Mynd i’r afael gyda helyntion mewn digwyddiadau i wylwyr

URN: SKASS5
Sectorau Busnes (Suites): Diogel wch Gwylwyr
Datblygwyd gan: SkillsActive
Cymeradwy ar: 31 Maw 2019

Trosolwg

Mae yna bob amser elfen o her a risg ynghlwm â digwyddiadau i wylwyr a bydd trafferthion o bryd i'w gilydd. Mae'n bwysig iawn bod yr holl aelodau o staff yn gymwys i ymdrin â'r trafferthion. Dydy'r safon hon ddim yn ymdrin â rheoli ymateb cychwynnol i helynt sylweddol. Fodd bynnag, mae'n ymdrin â sgiliau achub bywyd sylfaenol. 

Mae'r safon hon ar gyfer stiwardiaid a staff tebyg eraill sy'n cydweithio'n uniongyrchol gyda gwylwyr a grwpiau cleient eraill er mwyn gofalu am eu diogelwch a'u lles mewn digwyddiadau a mannau poblog.


Meini prawf perfformiad

Mae'n rhaid eich bod chi'n gallu:

1.  asesu'r sefyllfa am **fygythiadau** a pheryglon 2.  gwarchod unrhyw glwyfedigion a phobl eraill ynghlwm rhag niwed pellach 3.  galw am **gynorthwyydd cymwys** 4.  defnyddio sgiliau achub bywyd sylfaenol 5.  cyflwyno gwybodaeth i'r **cynorthwyydd cymwys** am yr helynt 6.  rhoi cyfarwyddiadau i'r rheiny sydd ynghlwm â'r helynt yn unol â gweithdrefnau rheoli helyntion y mudiad 7.  cyflawni'ch dyletswydd yn unol â gweithdrefnau rheoli helyntion y mudiad 8.  cydymffurfio gyda gweithdrefnau er mwyn adrodd am y digwyddiad 

Gwybodaeth a Dealltwriaeth

You need to know and understand:

  1.  egwyddorion sylfaenol o asesu risg

  2.  y mathau o helyntion gall ddigwydd

  3.  gweithdrefnau rheoli helyntion y mudiad

  4.  y gweithdrefnau ynghlwm â mynd i'r afael â helyntion yn brydlon, yn bwyllog ac yn gywir

  5.  sut i fynd i'r afael â helyntion cyn i gynorthwyydd cymwys gyrraedd

  6.  sut i warchod y clwyfedig ac eraill ynghlwm rhag niwed pellach

  7.  sgiliau achub bywyd sylfaenol

  8.  sut i gynnig cysur a chalonogaeth

  9. yr weithdrefn er mwyn gofyn am gynorthwyydd cymwys

  10. pa wybodaeth sy'n bwysig ichi ei rannu gyda'r bobl ynghlwm

  11. adrodd am helyntion


Cwmpas/ystod

**** **GWYBODAETH YCHWANEGOL** **Cydraddoldeb ac Amrywioldeb** Mae disgwyl y bydd gan fudiadau weithdrefnau a chanllawiau i'w staff stiwardio gydymffurfio gyda nhw ac a fydd yn bodloni'r gofynion canlynol o leiaf: * gwahanol anghenion corfforol * gwahanol anghenion diwylliannol * anghenion ieithyddol * credoau **Diogelwch, Amddiffyn a Gwasanaeth** Mae disgwyl caiff yr holl wasanaethau mewn digwyddiadau gyda gwylwyr ac mewn mannau poblog eu cyflawni yn unol â'r mesurau isod: **Mesurau diogelwch:** unrhyw fesur a gaiff eu dylunio a'u rhoi ar waith gyda'r prif nod o ddiogelu iechyd a lles yr holl grwpiau cleient sy'n mynychu, neu'n cymryd rhan mewn digwyddiadau. **Mesurau amddiffyn:** unrhyw fesur a gaiff eu dylunio a'u rhoi ar waith gyda'r prif nod o atal, lleihau'r risg a/neu ymateb i unrhyw weithgareddau troseddol neu anghyfreithlon neu aflonyddwch yn gysylltiedig â'r digwyddiadau. **Mesurau gwasanaeth:** unrhyw fesur a gaiff eu dylunio a'u rhoi ar waith gyda'r prif nod  o ofalu bod yr holl grwpiau cleient yn teimlo'n gyfforddus, wedi'u gwerthfawrogi a bod croeso iddyn nhw pan maen nhw'n mynychu digwyddiadau. 

