Rheoli diogelwch pobl mewn digwyddiadau i wylwyr

URN: SKASS15
Sectorau Busnes (Suites): Diogel wch Gwylwyr
Datblygwyd gan: SkillsActive
Cymeradwy ar: 31 Maw 2019

Trosolwg

Mae'r safon hon yn ymwneud â sicrhau diogelwch cyffredinol mewn digwyddiad, gwirio'r lleoliad a'r holl ddarpariaeth er mwyn sicrhau ei fod yn cydymffurfio gyda mesurau rheoli wedi'u cynllunio a gofynion cyfreithiol a chyfundrefnol, gan reoli'r rhain yn ystod y digwyddiad. Prif ddeilliannau'r safon hon ydy: 1. Sicrhau fod y lleoliad ac adnoddau wedi'u trefnu cyn y digwyddiadau 2. Monitro a chydlynu mesurau cyfundrefnol yn ystod digwyddiadau

Mae'r safon hon ar gyfer staff sy'n meddu ar gyfrifoldeb cyffredinol dros ddiogelwch y cyhoedd mewn digwyddiadau i wylwyr a mannau poblog.


Meini prawf perfformiad

Mae'n rhaid eich bod chi'n gallu:

****
**Sicrhau bod y lleoliad a'r adnoddau yn barod cyn y digwyddiadau** 1. archwilio'r lleoliad a'r adnoddau   2.  gweithredu pan fo'r ddarpariaeth ddim yn bodloni'r safonau gofynnol a chofnodi'r canlyniad 3.  gwrthwynebu unrhyw ddylanwadau a phwysau gan **rhanddeiliaid** a ffactorau amgylcheddol sy'n peryglu diogelwch 4.  gwirio cynllun y digwyddiad gan gadarnhau fod yr holl gyfrifoldebau dirprwyedig mewn lle 5. cwblhau'r holl ddogfennau yn unol â'r gweithdrefnau cyfundrefnol   **Monitro a chydlynu mesurau cyfundrefnol yn ystod digwyddiadau** 6.  gwirio fod lleoliad a gweithrediad yr adnoddau yn cydymffurfio â'r gweithdrefnau cyfundrefnol 7.  monitro'r wybodaeth sydd ar gael a chofnodi unrhyw sefyllfaoedd y tu hwnt i gyfyngiadau derbyniol 8. gwirio'r wybodaeth hon o ran cywirdeb ac arwyddocâd   9.  gweithredu fel ymateb i wybodaeth rydych wedi'i derbyn 10. cofnodi eich gweithrediadau a rhesymeg yn y cofnod penderfyniadau   11. rhoi cynlluniau mewn argyfwng ar waith pan fo rhywbeth yn mynd o'i le 12. rhoi gwybod i **randdeiliaid** am sefyllfaoedd yn ymwneud â'u maes cyfrifoldeb nhw gan ddilyn y gweithdrefnau sydd wedi'u cytuno 13. cadw **cofnodion** o'r holl wybodaeth a phenderfyniadau
14. adrodd yn ôl i'r holl **rhanddeiliaid**

Gwybodaeth a Dealltwriaeth

You need to know and understand:


