Recriwtio, dethol a chadw pobl

URN: SKASS17 (CFAM&LDA2)
Sectorau Busnes (Suites): Rheolaeth & Arweiniad,Technoleg Anifeiliaid,Rheolaeth Lleoliadaol Diwyllisnnol a Threftadaeth
Datblygwyd gan: SkillsActive
Cymeradwy ar: 01 Maw 2012

Trosolwg

Mae'r safon hon yn ymwneud â recriwtio a dethol pobl i gyflawni gweithgareddau neu rolau o fewn eich maes cyfrifoldeb.


Nid yw'r safon hon ar gyfer arbenigwyr adnoddau dynol. Mae hi'n berthnasol i reolwyr ac arweinwyr sy'n gyfrifol am recriwtio a dethol pobl ar gyfer eu sefydliad neu faes cyfrifoldeb penodol.


Mae gan y safon hon gysylltiadau agos gyda CFAM&LDA1 Cynllunio'r gweithlu a CGAM&LDA2 Ymsefydlu unigolion i'w rolau.​


Meini prawf perfformiad

Mae'n rhaid eich bod chi'n gallu:

Rhaid eich bod chi'n gallu:**

*
*
1. ymgysylltu â phobl briodol o fewn eich sefydliad a rhanddeiliaid eraill wrth recriwtio a dethol

2. sicrhau eich bod yn cydymffurfio â pholisïau a gweithdrefnau recriwtio a dethol eich sefydliad

3. chwilio a defnyddio adnoddau arbenigol lle bo angen

4. adolygu'r gwaith i'w gwblhau yn eich maes cyfrifoldeb yn rheolaidd, gan adnabod unrhyw ddiffygion yn y nifer o bobl neu eu dealltwriaeth, sgiliau a chymhwysedd

5. adnabod a gwerthuso'r opsiynau ar gyfer mynd i'r afael ag unrhyw ddiffygion a ddarganfuwyd a phenderfynu ar yr opsiynau orau i'w cymryd

6. sicrhau argaeledd disgrifiadau swydd a manylebau person cyfredol pan fo angen recriwtio

7. sefydlu camau'r broses recriwtio a dethol ar gyfer swyddi gwag, y dulliau a ddefnyddir, yr amseru cysylltiedig â phwy fydd yn chwarae rhan

8. sicrhau bod unrhyw wybodaeth am y swyddi gwag yn deg, glir a chywir cyn ei ddosbarthu i ddarpar ymgeiswyr

9. drafftio meini prawf teg, clir ac addas er mwyn asesu a dethol ymgeiswyr, gan ystyried eu dealltwriaeth, sgiliau a chymhwysedd a'u potensial i weithio'n effeithiol â chydweithwyr

10. sicrhau bod y broses recriwtio a dethol yn cael ei chyflawni mewn ffordd deg, gyson ac effeithiol

11. sicrhau bod ymgeiswyr yn derbyn yr holl wybodaeth am ddatblygiad eu ceisiadau, yn unol â pholisi'r sefydliad

12. cynnig swyddi i ymgeiswyr sy'n bodloni orau'r gofynion

13. cynnig adborth clir, cywir ac adeiladol i ymgeiswyr aflwyddiannus, yn unol â pholisi'r sefydliad

14. gwerthuso llwyddiant y broses recriwtio a dethol ac adnabod unrhyw feysydd i'w gwella

15. ceisio cynnig cyfleoedd gwaith sy'n herio unigolion i wneud y defnydd orau o'u dealltwriaeth, sgiliau a chymhwysedd a chyflawni eu potensial

16. adolygu perfformiad a datblygiad unigolion yn systematig a rhoi adborth gyda'r bwriad o wella eu perfformiad

17. adnabod perfformiad unigolion ac adnabod eu llwyddiannau yn unol â pholisi eich sefydliad

18. helpu unigolion i werthfawrogi'r cyfleoedd i ddatblygu eu gyrfa ac i ddatblygu'n broffesiynol o fewn y sefydliad ac i gymryd mantais o'r cyfleoedd hyn