Cwmpas Perfformiad


Bygythiadau (Mae'n rhaid ymdrin ag 1 a 2 o leiaf)

  1.  diogelwch

  2.  amddiffyniaeth  

  3.  glanweithdra 

  4.  amgylcheddol

  5.  offer diffygiol

  6.  strwythurol

* *

Cynorthwywyr cymwys (ymdrin â phob un)

  1.  staff wedi'u hyfforddi mewn cymorth cyntaf

  2.  staff meddygol

  3.  swyddog tân

  4.  gwasanaethau argyfwng


Gwybodaeth Cwmpas


Cynorthwywyr cymwys

1.  staff wedi'u hyfforddi mewn cymorth cyntaf

2.  staff meddygol

3.  swyddog tân

4.  gwasanaethau argyfwng

* *

Sgiliau achub bywyd sylfaenol

  1.  CPR
    1.  cynnal llwybrau anadlu clir
  2.  rheoli gwaedu 

Mathau o helyntion

  1.  tân

  2.  meddygol

  3.  anhrefn yn y dorf

  4.  terfysgaeth 

  5.  amgylcheddol

  6.  cemegol 

  7.  pobl ar goll


Gwerthoedd


Ymddygiadau

Mae'r ymddygiadau canlynol wrth wraidd cyflenwi gwasanaethau yn y sector diogelwch i wylwyr. Mae'r ymddygiadau yn sicrhau bod y mudiad a'r unigolyn yn creu argraff dda ar y cleientiaid.

Mae'n rhaid ichi ddangos eich bod yn cyflawni'r canlynol yn gyson:

1.     Adnabod yr angen i fod yn hyblyg er mwyn dwyn i ystyriaeth amgylchiadau newidiol

2.     Addasu cynlluniau ac ymatebion fel bo'r angen

3.    Blaenoriaethu amcanion a gwaith cynllunio er mwyn manteisio ar y defnydd gorau posib o amser ac adnoddau 

4.    Gofalu bod amser i gefnogi eraill

5.     Cymryd cyfrifoldeb personol dros weithredu rhai pethau

6.    Dangos gonestrwydd, tegwch a chysondeb wrth wneud penderfyniadau

7.     Cytuno'n eglur ar beth a ddisgwylir gan bobl eraill a'u hystyried nhw'n gyfrifol am herio ymddygiad cymdeithasol er enghraifft.

8.     Ceisio deall disgwyliadau pobl ac unrhyw anghenion ychwanegol a medru bodloni'r rhain 

9.     Cymryd cyfrifoldeb dros ddiogelwch personol

10.   Cymryd balchder mewn cynnig gwasanaeth o safon

11.   Ymdrechu i fod yn wyliadwrus rhag bygythiadau a pheryglon posib

12.   Annog a chefnogi eraill i fanteisio i'r eithaf ar eu galluoedd.

13.   Defnyddio ystod o ddulliau arwain sy'n briodol i wahanol bobl a sefyllfaoedd

14.   Eirioli dros ddiogelwch a lles fel blaenoriaeth wrth gynllunio a rheoli digwyddiadau

15.   Cymryd balchder yn eich edrychiad a chydymffurfio gydag unrhyw godau gwisg gan y mudiad neu leoliad

16.   Cydymffurfio gyda chod ymddygiad y lleoliad

17.   Dangos eich gallu i gynnal cyfrinachedd

18.   Dangos ymwybyddiaeth o faterion diogelu

19.   Dangos dealltwriaeth o ofynion cyfreithiol sylfaenol yn ymwneud ag amrywioldeb a diogelwch


Sgiliau

Dyma restr o'r prif sgiliau a nodweddion cyffredinol sydd eu hangen er mwyn gofalu am ddiogelwch gwylwyr

  1. Gwrando a gweithredu 

  2. Cyfathrebu geiriol ac aneiriol effeithiol
  3. Dylanwadu ar ac argyhoeddi eraill
  4. Dirprwyo

  5. Diplomyddiaeth

  6. Empathi
  7. Rhoi grym i eraill
  8. Gallu i ddilyn cyfarwyddiadau
  9. Arwain drwy esiampl
  10. Gwydnwch
  11. Rheoli ymddygiad heriol
  12. Mentora
  13. Ysgogi eraill
  14. Trafod a chyfaddawdu
  15. Derbyn a chynnig adborth
  16. Cynllunio a gwerthuso

  17. Gwerthfawrogi a chefnogi eraill

Geirfa


Dolenni I NOS Eraill

SKASS1, SKASS2, SKASS3, SKASS4, SKASS7, SKASS8, SKASS9


Cysylltiadau Allanol


Fersiwn rhif


Dyddiad Adolygu Dangosol

31 Maw 2024

Dilysrwydd

Ar hyn o bryd

Statws

Gwreiddiol

Sefydliad Cychwynnol

SkillsActive

URN gwreiddiol

SKASS5

Galwedigaethau Perthnasol

Stiward, Uwch Stiward

Cod SOC

9275

Geiriau Allweddol

ddelio, damweiniau, argyfyngau, digwyddiadau, sgiliau achub bywyd sylfaenol