Llunio rhaglenni chwaraeon a gweithgaredd corfforol yn y gymuned

URN: SKAWWC3
Sectorau Busnes (Suites): Gweithio o fewn y gymuned
Datblygwyd gan: SkillsActive
Cymeradwy ar: 30 Maw 2022

Trosolwg

​Mae'r safon yma'n disgrifio'r medrusrwydd mae ymarferwyr sy'n gweithio o fewn y gymuned ei angen ar gyfer llunio rhaglenni chwaraeon a gweithgaredd corfforol yn y gymuned. Byddwch yn cwrdd ag anghenion grwpiau cymunedol a chytuno ar y rheiny o'r rhaglen tra hefyd yn sicrhau cyfraniad gan gydweithwyr a gwirfoddolwyr. Gan ddefnyddio mewnwelediad, byddwch yn llunio rhaglen chwaraeon a gweithgaredd corfforol atyniadol ac arloesol i ddod â grwpiau cymunedol at ei gilydd ac elwa o fod yn weithgar.

Mae'r safon yma ar gyfer pob ymarferydd sy'n gweithio o fewn y gymuned.


Meini prawf perfformiad

Mae'n rhaid eich bod chi'n gallu:

  1. cyfathrebu gyda'r gymuned, cydweithwyr a gwirfoddolwyr ar gyflymder, mewn ffordd ac ar lefel sy'n briodol i'w dealltwriaeth, hoffter ac anghenion
  2. datblygu hinsawdd gymhellol gadarnhaol er mwyn cefnogi anghenion seicolegol a grymuso'r gymuned o ran gwneud penderfyniadau
  3. defnyddio mewnwelediad i gefnogi datblygiad rhaglenni chwaraeon a gweithgaredd corfforol deniadol ac arloesol
  4. nodi a herio rhagdybiaethau lle bo angen
  5. nodi a hyrwyddo'r budd posibl gall chwaraeon a gweithgaredd corfforol eu cael ar grwpiau cymunedol ac unigolion
  6. sicrhau bod gan y gymuned, cydweithwyr a gwirfoddolwyr ddealltwriaeth gywir o nodau'r rhaglen a sut maent yn cysylltu â'r amcanion cyffredinol
  7. gweithio gyda'r cymunedau, cydweithwyr a gwirfoddolwyr i nodi anghenion, nodau ac amcanion y rhaglen
  8. nodi rhwystrau posibl i bobl gymryd rhan a rhoi strategaethau priodol ar waith er mwyn lleihau'r perygl o bobl yn rhoi'r gorau iddi
  9. llunio rhaglenni deniadol ac arloesol sy'n cymhwyso gweithgareddau a thechnegau priodol wedi eu cefnogi gan ymchwil a damcaniaethau addas sy'n benodol i anghenion, nodau ac amcanion y grŵp cymunedol
  10. dod o hyd i ffynonellau cyllid perthnasol er mwyn cefnogi rhaglenni cymunedol
  11. nodi adnoddau sydd eu hangen i gyflawni anghenion, nodau ac amcanion eu rhaglen
  12. hwyluso grwpiau cymunedol i feddwl yn arloesol am yr adnoddau a'r asedau sydd ar gael iddynt
  13. amlinellu system fonitro a gwerthuso i werthuso'r prosiect/rhaglenni
  14. gweithredu o fewn rhychwant eich ymarfer ac yn unol â'r canllawiau
  15. dilyn deddfwriaeth gyfredol, canllawiau, polisïau, gweithdrefnau a phrotocolau sy'n berthnasol i ymarfer eich gwaith ac y mae'n rhaid i chi gadw atynt

Gwybodaeth a Dealltwriaeth

You need to know and understand:

  1. amrediad eang o offer cyfathrebu, strategaethau a thechnegau addas sy'n briodol i ddealltwriaeth, hoffter ac anghenion cymunedau, cydweithwyr a gwirfoddolwyr

  2. pwysigrwydd grymuso'r gymuned i gymryd lefel o ymreolaeth ac annibyniaeth yn ei hanghenion, nodau ac amcanion

  3. damcaniaethau perthnasol sy'n cefnogi hinsawdd gymhellol
  4. pwysigrwydd hinsawdd gymhellol a'r effaith gaiff hyn ar grwpiau cymunedol
  5. cymhwyso damcaniaethau perthnasol o ddatblygiad dynol a chymdeithasol, wrth gynllunio a llunio rhaglenni arloesol
  6. y mathau o fewnwelediad yn ystod y cam datblygu a'u pwysigrwydd
  7. sut i ddefnyddio mewnwelediad er mwyn datblygu rhaglenni addas
  8. damcaniaethau o newid ymddygiad
  9. pwysigrwydd edrych ar ragdybiaethau a'u herio er mwyn sicrhau newid effeithiol mewn ymddygiad
  10. pwysigrwydd a manteision chwaraeon a gweithgaredd corfforol i unigolion a chymunedau
  11. pwysigrwydd cydweithredu gyda'r gymuned, cydweithwyr a gwirfoddolwyr ynglŷn â gofynion y rhaglen
  12. rhwystrau a chymhellyddion ar gyfer amrywiaeth o grwpiau cymunedol
  13. egwyddorion llunio rhaglen
  14. sut i lunio rhaglenni deniadol ac arloesol sy'n gynhwyol ar draws pob cymuned
  15. amrywiaeth eang o ddulliau ar gyfer cwrdd ag anghenion, nodau ac amcanion yr unigolyn a'r gymuned
  16. ffynonellau cyllido sydd ar gael ar gyfer cefnogi rhaglenni cymunedol
  17. sut i ystyried y gofyn am adnoddau ac asedau sydd ar gael
  18. systemau clir ar gyfer monitro a gwerthuso
  19. rhychwant a chyfyngiadau eich medrusrwydd, cyfrifoldebau ac atebolrwydd chi eich hun fel ag y mae'n berthnasol i'ch swydd chi
  20. deddfwriaeth gyfredol, canllawiau, polisïau, gweithdrefnau a phrotocolau sy'n berthnasol i ymarfer eich gwaith ac y mae'n rhaid i chi gadw atynt

Cwmpas/ystod


Cwmpas Perfformiad


Gwybodaeth Cwmpas


Gwerthoedd


Ymddygiadau


Sgiliau


Geirfa


Dolenni I NOS Eraill

​Mae’r safon yma’n cysylltu â SKAWWC2 and SKAWWC4


Cysylltiadau Allanol


Fersiwn rhif


Dyddiad Adolygu Dangosol

30 Maw 2025

Dilysrwydd

Ar hyn o bryd

Statws

Gwreiddiol

Sefydliad Cychwynnol

SkillsActive

URN gwreiddiol

n/a

Galwedigaethau Perthnasol

Ysgogydd cymunedol, Swyddog gweithgaredd corfforol a iechyd, Hyfforddwr / Cyfarwyddwr

Cod SOC

3442

Geiriau Allweddol

cymuned; gweithgaredd corfforol; chwaraeon; llunio; rhaglenni