19. cynnig cyfleoedd i unigolion i drafod materion gyda chi ynghylch eu gwaith neu eu datblygiad

20. adnabod pan fod unigolion yn anfodlon a'u gwaith neu eu datblygiad a gweithio gyda nhw i ddod o hyd i atebion sy'n bodloni anghenion yr unigolyn a'r sefydliad

21. adnabod pan nad yw gwerthoedd, cymhellion neu ddyheadau unigolion yn cyfateb i weledigaeth, amcanion a gwerthoedd eich sefydliad a chwilio am ffyrdd eraill i ddatrys hyn gyda'r unigolion dan sylw

22. trafod gydag unigolion eu rhesymau dros adael eich sefydliad a cheisio datrys unrhyw broblemau neu gamddealltwriaeth​


Gwybodaeth a Dealltwriaeth

You need to know and understand:

Gwybodaeth a dealltwriaeth gyffredinol**

*
*
1. sut i ymgysylltu gweithwyr a rhanddeiliaid eraill wrth recriwtio a dethol

2. sut i adolygu'r llwyth gwaith yn eich maes er mwyn adnabod diffygion yn y nifer o gydweithwyr a'r ddealltwriaeth, sgiliau a chymhwysedd sydd ar gael

3. sut i adnabod gwir sgiliau ac osgoi ystrydebu ynghylch lefelau sgiliau a moeseg gwaith

4. opsiynau gwahanol ar gyfer mynd i'r afael â diffygion a'r manteision ac anfanteision cysylltiedig

5. beth y dylid eu cynnwys mewn disgrifiadau swydd a manylebau person a pham bod hi'n bwysig ymgynghori ag eraill wrth eu cynhyrchu neu eu diweddaru

6. y camau gwahanol yn y broses recriwtio a dethol a pham bod hi'n bwysig ymgynghori ag eraill ynghylch y camau, y dulliau recriwtio a dethol i'w defnyddio, amseru cysylltiedig â phwy fydd yn chwarae rhan

7. y wahanol ddulliau o recriwtio a dethol a'u manteision ac anfanteision cysylltiedig

8. pam bod hi'n bwysig rhoi gwybodaeth deg, glir a chywir am swyddi gwag i ddarpar ymgeiswyr

9. sut y gall gwahaniaethau diwylliannol o ran iaith, iaith y corff, tôn y llais a gwisg bod yn wahanol i ddisgwyliadau

10. sut i fesur cymhwysedd a gallu ymgeiswyr ac asesu a ydynt yn bodloni'r gofynion penodedig ar gyfer y swydd

11. sut i ystyried materion cydraddoldeb, amrywiaeth a chynhwysiant wrth recriwtio a dethol pobl a chadw cydweithwyr, yn cynnwys deddfwriaeth ac unrhyw godau ymarfer perthnasol

12. pwysigrwydd sicrhau bod ymgeiswyr yn derbyn gwybodaeth am ddatblygiad eu cais a sut i wneud hynny

13. pwysigrwydd rhoi adborth clir, cywir ac adeiladol i ymgeiswyr aflwyddiannus a sut i wneud hynny

14. sut i adolygu effeithiolrwydd recriwtio a dethol yn eich maes

15. technegau gwrando a chwestiynu gweithredol

16. pwysigrwydd adnabod perfformiad unigolion a sut i wneud hynny

17. pwysigrwydd cynnig cyfleoedd i unigolion i drafod materion gyda chi

18. dulliau eraill y gellir eu defnyddio i helpu pan fod gwerthoedd, cymhellion a dyheadau unigolion yn anghydnaws â'u gwaith neu weledigaeth, amcanion a gwerthoedd eich sefydliad

19. pwysigrwydd deall rhesymau unigolion dros adael sefydliad

Gwybodaeth a dealltwriaeth sy'n benodol i'r diwydiant/sector**

*
*
20. materion recriwtio a dethol a chynlluniau a threfniadau sy'n benodol i'r diwydiant/sector

21. diwylliant ac arferion gwaith y diwydiant/sector

Gwybodaeth a dealltwriaeth sy'n benodol i'r cyd-destun**

*
*
22. unigolion yn eich maes cyfrifoldeb, eu rolau, cyfrifoldebau, cymhwysedd a photensial

