Rheoli symudiadau gwylwyr a mynd i’r afael gyda thrafferthion yn ymwneud â thorfeydd mewn digwyddiadau

URN: SKASS2
Sectorau Busnes (Suites): Diogel wch Gwylwyr
Datblygwyd gan: SkillsActive
Cymeradwy ar: 31 Maw 2019

Trosolwg

Mae'r safon hon yn ymwneud â goruchwylio gwylwyr yn ofalus gan gynnwys pan fyddan nhw'n dod i mewn ac yn gadael y lleoliad a'u chwilio'n ofalus wrth iddyn nhw gyrraedd y lleoliad. Mae hefyd yn ymdrin â thrafferthion yn ymwneud â throfeydd fel symudiadau annisgwyl, gorlenwi, gorboblogi, eiddo coll, pobl ar goll ac ymddygiad gwrth-gymdeithasol neu anghyfreithlon.

* *

Prif ddeilliannau'r safon hon ydy:

  1. Rheoli pobl yn dod i mewn ac yn gadael digwyddiadau i wylwyr ynghyd â'u symudiadau

  2. Adnabod a mynd i'r afael gyda thrafferthion yn ymwneud â thorfeydd

Mae'r safon hon ar gyfer stiwardiaid a staff tebyg eraill sy'n cydweithio'n uniongyrchol gyda gwylwyr a grwpiau cleient eraill er mwyn gofalu am eu diogelwch a'u lles mewn digwyddiadau a mannau poblog.


Meini prawf perfformiad

Mae'n rhaid eich bod chi'n gallu:

*Rheoli pobl yn dod i mewn i ac yn gadael digwyddiadau i wylwyr ynghyd â’u symudiadau *

  1.  goruchwylio a monitro'r grwpiau cleient a'r amodau yn eich man penodedig drwy gydol eich cyfnod dyletswydd

  2.  rheoli ciwiau yn unol â gofynion y lleoliad a gofynion deddfwriaethol

  3.  cydymffurfio gyda gweithdrefnau eich mudiad wrth chwilio pobl

  4.  cyfarch a derbyn grwpiau cleient yn unol â gofynion y lleoliad a gofynion deddfwriaethol

  5.  ymateb i ymholiadau gan grwpiau cleient neu eu cyfeirio at ffynhonnell cymorth arall os yn briodol

  6.  goruchwylio bod grwpiau cleient yn gadael y digwyddiad yn ddiogel yn unol â gweithdrefnau'r lleoliad

Adnabod a mynd i'r afael gyda thrafferthion yn ymwneud â thorfeydd

  1.  asesu a chofnodi trafferthion torfeydd gwirioneddol neu ddichonol i'ch ystafell reoli neu oruchwyliwr

8. gweithredu yn unol â'r gweithdrefnau sydd wedi'u cytuno

9. gofalu nad ydy unrhyw weithrediad yn berygl ichi neu'r grwpiau cleient ynghlwm

10. calonogi'r bobl ynghlwm a gofyn iddyn nhw am ddilyn cyfarwyddiadau

11. rhoi'r wybodaeth ddiweddaraf i'ch ystafell reoli neu'ch goruchwyliwr


Gwybodaeth a Dealltwriaeth

You need to know and understand:

Rheoli pobl yn dod i mewn i ac yn gadael digwyddiadau i wylwyr ynghyd â*'u symudiadau*

  1.  prosesau a thechnegau wedi'u cytuno er mwyn monitro amodau torfeydd yn eich man penodedig

  2.  dulliau rheoli ciwiau yn ddiogel

  3.  gweithdrefnau eich mudiad i chwilio pobl

  4.  y rhesymau dros gynnal y chwiliadau

  5.  pwysigrwydd egluro'r rhesymau dros gynnal y chwiliadau i'r grwpiau cleient

  6.  dulliau cyfathrebu effeithiol

  7.  eitemau heb eu hawdurdodi a gwaharddedig ynghyd â mannau dichonol i'w cuddio

  8.  sut i ymateb i unrhyw ddigwyddiad yn unol â'r gweithdrefnau cyfreithiol a chyfundrefnol

  9. pryd i wneud penderfyniad i rannu manylion a chofnodi unrhyw ddigwyddiad rydych yn mynd i'r afael gyda nhw gan gynnwys eitemau heb eu hawdurdodi neu wedi'u gwahardd

  10. gofynion y lleoliad a gofynion deddfwriaethol yn ymwneud â'r canlynol:

  11. Cyfarch a derbyn grwpiau cleient

  12. Goruchwylio grwpiau cleient yn gadael y lleoliad yn ddiogel 

11. y math o wybodaeth y mae'n bosib y bydd angen i grwpiau cleient wybod

  1. pryd i gyfeirio grwpiau cleient at ffynhonnell gwybodaeth arall

* *

Adnabod a mynd i'r afael gyda thrafferthion yn ymwneud â thorfeydd

  1. trafferthion torfeydd posib yn eich man penodedig

  2. dulliau asesu a chofnodi trafferthion torfeydd

15. pam ei fod yn angenrheidiol dilyn cyfarwyddiadau gan eich ystafell reoli neu oruchwyliwr

  1. y math o weithrediadau a allai eich peryglu chi neu grwpiau cleient eraill

17. dulliau cyfathrebu

18.* sgiliau rheoli'r torfeydd* sy'n rhan o'r gweithdrefnau cyfundrefnol

  1. gweithdrefnau eich mudiad ar gyfer rhoi gwybod y diweddaraf i'ch ystafell reoli neu oruchwyliwr 


Cwmpas/ystod

**** **GWYBODAETH YCHWANEGOL** **Cydraddoldeb ac Amrywioldeb** Mae disgwyl y bydd gan fudiadau weithdrefnau a chanllawiau i'w staff stiwardio gydymffurfio gyda nhw ac a fydd yn bodloni'r gofynion canlynol o leiaf: * gwahanol anghenion corfforol * gwahanol anghenion diwylliannol * anghenion ieithyddol * credoau **Diogelwch, Amddiffyn a Gwasanaeth** Mae disgwyl caiff yr holl wasanaethau mewn digwyddiadau gyda gwylwyr ac mewn mannau poblog eu cyflawni yn unol â'r mesurau isod: **Mesurau diogelwch:** unrhyw fesur a gaiff eu dylunio a'u rhoi ar waith gyda'r prif nod o ddiogelu iechyd a lles yr holl grwpiau cleient sy'n mynychu, neu'n cymryd rhan mewn digwyddiadau. **Mesurau amddiffyn:** unrhyw fesur a gaiff eu dylunio a'u rhoi ar waith gyda'r prif nod o atal, lleihau'r risg a/neu ymateb i unrhyw weithgareddau troseddol neu anghyfreithlon neu aflonyddwch yn gysylltiedig â'r digwyddiadau. **Mesurau gwasanaeth:** unrhyw fesur a gaiff eu dylunio a'u rhoi ar waith gyda'r prif nod  o ofalu bod yr holl grwpiau cleient yn teimlo'n gyfforddus, wedi'u gwerthfawrogi a bod croeso iddyn nhw pan maen nhw'n mynychu digwyddiadau. 

Cwmpas Perfformiad

**** **Grwpiau cleient** (yn ymwneud â lleiafswm o 4) 1. gwylwyr 2. y gweithlu 3. contractwyr 4. cyrff rheoleiddiol 5. y cyfryngau 6. gwasanaethau argyfwng 7. athletwyr 8. artistiaid 9. swyddogion y digwyddiad **Trafferthion torfeydd** (Mae'n rhaid ymdrin ag 1, 2, 3 a 4 o leiaf) 1. symudiadau a dynameg y dorf 2. dwysedd y dorf 3. gorboblogi 4. trafferth yn y dorf 5. unigolion a grwpiau yn gwahanu 6. ymddygiad gwrth-gymdeithasol 7. ymddygiad anghyfreithlon  8. mynediad i fannau cyfyngedig 9. symudiad cerbydau 
** **

Gwybodaeth Cwmpas


**Grwpiau cleient** 1. gwylwyr 2. gweithlu 3. contractwyr 4. cyrff rheoleiddiol 5. cyfryngau 6. gwasanaethau argyfwng 7. athletwyr 8. artistiaid 9. swyddogion y digwyddiad **Trafferthion torfeydd** 1. symudiadau a dynameg y dorf 2. dwysedd y dorf 3. gorboblogi 4. trafferth yn y dorf 5. unigolion a grwpiau yn gwahanu 6. ymddygiad gwrth-gymdeithasol 7. ymddygiad anghyfreithlon 8. mynediad i fannau cyfyngedig 9. symudiad cerbydau ** ** **Dulliau cyfathrebu** 1. cyfathrebu geiriol 2. cyfathrebu aneiriol 3. cyfathrebu radio 4. cyfathrebu ysgrifenedig 5. arwyddion **Sgiliau rheoli'r dorf** 1. bod yn wyliadwrus o ffactorau all newid ymddygiad neu ddwysedd torfeydd 2. cynnig cysur 3. annog tawelwch 4. mynnu lefel dymunol o awdurdod 5. gofalu eich bod yn amlwg i'r dorf 6. parhau i fod yn wyliadwrus 7. diffiwsio sefyllfaoedd

Gwerthoedd


Ymddygiadau

Mae'r ymddygiadau canlynol wrth wraidd cynnal gweithgareddau yn y sector diogelwch i wylwyr. Mae'r ymddygiadau yn gofalu bod y mudiad a'r unigolyn yn creu argraff dda ar y cleientiaid.