**Gofalu bod y lleoliad a'r adnoddau yn barod cyn y digwyddiadau** 1.  yr holl ofynion cyfreithiol, statudol a chyfundrefnol ar gyfer rheoli diogelwch mewn digwyddiadau i wylwyr 2.  gweithdrefnau ar gyfer gwirio parodrwydd lleoliadau ac adnoddau 3.  y mathau o broblemau gall godi yn ymwneud â darpariaeth a sut i fynd i'r afael â nhw 4.  lleoliad a chynnwys holl gynlluniau'r digwyddiadau gan gynnwys cynlluniau mewn argyfwng  5.  pwysigrwydd gofalu bod yr holl ddarpariaeth yn cydymffurfio gyda gweithdrefnau cyfundrefnol a gofynion cyfreithiol a statudol 6.  yr amgylchiadau lle gall **dylanwadau a phwysau** eu gweithredu er mwyn gofalu caiff y digwyddiad ei gynnal heb ddarpariaeth ddigonol a sut i fynd i'r afael â'r rhain 7.  pwysigrwydd newidynnau amgylcheddol a sut gallan nhw beryglu diogelwch 8.  cyfrifoldebau wedi'u dirprwyo i eraill a sut i wirio bod y rhain wedi'u deall ac mewn lle 9.  y dogfennau sydd angen eu cwblhau a sut i'w cwblhau **Monitro a chydlynu mesurau cyfundrefnol yn ystod digwyddiadau** ** ** 10. adnoddau sydd ar gael ar gyfer y digwyddiad 11. dulliau o wirio'n rheolaidd bod adnoddau a gweithdrefnau cyfundrefnol yn cydymffurfio gyda chynlluniau a gofynion 12. sut i fonitro'r wybodaeth sydd ar gael ac adnabod sefyllfaoedd gwirioneddol a dichonol 13. y mathau o wybodaeth i'w monitro yn ystod y digwyddiad, pwy fydd yn cyflwyno'r wybodaeth a sut i'w fonitro 14. dulliau ar gyfer asesu gwybodaeth gaiff ei dderbyn o ran cywirdeb ac arwyddocâd 15. sut i gynnal asesiadau risg a gweithredu gweithdrefnau gan gynnwys asesiad risg dynameg 16. mesurau rheoli priodol 17. pryd a sut i weithredu cynlluniau mewn argyfwng 18. y gweithdrefnau wedi'u cytuno er mwyn hysbysu **rhanddeiliaid** perthnasol yn syth bin am sefyllfaoedd sydd wedi codi yn eu maes cyfrifoldeb nhw 19. y gweithdrefnau wedi'u cytuno yn ymwneud â chyfathrebu 20. pwysigrwydd cofnodi'r holl wybodaeth a phenderfyniadau yn gyflawn ac yn gywir 21. dulliau adrodd yn ôl i'r holl **rhanddeiliaid** perthnasol   22. pwysigrwydd gwerthuso effeithiolrwydd y gweithdrefnau cyfundrefnol a dysgu gwersi ar gyfer digwyddiadau yn y dyfodol

Cwmpas/ystod


GWYBODAETH YCHWANEGOL

Cydraddoldeb ac Amrywiaeth

Mae disgwyl y bydd gan fudiadau weithdrefnau a chanllawiau i'w staff stiwardio gydymffurfio gyda nhw a fydd yn bodloni'r gofynion canlynol o leiaf:

  • anghenion corfforol amrywiol
  • anghenion diwylliannol amrywiol
  • anghenion ieithyddol
  • credoau

Diogelwch, Amddiffyn a Gwasanaeth

Mae disgwyl caiff yr holl wasanaethau mewn digwyddiadau gyda gwylwyr ac mewn mannau poblog eu cyflawni yn unol â'r mesurau isod:

Mesurau diogelwch: unrhyw fesur a gaiff eu dylunio a'u rhoi ar waith gyda'r prif nod o ddiogelu iechyd a lles yr holl grwpiau cleient sy'n mynychu, neu'n cymryd rhan mewn digwyddiadau.

Mesurau amddiffyn: unrhyw fesur a gaiff eu dylunio a'u rhoi ar waith gyda'r prif nod o atal, lleihau'r risg a/neu ymateb i unrhyw weithgareddau troseddol neu anghyfreithlon neu aflonyddwch yn gysylltiedig â'r digwyddiadau.

Mesurau gwasanaeth: unrhyw fesur a gaiff eu dylunio a'u rhoi ar waith gyda'r prif nod  o ofalu bod yr holl grwpiau cleient yn teimlo'n gyfforddus, wedi'u gwerthfawrogi a bod croeso iddyn nhw pan maen nhw'n mynychu digwyddiadau.