23. gofynion gwaith yn eich maes

24. cynlluniau gweithredu a newidiadau y cytunwyd arnynt yn eich maes

25. cyfradd trosiant staff yn eich maes

26. disgrifiadau swydd a manylebau person ar gyfer swyddi gwag wedi'u cadarnhau

27. y sefyllfa yn y farchnad lafur leol

28. strwythur, gwerthoedd a diwylliant eich sefydliad

29. polisïau ac arferion cyflogi o fewn eich sefydliad – yn cynnwys recriwtio, dethol, cyfnod sefydlu, datblygu, dyrchafiad, cadw staff, diswyddo (redundancy), diswyddo (dismissal),  cyflog, a thelerau ac amodau eraill

30. yr adnoddau arbenigol sydd ar gael i gefnogi recriwtio, dethol a chadw, a sut i'w defnyddio


Cwmpas/ystod


Cwmpas Perfformiad


Gwybodaeth Cwmpas


Gwerthoedd


Ymddygiadau

Wrth berfformio i'r safon hon, rydych yn debygol o ymddwyn fel y ganlyn:

1. Manteisio ar gyfleoedd a godir gan amrywiaeth pobl

2. Adnabod anghenion gwybodaeth eraill

3. Cyflwyno gwybodaeth mewn ffordd glir, gryno a chywir ac mewn ffyrdd sy'n hyrwyddo dealltwriaeth

4. Hysbysu pobl am gynlluniau a datblygiadau yn ddi-oed

5. Rhoi adborth i eraill i'w helpu i gynnal a gwella eu perfformiad

6. Cydymffurfio ag a sicrhau bod eraill yn cydymffurfio â gofynion cyfreithiol, rheoliadau diwydiannol, polisïau sefydliadol a chodau proffesiynol

7. Gweithredu o fewn terfynau'ch awdurdod

8. Dangos gonestrwydd, tegwch a chysondeb wrth wneud penderfyniadau

9. Gwarchod cyfrinachedd a diogelwch gwybodaeth

10. Gwirio cywirdeb a dilysrwydd gwybodaeth

11. Gwneud a gweithredu penderfyniadau anodd ac/neu amhoblogaidd, lle bo angen​


Sgiliau

Wrth berfformio i'r safon hon, rydych yn debygol o ddangos y sgiliau canlynol:

1. Cyfathrebu

2. Ymgynghori

3. Gwneud penderfyniadau

4. Gwerthuso

5. Rheoli gwybodaeth

6. Cyfweld

7. Monitro

8. Cyd-drafod

9. Casglu adborth

10. Cynllunio

11. Cyflwyno gwybodaeth

12. Datrys problemau

13. Rhoi adborth

14. Adolygu

15. Adeiladu tîm

16. Gwerthfawrogi a chefnogi eraill​


Geirfa


Dolenni I NOS Eraill


Cysylltiadau Allanol


Fersiwn rhif


Dyddiad Adolygu Dangosol

30 Maw 2015

Dilysrwydd

Ar hyn o bryd

Statws

Gwreiddiol

Sefydliad Cychwynnol

Skills CFA

URN gwreiddiol

CFAM&LDA2

Galwedigaethau Perthnasol

Rheolwyr ac Uwch Swyddogion, Galwedigaethau Gwasanaethau Cwsmeriaid, Galwedigaethau gwasanaeth cwsmeriaid, Celfyddydau, Y Cyfryngau a Chyhoeddi, Llyfrgellwyr a Gweithwyr Proffesiynol Perthnasol, Crefftau, Celfyddydau creadigol a dylunio, Rheolwyr Ansawdd a Gofal Cwsmeriaid, Galwedigaethau Artistig a Llenyddol, Galwedigaethau marchnata, Rheolwr Gweithrediadau; , Rheolwr Cyfleusterau Anhafaledd;

Cod SOC


Geiriau Allweddol

Rheolaeth & arweiniad; recriwtio; dethol; cadw; pobl; Marchnata; lleoliad;