Hyrwyddo dysgu a datblygiad unigolion

URN: SKASS18 (CFAM&LDC2)
Sectorau Busnes (Suites): Rheolaeth & Arweiniad,Marchnata (2013,Technoleg Anifeiliaid
Datblygwyd gan: SkillsActive
Cymeradwy ar: 01 Maw 2012

Trosolwg

Mae'r safon hon yn ymwneud â chynnig cyfleoedd i unigolion yn eich tîm neu'ch maes cyfrifoldeb i fodloni eu hanghenion dysgu ac i gyrraedd eu potensial yn llawn.


Mae'r safon hon yn berthnasol i reolwyr ac arweinwyr ar bob lefel sydd ag unigolion yn adrodd iddynt.


Mae gan y safon hon gysylltiadau agos gyda holl safonau maes allweddol DC Datblygu a chefnogi unigolion a hefyd gyda CFAM&LAA2 Datblygu eich dealltwriaeth, sgiliau a chymhwysedd, sydd yn ymwneud â hunanddatblygiad.​


Meini prawf perfformiad

Mae'n rhaid eich bod chi'n gallu:

Rhaid eich bod chi'n gallu:**

1. hyrwyddo manteision dysgu i bobl yn eich maes cyfrifoldeb a chydnabod eu parodrwydd ac ymdrechion i ddysgu

2. rhoi adborth gwrthrychol, penodol a dilys i unigolion ar eu perfformiad gwaith, gan drafod a chytuno ar sut allant wella

3. ymgysylltu ag unigolion wrth adnabod a chasglu gwybodaeth am ystod o weithgareddau dysgu posibl ar gyfer bodloni eu hanghenion dysgu

4. trafod gydag unigolion ynghylch rolau a chyfrifoldebau yn y dyfodol sy'n gydnaws a'u cymhwysedd a'u potensial

5. trafod a chytuno ar gynlluniau datblygu personol sy'n cynnwys gweithgareddau dysgu ac amcanion dysgu i'w cyflawni, yr adnoddau gofynnol ac amserlenni

6. cefnogi unigolion i gyflawni gweithgareddau dysgu, gan sicrhau bod yr adnoddau gofynnol ar gael ac ymdrechu i ddileu unrhyw rwystrau i ddysgu

7. cynnig cyfleoedd priodol i unigolion i ddefnyddio'r cymhwysedd maent yn ei ddatblygu, yn y gweithle

8. adnabod a manteisio ar gyfleoedd dysgu annisgwyl

9. trafod ag unigolion am eu profiad o weithgareddau dysgu ac i ba raddau y cyflawnwyd yr amcanion dysgu

10. trafod ag unigolion eu cynnydd a'u parodrwydd i daclo rolau a chyfrifoldebau newydd, a chytuno ar y gefnogaeth a'r oruchwyliaeth y byddant yn eu hangen

11. penodi unigolion i rolau a chyfrifoldebau sy'n gydnaws a'u cymhwysedd a'u potensial

12. rhoi cefnogaeth a goruchwyliaeth y mae angen ar unigolion a sicrhau eu bod yn derbyn adborth penodol i alluogi iddynt wella ar eu perfformiad

13. trafod a chytuno ar newidiadau i gynlluniau datblygu personol yn sgil eu perfformiad, gweithgareddau dysgu a chyflawnwyd ac unrhyw newidiadau ehangach

14. annog pobl i gymryd cyfrifoldeb am ddysgu a datblygiad eu hun, yn cynnwys ymarfer ac adlewyrchu ar beth a ddysgwyd

15. chwilio a manteisio ar arbenigedd lle bo angen​


Gwybodaeth a Dealltwriaeth

You need to know and understand:

Gwybodaeth a dealltwriaeth gyffredinol**

1. manteision dysgu ar gyfer unigolion a sefydliadau a sut i hyrwyddo'r rhain

2. ffyrdd y gallech ddatblygu diwylliant lle mae dysgu yn cael ei werthfawrogi ac mae parodrwydd ac ymdrech i ddysgu yn cael eu cydnabod

3. sut i adnabod rolau a chyfrifoldebau posibl i unigolion ar gyfer y dyfodol

4. sut i roi'r gefnogaeth a goruchwyliaeth sydd angen ar unigolion

5. sut i roi adborth gwrthrychol, penodol a dilys i unigolion gyda'r bwriad o wella ar eu perfformiad

6. sut i flaenoriaethu anghenion dysgu unigolion, yn cynnwys ystyried anghenion a blaenoriaethau'r sefydliad ac anghenion personol a datblygiad gyrfa unigolion

7. gwahanol fathau o weithgareddau dysgu, eu manteision a'u hanfanteision a'r adnoddau sydd eu hangen (er enghraifft, amser, ffioedd, staff cyflenwi)

8. ble/sut i adnabod a chasglu gwybodaeth am wahanol weithgareddau dysgu

9. pam fod hi'n bwysig bod gan unigolion cynllun datblygu personol ysgrifenedig a beth y dylid eu cynnwys (er enghraifft, anghenion dysgu a nodwyd, gweithgareddau dysgu ac amcanion dysgu i'w cyflawni, amserlenni, a'r adnoddau gofynnol)

10. sut i osod amcanion dysgu SMART (penodol (specific), mesuradwy (measurable), cytunedig (agreed), realistig , a chyfnodol (time-bound)