Lefelau Bygythiadau Terfysgaeth ym Mhrydain

Mae disgwyl bod uwch stiwardiaid, swyddogion diogelwch a staff tebyg sy'n meddu ar gyfrifoldeb cyffredinol dros ddiogelwch ac amddiffyniaeth digwyddiadau yn gyfarwydd gyda'r lefelau bygythiadau terfysgaeth cyfredol ym Mhrydain.

Mae'r lefel o fygythiad yn dynodi tebygolrwydd o ymosodiad terfysgol ym Mhrydain. Mae 5 lefel o fygythiadau:

  • ISEL – mae ymosodiad yn annhebygol  
  • CYMEDROL- mae ymosodiad yn bosib ond nid ydyw'n debygol
  • SYLWEDDOL – mae ymosodiad yn bosib iawn
  • DIFRIFOL – mae ymosodiad yn debygol iawn
  • ARGYFYNGUS – mae disgwyl y bydd ymosodiad ar ddigwydd

Caiff y lefel ei bennu gan y Cyd-Ganolfan Dadansoddi Terfysgaeth a'r Gwasanaeth Diogelwch  (MI5). Does gan lefelau bygythiol ddim dyddiad dod i ben ond fe allan nhw newid ar unrhyw adeg wrth i wahanol wybodaeth fod ar gael i asiantiaid diogelwch.


Cwmpas Perfformiad

**Rhanddeiliaid  **(ymdrin â lleiafswm o 4) 1.  person sy'n gyfrifol am y digwyddiad (hyrwyddwr) 2.  gwasanaethau argyfwng 3.  awdurdod lleol 4.  rheolwr llinell 5.  staff y digwyddiad sy'n gyfarwydd gyda'r lleoliad 6.  staff y digwyddiad sydd ddim yn gyfarwydd gyda'r lleoliad 7.  contractwyr 8.  darparwyr cludiant **Cofnodion** (ymdrin â lleiafswm o 4) 1.  recordiadau CCTV 2.  cofnodion penderfyniadau 3.  datganiadau gan dystion 4.  nodiadau cyfarwyddo ac adrodd yn ôl 5.  archwiliadau cyn y digwyddiad 6.  cofnodion presenoldeb y staff

Gwybodaeth Cwmpas

**Dylanwadau a phwysau** 1.  dylanwadau a phwysau cyfundrefnol (mewnol) 2.  dylanwadau a phwysau rhanddeiliaid (allanol) **Rhanddeiliaid**  1.  person sy'n gyfrifol am y digwyddiad (hyrwyddwr) 2.  gwasanaethau argyfwng 3.  awdurdod lleol 4.  rheolwr llinell 5.  staff y digwyddiad sy'n gyfarwydd gyda'r lleoliad 6.  staff y digwyddiad sydd ddim yn gyfarwydd gyda'r digwyddiad 7.  contractwyr
  1.  darparwyr cludiant

Gwerthoedd


Ymddygiadau

Mae'r ymddygiadau canlynol wrth wraidd cyflenwi gwasanaethau yn y sector diogelwch i wylwyr. Mae'r ymddygiadau yn sicrhau bod y mudiad a'r unigolyn yn creu argraff dda ar y cleientiaid.

Mae'n rhaid ichi ddangos eich bod yn cyflawni'r canlynol yn gyson:

1.     Adnabod yr angen i fod yn hyblyg er mwyn dwyn i ystyriaeth amgylchiadau newidiol

2.     Addasu cynlluniau ac ymatebion fel bo'r angen

3.     Blaenoriaethu amcanion a gwaith cynllunio er mwyn manteisio ar y defnydd gorau posib o amser ac adnoddau 

4.     Gofalu bod amser i gefnogi eraill

5.     Cymryd cyfrifoldeb personol dros weithredu rhai pethau

6.     Dangos gonestrwydd, tegwch a chysondeb wrth wneud penderfyniadau

7.     Cytuno'n eglur ar beth a ddisgwylir gan bobl eraill a'u hystyried nhw'n gyfrifol am herio ymddygiad cymdeithasol er enghraifft.

