Cynllunio ar gyfer diogelwch pobl mewn digwyddiadau i wylwyr

URN: SKASS14
Sectorau Busnes (Suites): Diogel wch Gwylwyr
Datblygwyd gan: SkillsActive
Cymeradwy ar: 31 Maw 2019

Trosolwg

Mae'r safon hon yn ymwneud â chynllunio er mwyn gofalu am ddiogelwch gwylwyr mewn digwyddiadau ac mewn mannau poblog. Mae'n ymdrin ag adnabod peryglon a bygythiadau, asesu'r risgiau ynghlwm a rhagnodi'r gweithdrefnau ar gyfer rheoli'r  rhain.

Prif ddeilliannau'r safon hon ydy:

  1. Cynllunio ar gyfer digwyddiadau

  2. Cynhyrchu, gweithredu, adolygu a gwerthuso cynlluniau

Mae'r safon hon ar gyfer staff sy'n meddu ar gyfrifoldeb cyffredinol dros ddiogelwch y cyhoedd mewn digwyddiadau i wylwyr a mannau poblog.


Meini prawf perfformiad

Mae'n rhaid eich bod chi'n gallu:

Cynllunio ar gyfer digwyddiadau

  1.  casglu'r holl wybodaeth am y lleoliad a'r digwyddiad

  2.  cyfrifo y mwyafswm o bobl all fod yn y lleoliad yn ddiogel

  3.  cynhyrchu gweithdrefnau yn ymwneud â'r digwyddiad yn unol â'r polisïau cyfundrefnol

  4.  trin a thrafod gyda rhanddeiliaid

  5.  asesu effaith gosodiadau dros dro ar gyfer y digwyddiad

Cynhyrchu, gweithredu, adolygu a gwerthuso cynlluniau

  1.  cytuno ar ddyletswyddau a chyfrifoldebau er mwyn cyflwyno'r cynllun gweithredol gyda'r prif randdeiliaid

  2.  dewis, blaenoriaethu a threfnu tasgau er mwyn bodloni'r amcanion hyn

  3.  asesu a phrisio'r adnoddau angenrheidiol

  4.  dilyn gweithdrefnau cyfundrefnol er mwyn asesu dylanwadau a phwysau mewnol ac allanol sy'n gysylltiedig â'ch cynllun.

  5.  asesu risgiau a goblygiadau yn ymwneud â'ch cynllun

  6.  cofnodi eich cynlluniau gweithredol

  7.  rhoi dulliau monitro a gwerthuso mewn lle 

  8.  cyflwyno eich cynlluniau drafft i randdeiliaid a phrif wneuthurwyr penderfyniadau

  9.  trafod newidiadau i'ch cynlluniau gweithredol yn sgil adborth gan y rhanddeiliaid

  10. cofnodi a gweithredu'r cynllun sydd wedi'i gytuno arno

  11. adolygu a diwygio cynlluniau yn unol ag anghenion y digwyddiad

  12. hysbysu'r rhanddeiliaid o unrhyw newidiadau i'r cynllun cytunedig.

  13. gwerthuso effeithiolrwydd ac effeithlonrwydd eich cynlluniau

  14. datblygu a chofnodi casgliadau ac argymhellion er mwyn gwella eich cynlluniau


Gwybodaeth a Dealltwriaeth

You need to know and understand:


Cynllunio ar gyfer digwyddiadau

  1.  yr holl ofynion cyfreithiol, statudol a chyfundrefnol yn ymwneud â rheoli diogelwch ac amddiffyniaeth mewn digwyddiadau a mannau poblog

  2.  mathau a ffynhonellau gwybodaeth i'w casglu, gan gynnwys gwybodaeth am ddigwyddiadau blaenorol a data hanesyddol

  3.  pa arweiniad sydd ar gael a ffactorau i'w hystyried er mwyn cyfrifo'r mwyafswm posib o bobl mewn lleoliad sy'n ddiogel.

  4.  sut i gyfrifo'r mwyafswm posib o bobl sy'n ddiogel gan defnyddio'r holl ddata sydd ar gael yn ymwneud â phobl yn cyrraedd a gadael y digwyddiad, eu symudiadau a gwasgariad.

  5.  pwysigrwydd cyfrifo'r mwyafswm posib o bobl sy'n ddiogel ar gyfer unrhyw ddigwyddiad.

