Rheoli prosiectau

URN: SKASS22 (CFAM&LFA5)
Sectorau Busnes (Suites): Gweithrediadau Diogelwch Digwyddiad,Rheolaeth & Arweiniad,Marchnata (2013,Technoleg Anifeiliaid,Rheolo Digwyddiadau Byw; ,Rheoli Arweinyddiaeth mewn Gwasanaethau Gofal
Datblygwyd gan: SkillsActive
Cymeradwy ar: 01 Maw 2012

Trosolwg

Mae'r safon hon yn ymwneud â rheoli'r prosiectau hynny yr ydych yn gyfrifol amdanynt.


Mae'r safon hon yn berthnasol ar gyfer y rheolwyr ac arweinwyr hynny sydd rhaid rheoli prosiectau.


Mae gan y safon hon gysylltiadau agos gyda CFAM&LFA4 Rheoli rhaglenni. Er mwyn rheoli prosiectau'n effeithiol mae angen i reolwyr prosiect fod yn gymwys mewn ystod o safonau eraill hefyd, er enghraifft, CFAM&LBA3 Arwain eich tîm, CFAM&LDB2 Dyrannu gwaith i aelodau eraill, CFAM&LDB3 Sicrhau ansawdd gwaith yn eich tîm, CFAM&LEA4 Rheoli cyllidebau, CFAM&LEB3 Rheoli adnoddau ffisegol a CFAM&LEC4 Cyfathrebu gwybodaeth a dealltwriaeth.​


Meini prawf perfformiad

Mae'n rhaid eich bod chi'n gallu:

Rhaid eich bod chi'n gallu:**

*
*
1. trafod a chytuno gyda noddwyr y prosiect a rhanddeiliaid allweddol eraill  ar amcanion allweddol a chwmpas y prosiect arfaethedig a'r adnoddau sydd ar gael

2. adnabod sut mae'r prosiect arfaethedig yn cyd-fynd â gweledigaeth, amcanion a chynlluniau cyfan y sefydliad ac unrhyw raglenni gwaith neu brosiectau eraill sydd ar y gweill

3. datblygu, drwy ymgynghori ag aelodau tîm y prosiect, cynllun realistig a thrylwyr ar gyfer cyflawni'r prosiect a'u hamcanion

4. trafod a chytuno ar gynllun y prosiect gyda noddwyr y prosiect a rhanddeiliaid allweddol eraill, gan wneud newidiadau lle bo angen

5. briffio aelodau tîm y prosiect ar gynllun y prosiect a'u rolau a chyfrifoldebau, a chynnig cefnogaeth, anogaeth a gwybodaeth barhaus

6. gosod prosesau ac adnoddau yn eu lle i reoli risgiau a allai deillio o'r prosiect a delio â digwyddiadau annisgwyl

7. gweithredu cynllun y prosiect, gan ddewis a defnyddio offer a thechnegau rheoli prosiect effeithiol i fonitro, reoli ac adolygu cynnydd

8. cyfleu cynnydd y prosiect yn rheolaidd i noddwr y prosiect, rhanddeiliaid allweddol eraill ac aelodau tîm y prosiect

9. adnabod, yn sgil y cynnydd, problemau a wynebwyd neu newidiadau i amcanion y sefydliad ac unrhyw newidiadau i gynllun y prosiect, gan sicrhau cytundeb noddwyr y prosiect a rhanddeiliaid allweddol eraill lle bo angen

10. cyflawni amcanion y prosiect ar amser ac o fewn y gyllideb

11. cadarnhau wrth noddwr y prosiect ac unrhyw rhanddeiliaid allweddol bod y prosiect wedi'i gwblhau'n foddhaol

12. gwerthuso llwyddiant y prosiect, gan nodi gwersi i'w dysgu a'u rhannu

13. dathlu cwblhad y prosiect, gan gydnabod cyfraniadau aelodau tîm y prosiect


Gwybodaeth a Dealltwriaeth

You need to know and understand:

Gwybodaeth a dealltwriaeth gyffredinol**

*
*
1. nodweddion prosiectau yn hytrach na swyddogaethau/gweithgareddau rheoli arferol

2. rôl a chyfrifoldebau allweddol rheolwr prosiect

3. camau allweddol yng nghylch bywyd y prosiect

4. pwysigrwydd y berthynas rhwng rheolwr y prosiect a noddwyr y prosiect ac unrhyw rhanddeiliaid allweddol

5. pam mae'n bwysig trafod a chytuno gyda noddwyr y prosiect ac unrhyw rhanddeiliaid allweddol am amcanion allweddol a chymwys y prosiect arfaethedig cyn cychwyn cynllunio manwl