8.     Ceisio deall disgwyliadau pobl ac unrhyw anghenion ychwanegol a medru bodloni'r rhain 

9.     Cymryd cyfrifoldeb dros ddiogelwch personol

10.   Cymryd balchder mewn cynnig gwasanaeth o safon

11.   Ymdrechu i fod yn wyliadwrus rhag bygythiadau a pheryglon posib

12.   Annog a chefnogi eraill i fanteisio i'r eithaf ar eu galluoedd.

13.   Defnyddio ystod o ddulliau arwain sy'n briodol i wahanol bobl a sefyllfaoedd

14.   Eirioli dros ddiogelwch a lles fel blaenoriaeth wrth gynllunio a rheoli digwyddiadau

15.   Cymryd balchder yn eich edrychiad a chydymffurfio gydag unrhyw godau gwisg gan y mudiad neu leoliad

16.   Cydymffurfio gyda chod ymddygiad y lleoliad

17.   Dangos eich gallu i gynnal cyfrinachedd

18.   Dangos ymwybyddiaeth o faterion diogelu

19.   Dangos dealltwriaeth o ofynion cyfreithiol sylfaenol yn ymwneud ag amrywioldeb a diogelwch


Sgiliau

Dyma restr o'r prif sgiliau a nodweddion cyffredinol sydd eu hangen er mwyn gofalu am ddiogelwch gwylwyr

  1. Gwrando a gweithredu 

  2. Cyfathrebu geiriol ac aneiriol effeithiol
  3. Dylanwadu ar ac argyhoeddi eraill
  4. Dirprwyo

  5. Diplomyddiaeth

  6. Empathi
  7. Rhoi grym i eraill
  8. Gallu i ddilyn cyfarwyddiadau
  9. Arwain drwy esiampl
  10. Gwydnwch
  11. Rheoli ymddygiad heriol
  12. Mentora
  13. Ysgogi eraill
  14. Trafod a chyfaddawdu
  15. Derbyn a chynnig adborth
  16. Cynllunio a gwerthuso

  17. Gosod amcanion
  18. Gwerthfawrogi a chefnogi eraill

Geirfa


Gweithdrefnau cyfundrefnol

Gweithdrefnau sy'n pennu ffordd caiff lleoliad ei weithredu o ddydd i ddydd. Gall ymdrin â'r canlynol ond nid ydyw wedi'i gyfyngu i hyn: cynllun stiwardio, cynllun meddygol, amserlen weinyddol cynnal a chadw ataliol wedi'i gynllunio, asesiad risg yn ymwneud â thân, gweithdrefnau ar ddydd y digwyddiad, cynlluniau mewn argyfwng, cyfrifiadau mwyafswm posib o bobl, cynlluniau safle a manylion cyfarpar diogelwch.  

Safonau a gweithdrefnau y cytunwyd arnyn nhw

Gweithdrefnau wedi'u cymeradwyo eisoes sy'n gofnod o weithrediadau'r lleoliad o ddydd i ddydd. Gall fod yn weithdrefnau gweithredu arferol, gweithdrefnau mewn argyfwng a chynlluniau wrth gefn. Mae hyn yn ymwneud â gofynion y lleoliad ynghyd â gofynion cyfundrefnol.


Dolenni I NOS Eraill

SKASS14, SKASS16, SKASS19, SKASS23, SKASS24


Cysylltiadau Allanol


Fersiwn rhif


Dyddiad Adolygu Dangosol

31 Maw 2024

Dilysrwydd

Ar hyn o bryd

Statws

Gwreiddiol

Sefydliad Cychwynnol

SkillsActive

URN gwreiddiol

SKASS15

Galwedigaethau Perthnasol

Swyddogion Iechyd a Diogelwch

Cod SOC

9275

Geiriau Allweddol

cynllun, cyhoeddus, diogelwch, digwyddiad, gwyliwr, lleoliad, peryglon, risgiau, rheolaeth, gweithdrefn, torf