  6.  pa arweiniad sydd ar gael er mwyn cynhyrchu polisïau a gweithdrefnau cyfundrefnol digwyddiadau

  7.  sut i gynhyrchu polisïau a gweithdrefnau cyfundrefnol ar gyfer digwyddiadau

  8.  y rhanddeiliaid ddylech chi ymwneud â nhw wrth ddatblygu cynlluniau

  9.  pwysigrwydd sefydlu cysylltiad parhaus gyda rhanddeiliaid

  10. pwysigrwydd ystyried goblygiadau gosodiadau'r digwyddiad

Cynhyrchu, gweithredu, adolygu a gwerthuso cynlluniau

  1. sut i ddewis adnoddau ar gyfer effeithlonrwydd ac effeithiolrwydd

12. sut i adnabod, asesu a phrisio math yr adnoddau a'r nifer angenrheidiol ar gyfer pob digwyddiad

  1. y mathau o ddylanwadau a phwysau sy'n gysylltiedig â chynlluniau gweithredol  a sut i asesu a rheoli'r rhain 

14.  y mathau o risgiau ynghlwm â chynlluniau gweithredol a sut i asesu a rheoli'r rhain

  1. pwysigrwydd ennill cefnogaeth rhanddeiliaid ar gyfer eich cynlluniau

  2. dulliau o gofnodi eich cynllun mewn ffurf gytunedig

17. sut i weithredu'ch cynlluniau

18. pwysigrwydd adolygu a diwygio eich cynlluniau yn ddynamig gan gynnwys adolygu eu heffeithlonrwydd ac effeithiolrwydd.

  1. pam ei fod yn bwysig rhoi gwybod am newidiadau i'r cynllun a phwy ddylech chi eu hysbysu

20. dulliau hysbysu'r holl rhanddeiliaid am newidiadau i'r cynllun sydd wedi'i gytuno arno

21. ffyrdd o gofnodi casgliadau a datblygu argymhellion

  1. pwysigrwydd casglu adborth y rhanddeiliaid

  2. prosesau ar gyfer diweddaru a chynnal a chadw cynlluniau


Cwmpas/ystod


GWYBODAETH YCHWANEGOL

Cydraddoldeb ac Amrywiaeth

Mae disgwyl y bydd gan fudiadau weithdrefnau a chanllawiau i'w staff stiwardio gydymffurfio gyda nhw a fydd yn bodloni'r gofynion canlynol o leiaf:

  • anghenion corfforol amrywiol
  • anghenion diwylliannol amrywiol
  • anghenion ieithyddol
  • credoau

Diogelwch, Amddiffyn a Gwasanaeth

Mae disgwyl caiff yr holl wasanaethau mewn digwyddiadau gyda gwylwyr ac mewn mannau poblog eu cyflawni yn unol â'r mesurau isod:

Mesurau diogelwch: unrhyw fesur a gaiff eu dylunio a'u rhoi ar waith gyda'r prif nod o ddiogelu iechyd a lles yr holl grwpiau cleient sy'n mynychu, neu'n cymryd rhan mewn digwyddiadau.

Mesurau amddiffyn: unrhyw fesur a gaiff eu dylunio a'u rhoi ar waith gyda'r prif nod o atal, lleihau'r risg a/neu ymateb i unrhyw weithgareddau troseddol neu anghyfreithlon neu aflonyddwch yn gysylltiedig â'r digwyddiadau.

Mesurau gwasanaeth: unrhyw fesur a gaiff eu dylunio a'u rhoi ar waith gyda'r prif nod  o ofalu bod yr holl grwpiau cleient yn teimlo'n gyfforddus, wedi'u gwerthfawrogi a bod croeso iddyn nhw pan maen nhw'n mynychu digwyddiadau.

Lefelau Bygythiadau Terfysgaeth ym Mhrydain

Mae disgwyl bod uwch stiwardiaid, swyddogion diogelwch a staff tebyg sy'n meddu ar gyfrifoldeb cyffredinol dros ddiogelwch ac amddiffyniaeth digwyddiadau yn gyfarwydd gyda'r lefelau bygythiadau terfysgaeth cyfredol ym Mhrydain.