11. y math o gefnogaeth bydd angen ar unigolion, o bosib, er mwyn cyflawni gweithgareddau dysgu, yr adnoddau sydd eu hangen a'r mathau o rwystrau y gallent eu hwynebu a sut y gellir eu datrys

12. sut i werthuso a yw gweithgareddau dysgu wedi cyflawni'r amcanion dysgu a fwriadwyd

13. pwysigrwydd adolygu a diweddaru cynlluniau datblygu personol yn rheolaidd yn sgil perfformiad, unrhyw weithgareddau dysgu a chyflawnwyd ac unrhyw newidiadau ehangach

14. sut i ystyried deddfwriaeth cydraddoldeb, unrhyw godau ymarfer perthnasol a materion amrywiaeth a chynhwysiant cyffredinol wrth gynnig cyfleoedd dysgu i gydweithwyr

15. sut i annog pobl i gymryd cyfrifoldeb am ddysgu a datblygiad eu hun, yn cynnwys adlewyrchu ar eu perfformiad eu hun

16. ffynonellau arbenigedd ar gyfer adnabod a darparu cyfleoedd dysgu i gydweithwyr

17. gofynion y diwydiant/sector ar gyfer datblygu neu gynnal dealltwriaeth, sgiliau a chymhwysedd

18. materion dysgu a chynlluniau a threfniadau sy'n gymwys yn y diwydiant/sector

19. diwylliant ac arferion gwaith y diwydiant/sector

Gwybodaeth a dealltwriaeth sy'n benodol i'r cyd-destun**

20. unigolion yn eich tîm, eu rolau, cyfrifoldebau, cymhwysedd a photensial

21. ble sydd angen gwella o ran dealltwriaeth, sgiliau a chymhwysedd yr unigolion

22. anghenion dysgu a nodwyd

23. yr arddulliau dysgu neu'r cyfuniad o arddulliau sy'n well gan unigolion

24. cynlluniau datblygu personol yr unigolion

25. y gweithgareddau ac adnoddau dysgu sydd ar gael yn/ar gyfer eich sefydliad

26. cyfleoedd yn eich sefydliad i unigolion ddatblygu eu gyrfa

27. cyfleoedd i ddefnyddio'r cymhwysedd maent yn ei ddatblygu, yn y gweithle

28. y gefnogaeth a goruchwyliaeth sydd ar gael i unigolion yn eich sefydliad

29. y ffynonellau arbenigedd sydd ar gael ar gyfer adnabod a darparu cyfleoedd dysgu a datblygu i unigolion

30. polisi ac arferion eich sefydliad ynghylch dysgu a datblygiad personol a phroffesiynol

31. polisïau eich sefydliad ynghylch cydraddoldeb ac amrywiaeth

32. systemau gwerthuso perfformiad eich sefydliad.​


Cwmpas/ystod


Cwmpas Perfformiad


Gwybodaeth Cwmpas


Gwerthoedd


Ymddygiadau

Wrth berfformio i'r saf​on hon, rydych yn debygol o ymddwyn fel y ganlyn:

1. Manteisio ar gyfleoedd a godir gan amrywiaeth pobl

2. Adnabod newidiadau  i amgylchiadau yn ddi-oed ac addasu cynlluniau a gweithgareddau fel sy'n briodol

3. Dod o hyd i ddulliau ymarferol o oresgyn rhwystrau

4. Dangos empathi tuag at anghenion, teimladau a chymhellion eraill a chymryd diddordeb byw yn eu pryderon

5. Cefnogi eraill i wneud defnydd effeithiol o'u gallu

6. Cydnabod cyrhaeddiad a llwyddiannau eraill

7. Datblygu dealltwriaeth, sgiliau a pherfformiad mewn ffordd systematig

8. Ysbrydoli eraill i ddangos awydd i ddysgu

9. Dangos gonestrwydd, tegwch a chysondeb wrth wneud penderfyniadau

10. Gwrthod ceisiadau afresymol

11. Delio â materion perfformiad yn ddi-oed a'u datrys yn uniongyrchol â'r bobl berthnasol

12. Cytuno'n glir beth y disgwylir gan eraill a'u dwyn i gyfrif 


Sgiliau

Wrth berfformio i'r safon hon, rydych yn debygol o ddangos y sgiliau canlynol:

1. Hyfforddi

2. Cyfathrebu

3. Gwneud penderfyniadau

4. Dirprwyo

5. Dangos empathi

6. Rhoi pŵer

7. Gwerthuso

8. Ysbrydoli

9. Cynnwys eraill

10. Arwain drwy esiampl

11. Mentro

12. Monitro

13. Ysgogi

14. Perswadio

15. Cynllunio

16. Datrys problemau

17. Rhoi adborth

18. Holi

19. Adolygu

20. Pennu amcanion

21. Meddwl yn strategol

22. Gwerthfawrogi a chefnogi eraill​


Geirfa


Dolenni I NOS Eraill


Cysylltiadau Allanol


Fersiwn rhif


Dyddiad Adolygu Dangosol

30 Maw 2015

Dilysrwydd

Ar hyn o bryd

Statws

Gwreiddiol

Sefydliad Cychwynnol

Skills CFA

URN gwreiddiol

CFAM&LDC2

Galwedigaethau Perthnasol

Rheolwyr ac Uwch Swyddogion, Galwedigaethau marchnata, Arweinydd Tîm, Rheolwr Cyfleusterau Anhafaledd;

Cod SOC


Geiriau Allweddol

Rheolaeth & arweiniad; cefnogaeth; dysgu a datblygu; Marchnata