Mae'n rhaid ichi ddangos eich bod yn cyflawni'r canlynol yn gyson:

  1. Adnabod yr angen i fod yn hyblyg er mwyn dwyn i ystyriaeth amgylchiadau newidiol
  2. Cymryd cyfrifoldeb personol dros weithredu rhai pethau
  3. Dangos gonestrwydd, tegwch a chysondeb wrth wneud penderfyniadau
  4. Cytuno'n eglur ar beth a ddisgwylir gan bobl eraill a'u hystyried nhw'n gyfrifol am herio ymddygiad cymdeithasol fel enghraifft
  5. Ceisio deall disgwyliadau pobl ac unrhyw anghenion ychwanegol a medru bodloni'r rhain
  6. Cymryd cyfrifoldeb dros ddiogelwch personol
  7. Cymryd balchder mewn cynnig gwasanaeth o safon
  8. Ymdrechu i fod yn wyliadwrus rhag bygythiadau a pheryglon posib
  9. Annog a chefnogi eraill i fanteisio i'r eithaf ar eu galluoedd.
  10. Eirioli dros ddiogelwch a lles fel blaenoriaeth
  11. Cymryd balchder yn eich edrychiad a chydymffurfio gydag unrhyw godau gwisg gan y mudiad neu leoliad
  12. Cydymffurfio gyda chod ymddygiad y lleoliad
  13. Dangos eich gallu i gynnal cyfrinachedd
  14. Dangos ymwybyddiaeth o faterion diogelu
  15. Dangos dealltwriaeth o ofynion cyfreithiol sylfaenol yn ymwneud ag amrywioldeb a diogelwch

Sgiliau

Dyma restr o'r prif sgiliau a nodweddion cyffredinol sydd eu hangen er mwyn gofalu am ddiogelwch gwylwyr

  1. Gwrando a gweithredu
  2. Cyfathrebu geiriol ac aneiriol effeithiol
  3. Dylanwadu ar ac argyhoeddi eraill
  4. Diplomyddiaeth
  5. Empathi
  6. Gallu i ddilyn cyfarwyddiadau
  7. Arwain drwy esiampl
  8. Gwydnwch
  9. Rheoli ymddygiad heriol
  10. Mentora cydweithwyr
  11. Ysgogi eraill
  12. Trafod a chyfaddawdu
  13. Derbyn a chynnig adborth
  14. Gwerthfawrogi a chefnogi eraill

Geirfa

**** **Dwysedd y dorf** Nifer y gwylwyr mewn man penodol, fel arfer caiff ei fesur fel y nifer o bobl fesul medr sgwâr. **Trafferth yn y dorf** Effaith cynnydd mewn dwysedd. Mae'r bobl yn y dorf yn dechrau dangos anesmwythdra a phryder am eu diogelwch personol a diogelwch eraill. **Dynameg y dorf** Symudiad pobl o amgylch neu yn y lleoliad. Gall hyn fod wedi'i gynllunio ymlaen llaw neu fod yn ganlyniad o amgylchiadau newidiol. **Digwyddiadau peryglus yn y dorf** Gweithrediadau neu ddigwyddiadau all achosi anafiadau neu niwed i wylwyr. Gall olygu ymchwydd yn y dorf, gwasgu a phyrotechneg yn y dorf. **Eitemau heb eu hawdurdodi ac wedi'u gwahardd** Eitemau sydd wedi'u cyfyngu mae'n bosib gan reolwyr y lleoliad neu'r digwyddiad gan gynnwys cludo alcohol, arfau ymosodol, cyffuriau a phyrotechneg.

Dolenni I NOS Eraill

SKASS1, SKASS3, SKASS4, SKASS5


Cysylltiadau Allanol


Fersiwn rhif


Dyddiad Adolygu Dangosol

31 Maw 2024

Dilysrwydd

Ar hyn o bryd

Statws

Gwreiddiol

Sefydliad Cychwynnol

SkillsActive

URN gwreiddiol

SKASS2

Galwedigaethau Perthnasol

Stiward

Cod SOC

9275

Geiriau Allweddol

torfeydd, gwylwyr, stiwardiaid, digwyddiadau, Marsialiaid