Gweithio ag eraill i wella gwasanaeth i gwsmeriaid

URN: SKASS6 (CFACSD8)
Sectorau Busnes (Suites): Gamblo,Gweithrediadau Lleoliadol Diwylliannol a Threftadaeth,Tocynnau;
Datblygwyd gan: SkillsActive
Cymeradwy ar: 01 Maw 2013

Trosolwg

Mae'r safon hon yn rhan o Thema Datblygu a Gwella Gwasanaeth i Gwsmeriaid Mae'r thema hon yn ymwneud â'r gweithgareddau a dulliau sy'n chwarae rhan hanfodol yng ngwasanaeth i gwsmeriaid gan geisio am a gweithredu gwelliannau a datblygiadau. Cofiwch fod cwsmeriaid yn cynnwys unrhyw un sy'n derbyn gwasanaeth oddi wrthoch. Efallai eu bod tu allan i'ch sefydliad neu gallent fod yn gwsmeriaid mewnol.


Mae gwaith tîm yn elfen hanfodol bwysig o ddarparu a gwella gwasanaeth ardderchog i gwsmeriaid. Gall y bobl rydych yn gweithio â nhw i wella gwasanaeth i gwsmeriaid gynnwys un neu'n fwy o'r canlynol: aelodau tîm; cydweithwyr; cyflenwyr; partneriaid gwasanaeth; goruchwylwyr; rheolwyr; arweinwyr tîm. Mae darparu gwasanaeth ardderchog i gwsmeriaid yn dibynnu ar eich sgiliau chi a sgiliau eraill.  Mae'n cynnwys cyfathrebu â'ch gilydd a chytuno ar sut i gydweithio er mwyn darparu gwasanaeth mwy effeithiol. Mae angen i chi gydweithio'n bositif. Rhaid i chi hefyd fonitro eich perfformiad eich hun a pherfformiad y tîm a newid y ffordd o wneud pethau os yw hynny'n gwella gwasanaeth i gwsmeriaid.  Mae'r safon hon yn ymwneud â sut i ddatblygu perthynas gydag eraill i wella eich perfformiad wrth ddarparu gwasanaeth i gwsmeriaid.​


Meini prawf perfformiad

Mae'n rhaid eich bod chi'n gallu:

Gwella gwasanaeth i gwsmeriaid drwy weithio ag eraill**

*
*
1. cyfrannu syniadau adeiladol er mwyn gwella gwasanaeth i gwsmeriaid

2. adnabod beth sydd angen ei wneud i wella gwasanaeth i gwsmeriaid a'i chadarnhau ag eraill

3. cytuno ag eraill ar beth mae'n rhaid iddyn nhw eu gwneud i wella gwasanaeth i gwsmeriaid

4. cydweithredu ag eraill i wella gwasanaeth i gwsmeriaid

5. cadw at eich addewidion i eraill

6. gwneud eraill yn ymwybodol o unrhyw beth a allai effeithio ar gynlluniau i wella gwasanaeth i gwsmeriaid

Monitro eich perfformiad eich hun wrth wella gwasanaeth i gwsmeriaid**

*
*
7. trafod ag eraill ynglŷn â sut mae'r hyn rydych yn ei wneud yn effeithio ar berfformiad gwasanaeth i gwsmeriaid

8. adnabod sut mae'ch ffordd o weithio ag eraill yn cyfrannu at wella gwasanaeth i gwsmeriaid

Monitro perfformiad y tîm wrth wella gwasanaeth i gwsmeriaid**

*
*
9. trafod ag eraill ynglŷn â sut mae gwaith tîm yn effeithio ar berfformiad gwasanaeth i gwsmeriaid

10. gweithio ag eraill i gasglu gwybodaeth ar berfformiad y tîm wrth ddarparu gwasanaeth i gwsmeriaid

11. trafod gydag eraill i adnabod sut allai gwaith tîm gael ei wella wrth ddarparu gwasanaeth i gwsmeriaid

12. cymryd camau gydag eraill i wella perfformiad wrth ddarparu gwasanaeth i gwsmeriaid


Gwybodaeth a Dealltwriaeth

You need to know and understand:

Mae angen i chi wybod a deall:**

*
*
1. pwy arall sy'n chwarae rôl, naill ai'n uniongyrchol neu'n anunio​ngyrchol, mewn darparu gwasanaeth i gwsmeriaid

2. rolau a chyfrifoldebau eraill yn eich sefydliad

3. rolau eraill tu allan i'ch sefydliad sy'n cael effaith ar eich gwasanaethau neu gynnyrch

4. nodau ac amcanion eich sefydliad yn gysylltiedig â gwasanaeth i gwsmeriaid a sut y gosodir y rhain

5. sut mae'ch sefydliad yn adnabod gwelliannau i wasanaeth i gwsmeriaid​


Cwmpas/ystod


Cwmpas Perfformiad


Gwybodaeth Cwmpas


Gwerthoedd


Ymddygiadau


Sgiliau


Geirfa


Dolenni I NOS Eraill


Cysylltiadau Allanol


Fersiwn rhif


Dyddiad Adolygu Dangosol

30 Maw 2016

Dilysrwydd

Ar hyn o bryd

Statws

Gwreiddiol

Sefydliad Cychwynnol

Skills CFA

URN gwreiddiol

CFACSD8

Galwedigaethau Perthnasol

Rheolwr, Galwedigaethau Gwasanaethau Cwsmeriaid, Is-reolwr, Arolygwr adran, rheolwr pwll,, Arolygwr, Celfyddydau, Y Cyfryngau a Chyhoeddi, Llyfrgellwyr a Gweithwyr Proffesiynol Perthnasol, Crefftau, Celfyddydau creadigol a dylunio, Rheolwyr Ansawdd a Gofal Cwsmeriaid, Galwedigaethau Artistig a Llenyddol, Galwedigaethau Gwerthu Tocynnau

Cod SOC


Geiriau Allweddol

gwasanaeth i gwsmeriaid; canolfannau cyswllt; datblygu; gwella; cyfathrebu; datrys problemau; ymddygiad; gweithio ag eraill; gwaith tîm; rhoi gwybodaeth; derbyn gwybodaeth; gwasanaethau; cynnyrch; gamblo; lleoliad; Tocynnau; Cwsmer; Cyfathrebu;