansoddi'r wybodaeth er mwyn penderfynu ar y digwyddiad

  5. gweithio ar y cyd gyda chymunedau, cydweithwyr a gwirfoddolwyr er mwyn cynllunio a threfnu'r digwyddiad

  6. nodi rhwystrau posibl i bobl gymryd rhan a rhoi strategaethau priodol ar waith er mwyn lleihau'r perygl o bobl yn rhoi'r gorau iddi

  7. dod o hyd i ffynonellau cyllid perthnasol er mwyn cefnogi'r rhaglen

  8. nodi adnoddau, cyfarpar a lleoliadau sydd eu hangen a rhoi ystyriaeth i asedau lleol sydd ar gael

  9. sicrhau bod y digwyddiad yn gynhwysol ac yn hygyrch

  10. cynhyrchu cynllun a chytuno arno gyda chymunedau, cydweithwyr a gwirfoddolwyr

  11. ymgymryd â gweithgaredd hyrwyddo priodol er mwyn annog pobl i gymryd rhan

  12. gwneud yn siwr bod ffiniau diogelwch effeithiol, addasadwy a hyblyg wedi cael eu sefydlu yn dilyn gofynion iechyd a diogelwch

  13. cyfrannu tuag at gynnal digwyddiadau chwaraeon a gweithgaredd corfforol arloesol a deniadol

  14. amlinellu system glir o fonitro a gwerthuso er mwyn gwerthuso'r prosiect/rhaglenni

15. gwerthuso llwyddiant y digwyddiad gan ddefnyddio technegau dadansoddi priodol

  1. gweithredu o fewn rhychwant eich ymarfer ac yn unol â'r canllawiau

  2. dilyn deddfwriaeth gyfredol, canllawiau, polisïau, gweithdrefnau a phrotocolau sy'n berthnasol i ymarfer eich gwaith ac y mae'n rhaid i chi gadw atynt


Gwybodaeth a Dealltwriaeth

You need to know and understand:

  1. amrywiaeth o anghenion a chyfleoedd ar gyfer digwyddiadau chwaraeon gweithgaredd corfforol yn y gymuned

  2. sut a ble i gasglu gwybodaeth er mwyn nodi'r anghenion a'r cyfleoedd

  3. sut i ddadansoddi gwybodaeth a gasglwyd er mwyn penderfynu ar y digwyddiad
  4. pa fanteision all y digwyddiadau hyn eu cael i'r gymuned
  5. pwysigrwydd mewnwelediad y ystod y cyfnod o ddatblygu
  6. digwyddiadau cenedlaethol a phwysig a sut gall y rhain ysbrydoli cymunedau i gymryd rhan mewn chwaraeon a gweithgaredd corfforol
  7. sut i drefnu a chydlynu cynlluniau ar gyfer digwyddiadau er mwyn cwrdd ag amcanion
  8. sut i weithio mewn cydweithrediad gyda chymunedau, cydweithwyr a gwirfoddolwyr
  9. amrywiaeth eang o offer, strategaethau a thechnegau addas sy'n briodol i'r cymunedau, cydweithwyr a gwirfoddolwyr
  10. rhwystrau a chymhellyddion i amryw grwpiau cymunedol
  11. ffynonellau cyllido ar gyfer cefnogi digwyddiadau cymunedol
  12. sut i nodi gofynion ar gyfer cyfarpar, adnoddau, a lleoliad
  13. sut i wneud defnydd o asedau lleol sydd ar gael
  14. sut i wneud y digwyddiad yn gynhwysol a hygyrch
  15. y mathau o broblemau all ddigwydd a sut i ddelio â'r rhain mewn modd effeithiol
  16. y farchnad darged ar gyfer pob gweithgaredd hyrwyddo
  17. yr amryw ffurfiau o weithgaredd hyrwyddo sy'n briodol ar gyfer y gynulleidfa
  18. pwysigrwydd ffiniau diogelwch effeithiol, addasadwy a hyblyg yn dilyn gofynion iechyd a diogelwch
  19. dulliau o wahaniaethau er mwyn ymateb i wahanol hoffterau dysgu a chyfathrebu'r rhai sy'n cymryd rhan/cleientiaid
  20. sut i gyflwyno gweithgareddau deniadol ac arloesol
  21. pam ei fod yn bwysig gwerthuso llwyddiant digwyddiad er mwyn hysbysu ymarfer yn y dyfodol
  22. systemau monitro a gwerthuso clir
  23. dulliau o ddadansoddi
  24. rhychwant a chyfyngiadau eich medrusrwydd, cyfrifoldebau ac atebolrwydd chi eich hun fel ag y mae'n berthnasol i'ch swydd chi
  25. deddfwriaeth gyfredol, canllawiau, polisïau, gweithdrefnau a phrotocolau sy'n berthnasol i ymarfer eich gwaith ac y mae'n rhaid i chi gadw atynt

Cwmpas/ystod


Cwmpas Perfformiad


Gwybodaeth Cwmpas


Gwerthoedd


Ymddygiadau


Sgiliau


Geirfa


Dolenni I NOS Eraill


Cysylltiadau Allanol


Fersiwn rhif


Dyddiad Adolygu Dangosol

30 Maw 2025

Dilysrwydd

Ar hyn o bryd

Statws

Gwreiddiol

Sefydliad Cychwynnol

SkillsActive

URN gwreiddiol

n/a

Galwedigaethau Perthnasol

Ysgogydd cymunedol, Swyddog gweithgaredd corfforol a iechyd, Hyfforddwr / Cyfarwyddwr

Cod SOC

3442

Geiriau Allweddol

cymuned; gweithgaaredd corfforol; chwaraeon; cyflwyno; hwyluso; rhaglenni; digwyddiadau