6. y math o wybodaeth sydd ei hangen er mwyn cynllunio prosiect yn effeithiol

7. pam mae'n bwysig bod â'r gallu i adnabod a deall sut mae prosiect yn cyd-fynd â gweledigaeth, amcanion a chynlluniau cyfan y sefydliad ac unrhyw raglenni gwaith neu brosiectau eraill sydd ar y gweill

8. pam fod hi'n bwysig ymgynghori â phobl berthnasol wrth ddatblygu cynllun prosiect a sut i wneud hynny'n effeithiol

9. beth y dylid eu cynnwys mewn cynllun prosiect, yn benodol o ran gweithgareddau, adnoddau sydd eu hangen ac amserlenni, a pham mae angen trafod a chytuno ar y cynllun gyda noddwyr y prosiect ac unrhyw rhanddeiliaid allweddol

10. pam mae'n bwysig bod unrhyw aelodau tîm y prosiect yn cael eu briffio ar gynllun y prosiect a'u rolau a chyfrifoldebau, a sut i wneud hynny'n effeithiol

11. ffyrdd o roi cefnogaeth, annogaeth a gwybodaeth barhaus i unrhyw aelodau tîm y prosiect

12. ffyrdd o adnabod a rheoli risgiau posibl yn gysylltiedig â'r prosiect

13. pwysigrwydd cynllunio ar gyfer digwyddiadau annisgwyl a sut i'w wneud mewn ffordd effeithiol

14. sut i ddewis a defnyddio ystod o offer a thechnegau rheoli prosiect effeithiol i fonitro, reoli ac adolygu cynnydd y prosiect

15. dulliau effeithiol o gyfathrebu gyda noddwyr y prosiect ac unrhyw randdeiliaid allweddol yn ystod y prosiect

16. pwysigrwydd cytuno ar newidiadau i gynllun y prosiect gyda noddwyr y prosiect ac unrhyw randdeiliaid allweddol

17. y math o newidiadau i gynllun y prosiect a allai fod yn angenrheidiol wrth iddynt gael eu gweithredu

18. pam mae'n bwysig cadarnhau wrth noddwr y prosiect ac unrhyw rhanddeiliaid allweddol bod y prosiect wedi'i gwblhau'n foddhaol a sut i wneud hynny'n effeithiol

19. sut i sefydlu systemau effeithiol ar gyfer gwerthuso llwyddiant prosiectau a nodi gwersi i'w dysgu ar gyfer y dyfodol

20. pwysigrwydd cydnabod cyfraniadau aelodau tîm y prosiectau at lwyddiant prosiectau a ffyrdd gwahanol o wneud hynny

Gwybodaeth a dealltwriaeth sy'n benodol i'r diwydiant/sector**

*
*
21. offer a thechnegau rheoli prosiect a ddefnyddir yn aml yn y diwydiant neu sector

22. risgiau a digwyddiadau annisgwyl sy'n gyffredin i'r diwydiant/sector

23. deddfwriaeth, rheoliadau, canllawiau a chodau ymarfer sy'n benodol i'r diwydiant/sector

Gwybodaeth a dealltwriaeth sy'n benodol i'r cyd-destun**

*
*
24. noddwyr y prosiect – yr unigolyn neu grŵp y mae'r prosiect yn cael ei gyflawni ar ei gyfer/eu cyfer

25. rhanddeiliaid allweddol – yr unigolion neu grwpiau sydd â diddordeb sylweddol mewn llwyddiant y prosiect a'r sefydliad

26. amcanion allweddol a chwmpas y prosiect a gytunwyd arno, a'r adnoddau sydd ar gael

27. gweledigaeth, amcanion a chynlluniau cyfan y sefydliad ac unrhyw raglenni gwaith perthnasol eraill neu brosiectau eraill sydd ar y gweill

28. methodoleg, polisi a gweithdrefnau rheoli prosiect eich sefydliad

29. dulliau ar gyfer ymgynghori ynghylch datblygiad cynllun y prosiect a'r barnau/syniadau a dderbyniwyd wrth bobl berthnasol mewn perthynas â chynigion

30. cynllun y prosiect a gytunwyd arno

31. rolau a chyfrifoldebau unrhyw aelodau tîm y prosiect

32. dulliau a ddefnyddir ar gyfer briffio, cefnogi, annog a rhoi gwybodaeth barhaus i unrhyw aelodau tîm y prosiect

33. prosesau ac adnoddau a rhoddwyd yn eu lle i reoli risgiau posibl a delio â digwyddiadau annisgwyl

