Ymyrryd er mwyn rheoli pobl mewn digwyddiadau i wylwyr

URN: SKASS4
Sectorau Busnes (Suites): Diogel wch Gwylwyr
Datblygwyd gan: SkillsActive
Cymeradwy ar: 31 Maw 2019

Trosolwg

Mae'r safon hon yn ymwneud â chydymffurfio gyda gweithdrefnau diogel a chyfreithiol i reoli gwylwyr pan nad oes modd datrys sefyllfaoedd o wrthdaro mewn unrhyw ffordd arall. Mae'r safon yn ymdrin â'r technegau a defnydd diogel ac effeithiol o ymyrraeth gorfforol pan fo'i angen. Mae'r safon hefyd yn ymdrin â throsglwyddo gwylwyr i'r corff perthnasol er mwyn gweithredu'n bellach.

Mae'r safon hon ar gyfer stiwardiaid a staff tebyg eraill sy'n cydweithio'n uniongyrchol gyda gwylwyr er mwyn gofalu am eu diogelwch a'u lles mewn digwyddiadau a mannau poblog.


Meini prawf perfformiad

Mae'n rhaid eich bod chi'n gallu:

  1.  asesu'r sefyllfa a'r angen am ymyrraeth eiriol neu aneiriol gan gydymffurfio gyda gweithdrefnau cyfreithiol a chyfundrefnol

  2.  cydymffurfio gyda gweithdrefnau cyfundrefnol wrth ymyrryd

  3.  tywys pobl i fan penodedig neu eu gwahardd o'r digwyddiad

  4.  cydymffurfio gyda gweithdrefnau rheoli digwyddiadau i egluro i'r bobl ynghlwm beth sy'n digwydd, pam a'r camau nesaf posib

  5.  cadw mewn cysylltiad gyda'ch goruchwyliwr yn ystod y digwyddiad a dilyn arweiniad a chyfarwyddyd

  6.  trosglwyddo cyfrifoldeb am y digwyddiad i'r corff perthnasol


Gwybodaeth a Dealltwriaeth

You need to know and understand:

1. y deddfau yn ymwneud â hunan-amddiffyn, gwarchod eraill ac atal troseddau

  1. dulliau o gynnal eich diogelwch personol eich hun ac eraill

  2. pwysigrwydd gofalu bod unrhyw orfodaeth gennych chi neu eraill yn rhesymol yn yr amgylchiadau ac yn gymesur â'r bygythiad

  3. troseddau sy'n golygu ymddygiad anghyfreithlon

  4. goblygiadau ymddygiad anghyfreithlon o ran diogelwch a lles pobl mewn digwyddiad i wylwyr

  5. amgylchiadau lle gallwch gyfiawnhau defnyddio technegau ymyrryd geiriol neu gorfforol

7. ffactorau i'w hystyried wrth ddefnyddio technegau ymyrryd

  1. sut i amrywio eich dull gweithredu yn unol â'r ffactorau hyn

  2. sut i ddefnyddio ymyrraeth gorfforol a sut i'w ddefnyddio'n ddiogel

10. y gweithdrefnau wedi'u cytuno er mwyn tywys pobl yn ddiogel i fan penodedig neu eu gwahardd o'r digwyddiad

  1. dulliau o lunio cofnodion cywir

  2. y gweithdrefnau rheoli digwyddiadau perthnasol i'r lleoliad a / neu ddigwyddiad

  3. pam fod yn rhaid ichi gadw mewn cysylltiad gyda'ch goruchwyliwr yn ystod digwyddiadau a dilyn eu harweiniad nhw

  4. proses trosglwyddo'r bobl i'r corff perthnasol yn unol â'r gweithdrefnau cyfundrefnol a throsolwg y digwyddiad

15. pwysigrwydd cynnig gwybodaeth gywir a manwl i'r corff perthnasol


Cwmpas/ystod

GWYBODAETH YCHWANEGOL

Cydraddoldeb ac Amrywioldeb

Mae disgwyl y bydd gan fudiadau weithdrefnau a chanllawiau i'w staff stiwardio gydymffurfio gyda nhw ac a fydd yn bodloni'r gofynion canlynol o leiaf:

  • gwahanol anghenion corfforol
  • gwahanol anghenion diwylliannol
  • anghenion ieithyddol
  • credoau

Diogelwch, Amddiffyn a Gwasanaeth

Mae disgwyl caiff yr holl wasanaethau mewn digwyddiadau gyda gwylwyr ac mewn mannau poblog eu cyflawni yn unol â'r mesurau isod:

Mesurau diogelwch: unrhyw fesur a gaiff eu dylunio a'u rhoi ar waith gyda'r prif nod o ddiogelu iechyd a lles yr holl grwpiau cleient sy'n mynychu, neu'n cymryd rhan mewn digwyddiadau.

Mesurau amddiffyn: unrhyw fesur a gaiff eu dylunio a'u rhoi ar waith gyda'r prif nod o atal, lleihau'r risg a/neu ymateb i unrhyw weithgareddau troseddol neu anghyfreithlon neu aflonyddwch yn gysylltiedig â'r digwyddiadau.

Mesurau gwasanaeth: unrhyw fesur a gaiff eu dylunio a'u rhoi ar waith gyda'r prif nod  o ofalu bod yr holl grwpiau cleient yn teimlo'n gyfforddus, wedi'u gwerthfawrogi a bod croeso iddyn nhw pan maen nhw'n mynychu digwyddiadau.


