Ymgeisio am gyllid ar gyfer prosiectau chwaraeon a gweithgaredd corfforol yn y gymuned

URN: SKAWWC1
Sectorau Busnes (Suites): Gweithio o fewn y gymuned
Datblygwyd gan: SkillsActive
Cymeradwy ar: 30 Maw 2022

Trosolwg

​Mae'r safon yma'n disgrifio'r medrusrwydd mae ymarferwyr sy'n gweithio o fewn y gymuned ei angen ar gyfer dod o hyd i ffynonellau cyllido perthnasol a rhoi ceisiadau i mewn i gefnogi cyfleoedd newydd, gwahanol, neu ragor ohonynt ar gyfer chwaraeon neu weithgaredd corfforol yn y gymuned. Mae'n golygu dealltwriaeth o'r tirwedd cyllido a manteisio ar gyfleoedd cyllido. Mae hefyd yn canolbwyntio ar y gweithredoedd a'r gweithdrefnau perthnasol sy'n rhan o ysgrifennu a chynnig ceisiadau am gyllid.

Mae'r safon yma ar gyfer pob ymarferydd sy'n gweithio o fewn y gymuned.


Meini prawf perfformiad

Mae'n rhaid eich bod chi'n gallu:

  1. nodi ffynonellau o gyllid ar gyfer galluogi mwy o gyfleoedd i chwaraeon a gweithgaredd corfforol yn y gymuned

  2. sicrhau bod ffynonellau posibl o gyllid yn gydnaws â gwerthoedd ac amcanion y sefydliad

3. gwerthuso addasrwydd y cyllido yn erbyn meini prawf y cais a ddynodir yn y gwahoddiad i dendro a sefydlu'r tebygolrwydd o lwyddiant o ran canran

  1. cynnig strategaeth, atebion a dulliau posibl ar gyfer y cais drwy ymgynghori ag eraill er mwyn sicrhau bod y siawns o lwyddiant mor uchel â phosibl

  2. creu cynllun ar gyfer y cynnig, gan ddangos adnoddau, cerrig milltir allweddol, dyddiadau cau, dyddiadau adolygu a'r hyn a gyflawnir

  3. cadarnhau gofynion gwneud y cais, cytuno ar ffurf y cyflwyniad a'i ddatblygu, ar gyfer y cais gan ddefnyddio templadau perthnasol

  4. addasu ffyrdd clir a chyson o ysgrifennu gan ddefnyddio'r iaith sy'n briodol ar gyfer y gynulleidfa

8. diffinio cynigion gwerthu unigryw eich sefydliad, gwahaniaethydd(ion) allweddol, atebion, a manteision i ddangos sut mae'r cynnig yn ychwanegu gwerth ac yn cwrdd â gofynion y cyllidwr neu fynd y tu hwnt iddynt

  1. llunio'r cais yn unol â meini prawf y cais

  2. cyflwyno ceisiadau wedi eu drafftio i eraill er mwyn cael adborth

  3. cyflwyno'r cais yn unol â chynllun y cais a chael cadarnhad ei fod wedi ei dderbyn

12. cofnodi pob agwedd o ganlyniad y cais er mwyn ymarfer yn y dyfodol

  1. amlinellu system fonitro a gwerthuso glir er mwyn gwerthuso canlyniad y cais

  2. gweithredu o fewn rhychwant eich ymarfer ac yn unol â'r canllawiau

  3. dilyn deddfwriaeth gyfredol, canllawiau, polisïau, gweithdrefnau a phrotocolau sy'n berthnasol i ymarfer eich gwaith ac y mae'n rhaid i chi gadw atynt


Gwybodaeth a Dealltwriaeth

You need to know and understand:

  1. sut i nodi ffynonellau o gyllid ar gyfer chwaraeon a gweithgaredd corfforol yn y gymuned

  2. pwysigrwydd gweithio gyda chyrff llywodraethu cenedlaethol, partneriaethau chwaraeon, cymuned a'r ector gwirfoddol i gefnogi cyfleoedd cyllido

  3. gwerthoedd ac amcanion busnes

  4. anghenion y gymuned mewn perthynas â chyllido posibl

  5. sut i sicrhau'r wybodaeth sydd ei hangen ar gyfer datblygu cynllun cais

  6. egwyddorion perthnasol addasrwydd y cais a gwerthusiad yn erbyn y meini prawf a ddynodir

  7. sut i ddehnongli meini prawf asesu/sgorio a gwerthuso'r tebygrwydd o lwyddiant

  8. sut i ddatblygu cynllun strategol y sefydliad er mwyn helaethu'r potensial ar gyfer datblygu'r gwasanaeth

  9. sut i ddewis a chymhwyso'r ffurfiad, lluniad a dull ysgrifennu mwyaf priodol ar gyfer cais a dogfennu'r ffyrdd o'i gynllunio

  10. y gofynion ar gyfer cyflwyniad, gweithredoedd perthnasol ac atebion mewn perthynas â chyfle i wneud cais

11. sut i gymryd i ystyriaeth ymchwil ac adborth gan eraill a'i ddefnyddio fel rhan o'r broses lunio

  1. y prosesau o gyflwyno cais

  2. y technegau perthnasol ar gyfer asesu pwyntiau gwerthu unigryw eich sefydliad, gwahaniaethydd(ion), atebion a manteision

  3. systemau monitro a gwerthuso eglur

  4. rhychwant a chyfyngiadau eich medrusrwydd, eich cyfrifoldebau a'ch atebolrwydd chi eich hun fel ag y mae'n berthnasol i'ch swydd chi

16. deddfwriaeth gyfredol, canllawiau, polisïau, gweithdrefnau a phrotocolau sy'n berthnasol i ymarfer eich gwaith ac y mae'n rhaid i chi gadw atynt


Cwmpas/ystod


Cwmpas Perfformiad


Gwybodaeth Cwmpas


Gwerthoedd


Ymddygiadau


Sgiliau


Geirfa


Dolenni I NOS Eraill

​Mae’r safon yma’n cysylltu â SKAWWC2


Cysylltiadau Allanol


Fersiwn rhif


Dyddiad Adolygu Dangosol

30 Maw 2025

Dilysrwydd

Ar hyn o bryd

Statws

Gwreiddiol

Sefydliad Cychwynnol

SkillsActive

URN gwreiddiol

n/a

Galwedigaethau Perthnasol

Ysgogydd cymunedol, Swyddog gweithgaredd corfforol a iechyd, Hyfforddwr / Cyfarwyddwr

Cod SOC

3442

Geiriau Allweddol

cymuned; gweithgaredd corfforol; chwaraeon; cyllido; ceisiadau