34. math a natur y risgiau posibl a nodwyd a digwyddiadau annisgwyl a wynebwyd

35. offer a thechnegau rheoli prosiect penodol a defnyddir i fonitro, reoli ac adolygu cynnydd

35. prosesau a rhoddir yn eu lle ar gyfer cyfleu gwybodaeth ar gynnydd y prosiect i noddwyr y prosiect, unrhyw rhanddeiliaid allweddol ac unrhyw aelodau tîm y prosiect

37. prosesau a rhoddir yn eu lle ar gyfer adnabod a chytuno ar newidiadau i gynllun y prosiect ac unrhyw newidiadau a wnaethpwyd yn barod

38. prosesau ar gyfer cadarnhau wrth noddwyr y prosiect ac unrhyw rhanddeiliaid allweddol bod y prosiect wedi'i gwblhau'n foddhaol

39. prosesau ar gyfer gwerthuso llwyddiant y prosiect ac unrhyw wersi a ddysgwyd drwy ei gyflawni

40. dulliau a defnyddir ar gyfer cydnabod cyfraniadau unrhyw aelodau tîm y prosiect at brosiectau llwyddiannus​


Cwmpas/ystod


Cwmpas Perfformiad


Gwybodaeth Cwmpas


Gwerthoedd


Ymddygiadau

Wrth berfformio i'r safon hon, rydych yn debygol o ymddwyn fel y ganlyn:

1. Adnabod newidiadau  i amgylchiadau yn ddi-oed ac addasu cynlluniau a gweithgareddau fel sy'n briodol

2. Adnabod yr ystod o elfennau mewn sefyllfa a sut maent yn berthnasol i'w gilydd

3. Cyflwyno gwybodaeth mewn ffordd glir, gryno a chywir ac mewn ffyrdd sy'n hyrwyddo dealltwriaeth

4. Gweithredu o fewn terfynau'ch awdurdod

5. Cadwch lygad am risgiau a pheryglon posibl

6. Blaenoriaethu amcanion a chynllunio gwaith i wneud defnydd effeithiol o amser ac adnoddau

7. Cymryd cyfrifoldeb personol dros wneud i bethau ddigwydd

8. Cytuno'n glir beth y disgwylir gan eraill a'u dwyn i gyfrif

9. Monitro ansawdd gwaith a chynnydd yn erbyn cynlluniau a chymryd camau cywiro priodol, lle bo angen

10. Ymfalchïo mewn cyflawni gwaith o ansawdd

11. Creu ymdeimlad o ddiben cyffredin

12. Gwneud defnydd effeithiol o'r adnoddau sydd ar gael

13. Chwilio am adnoddau cymorth newydd yn ôl yr angen

14. Adnabod oblygiadau neu ganlyniadau sefyllfa

15. Gwneud penderfyniadau yn ddi-oed sy'n realistig ar gyfer y sefyllfa


Sgiliau

Wrth berfformio i'r safon hon, rydych yn debygol o ddangos y sgiliau canlynol:

1. Gweithredu mewn ffordd bendant

2. Cyfathrebu

3. Ymgynghori

4. Cynllunio ar gyfer digwyddiadau annisgwyl

5. Gwneud penderfyniadau

6. Dirprwyo

7. Gwerthuso

8. Rheoli gwybodaeth

9. Cynnwys eraill

10. Arweiniad

11. Rheoli gwrthdaro

12. Monitro

13. Ysgogi

14. Cyd-drafod

15. Cynllunio

16. Cyflwyno gwybodaeth

17. Blaenoriaethu

18. Datrys problemau

19. Rhoi adborth

20. Adrodd

21. Adolygu

22. Asesu risg

23. Pennu amcanion

24. Rheoli straen

25. Meddwl yn systematig

26. Rheoli amser​


Geirfa


Dolenni I NOS Eraill


Cysylltiadau Allanol


Fersiwn rhif


Dyddiad Adolygu Dangosol

30 Maw 2015

Dilysrwydd

Ar hyn o bryd

Statws

Gwreiddiol

Sefydliad Cychwynnol

Skills CFA

URN gwreiddiol

CFAM&LFA5

Galwedigaethau Perthnasol

Rheolwyr ac Uwch Swyddogion, Swyddog Gwasanaethau Cymdeithasol, Galwedigaethau marchnata, Rheolwr Cyfleusterau Anhafaledd; , Celfyddydau Perfformio, Iechyd a Gofal Cymdeithasol, Gofal Plant a Gwasanaethau Personol Tebyg

Cod SOC


Geiriau Allweddol

Rheolaeth & arweinyddiaeth; rheoli prosiectau; Marchnata; Digwyddiadau Byw, Arddangosfeydd;