Cwmpas Perfformiad


Corff perthnasol (ymdrin â phob un)

  1.  gwasanaeth heddlu

  2.  gwasanaethau meddygol

  3.  tîm diogelu penodedig

  4.  gweithwyr y lleoliad sydd wedi'u penodi i reoli unigolion bygythiol neu dreisgar


Gwybodaeth Cwmpas


Ffactorau

  1.  ymddygiad anghyfreithlon, nad ydyw'n cydymffurfio neu wrth-gymdeithasol

  2.  risgiau i ddiogelwch y cyhoedd

  3.  lleoliad y digwyddiad

  4.  amser y digwyddiad

  5.  nifer o bobl ynghlwm â'r digwyddiad

  6.  lefel o adnoddau cefnogi sydd ar gael

  7. credoau ac anghenion corfforol yr unigolyn  

Corff perthnasol

  1.  gwasanaeth heddlu

  2.  gwasanaethau meddygol

  3.  tîm diogelu penodedig

  4.  gweithwyr y lleoliad sydd wedi'u penodi i reoli unigolion bygythiol neu dreisgar


Gwerthoedd


Ymddygiadau

Mae'r ymddygiadau canlynol wrth wraidd cynnal gweithgareddau yn y sector diogelwch i wylwyr. Mae'r ymddygiadau yn gofalu bod y mudiad a'r unigolyn yn creu argraff dda ar y cleientiaid.

Mae'n rhaid ichi ddangos eich bod yn cyflawni'r canlynol yn gyson:

1.     Adnabod yr angen i fod yn hyblyg er mwyn dwyn i ystyriaeth amgylchiadau newidiol

2.     Addasu cynlluniau ac ymatebion fel bo'r angen

3.    Blaenoriaethu amcanion a gwaith cynllunio er mwyn manteisio ar y defnydd gorau posib o amser ac adnoddau 

4.    Gofalu bod amser i gefnogi eraill

5.    Cymryd cyfrifoldeb personol dros weithredu rhai pethau

6.    Dangos gonestrwydd, tegwch a chysondeb wrth wneud penderfyniadau

7.     Cytuno'n eglur ar beth a ddisgwylir gan bobl eraill a'u hystyried nhw'n gyfrifol am herio ymddygiad cymdeithasol er enghraifft

8.     Ceisio deall disgwyliadau pobl ac unrhyw anghenion ychwanegol a medru bodloni'r rhain 

9.     Cymryd cyfrifoldeb dros ddiogelwch personol

10.   Cymryd balchder mewn cynnig gwasanaeth o safon

11.   Ymdrechu i fod yn wyliadwrus rhag bygythiadau a pheryglon posib

12.   Annog a chefnogi eraill i fanteisio i'r eithaf ar eu galluoedd.

13.   Defnyddio ystod o ddulliau arwain sy'n briodol i wahanol bobl a sefyllfaoedd

14.   Eirioli dros ddiogelwch a lles fel blaenoriaeth wrth gynllunio a rheoli digwyddiadau

15.   Cymryd balchder yn eich edrychiad a chydymffurfio gydag unrhyw godau gwisg gan y mudiad neu leoliad

16.   Cydymffurfio gyda chod ymddygiad y lleoliad

17.   Dangos eich gallu i gynnal cyfrinachedd

18.   Dangos ymwybyddiaeth o faterion diogelu

19.   Dangos dealltwriaeth o ofynion cyfreithiol sylfaenol yn ymwneud ag amrywioldeb a diogelwch


Sgiliau

Dyma restr o'r prif sgiliau a nodweddion cyffredinol sydd eu hangen er mwyn gofalu am ddiogelwch gwylwyr

  1. Gwrando a gweithredu 

  2. Cyfathrebu geiriol ac aneiriol effeithiol
  3. Dylanwadu ar ac argyhoeddi eraill
  4. Dirprwyo

  5. Diplomyddiaeth

  6. Empathi
  7. Rhoi grym i eraill
  8. Gallu i ddilyn cyfarwyddiadau
  9. Arwain drwy esiampl
  10. Gwydnwch
  11. Rheoli ymddygiad heriol
  12. Mentora
  13. Ysgogi eraill
  14. Trafod a chyfaddawdu
  15. Derbyn a chynnig adborth
  16. Cynllunio a gwerthuso

  17. Gwerthfawrogi a chefnogi eraill

Geirfa


Safonau a gweithdrefnau wedi'u cytuno

Gweithdrefnau wedi'u cymeradwyo eisoes sy'n gofnod o weithrediadau'r lleoliad o ddydd i ddydd. Gall fod yn weithdrefnau gweithredu arferol, gweithdrefnau mewn argyfwng a chynlluniau wrth gefn. Mae hyn yn ymwneud â gofynion y lleoliad ynghyd â gofynion cyfundrefnol.


Gweithdrefnau rheoli digwyddiadau

Y gweithdrefnau cyfundrefnol er mwyn mynd i'r afael gyda digwyddiadau.


Technegau ymyrryd

Yr ystod o dechnegau rheoli torfeydd a all gael eu defnyddio i reoli, cyfathrebu gyda neu gadw trefn ar bobl sy'n mynychu digwyddiad. Gyda rhai technegau, mae'n bosib y bydd angen i staff wahardd neu rwystro unigolyn neu eu gwahanu rhag mynychwyr eraill.


Dolenni I NOS Eraill

SKASS1, SKASS2, SKASS3, SKASS5, SKASS7,SKASS8, SKASS9


Cysylltiadau Allanol


Fersiwn rhif


Dyddiad Adolygu Dangosol

31 Maw 2024

Dilysrwydd

Ar hyn o bryd

Statws

Gwreiddiol

Sefydliad Cychwynnol

SkillsActive

URN gwreiddiol

SKASS4

Galwedigaethau Perthnasol

Stiward, Uwch Stiward

Cod SOC

9275

Geiriau Allweddol

Rheoli, pobl, gwyliwr, digwyddiad, gweithredu, yr heddlu