Mae'r lefel o fygythiad yn dynodi tebygolrwydd o ymosodiad terfysgol ym Mhrydain. Mae 5 lefel o fygythiadau:

  • ISEL – mae ymosodiad yn annhebygol  
  • CYMEDROL- mae ymosodiad yn bosib ond nid ydyw'n debygol
  • SYLWEDDOL – mae ymosodiad yn bosib iawn
  • DIFRIFOL – mae ymosodiad yn debygol iawn
  • ARGYFYNGUS – mae disgwyl y bydd ymosodiad ar ddigwydd

Caiff y lefel ei bennu gan y Cyd-Ganolfan Dadansoddi Terfysgaeth a'r Gwasanaeth Diogelwch  (MI5). Does dim dyddiad dod i ben ar gyfer lefel bygythiad, ond fe allan nhw newid ar unrhyw adeg wrth i wahanol wybodaeth fod ar gael i asiantiaid diogelwch.


Cwmpas Perfformiad

**** **Gwybodaeth** (ymdrin â phob un) 1.  natur y digwyddiad a rhaglen 2.  trefniadau cyrraedd a gadael ar gyfer grwpiau cleientiaid 3.  cynllun a strwythur y lleoliad, y mwyafswm posib o bobl a all fod yn y lleoliad a'r asesiadau risg presennol  **Gosodiadau'r digwyddiad** (ymdrin â phob un) 1.  gwasanaethau yn y lleoliad 2.  amgylchedd allanol a digwyddiadau eraill yn y cyffiniau 3.  niferoedd a mathau o bobl sy'n mynychu 4.  gwybodaeth cyn y digwyddiad – yr holl ffynonellau 5.  adnoddau sydd ar gael **Rhanddeiliaid** (ymdrin â lleiafswm o 4) 1.  person sy'n gyfrifol am y digwyddiad 2.  gwasanaethau argyfwng 3.  awdurdod lleol 4.  rheolwr llinell 5.  staff y digwyddiad sy'n gyfarwydd gyda'r lleoliad 6.  staff y digwyddiad sydd ddim yn gyfarwydd gyda'r lleoliad 7.  contractwyr 8.  darparwyr cludiant 9.  cymunedau lleol

Gwybodaeth Cwmpas


**Rhanddeiliaid** 1.  person sy'n gyfrifol am y digwyddiad 2.  rheolwyr y lleoliad 3.  gwasanaethau argyfwng 4.  cyrff rheoleiddiol 5.  rheolwr llinell 6.  staff y digwyddiad sy'n gyfarwydd gyda'r lleoliad 7.  staff y digwyddiad sydd ddim yn gyfarwydd gyda'r lleoliad 8.  contractwyr 9.  darparwyr cludiant **Dylanwadau a phwysau** 1. dylanwadau a phwysau cyfundrefnol (mewnol) 2. dylanwadau a phwysau rhanddeiliaid (allanol)

Gwerthoedd


Ymddygiadau

Mae'r ymddygiadau canlynol wrth wraidd cyflenwi gwasanaethau yn y sector diogelwch i wylwyr. Mae'r ymddygiadau yn gofalu bod y mudiad a'r unigolyn yn creu argraff dda ar y cleientiaid.

Mae'n rhaid ichi ddangos eich bod yn cyflawni'r canlynol yn gyson:

1.     Adnabod yr angen i fod yn hyblyg er mwyn dwyn i ystyriaeth amgylchiadau newidiol

2.     Addasu cynlluniau ac ymatebion fel bo'r angen

3.     Blaenoriaethu amcanion a gwaith cynllunio er mwyn gwneud y defnydd gorau posib o amser ac adnoddau 

4.     Gofalu bod amser i gefnogi eraill

5.     Cymryd cyfrifoldeb personol dros weithredu rhai pethau

6.     Dangos gonestrwydd, tegwch a chysondeb wrth wneud penderfyniadau

7.     Cytuno'n eglur ar beth a ddisgwylir gan bobl eraill a'u hystyried nhw'n gyfrifol am herio ymddygiad cymdeithasol er enghraifft.

8.     Ceisio deall disgwyliadau pobl ac unrhyw anghenion ychwanegol a medru bodloni'r rhain 

9.     Cymryd cyfrifoldeb dros ddiogelwch personol

10.   Cymryd balchder mewn cynnig gwasanaeth o safon

11.   Ymdrechu i fod yn wyliadwrus rhag bygythiadau a pheryglon posib

12.   Annog a chefnogi eraill i fanteisio i'r eithaf ar eu galluoedd.

13.   Defnyddio ystod o ddulliau arwain sy'n briodol i wahanol bobl a sefyllfaoedd

14.   Eirioli dros ddiogelwch a lles fel blaenoriaeth wrth gynllunio a rheoli digwyddiadau

15.   Cymryd balchder yn eich edrychiad a chydymffurfio gydag unrhyw godau gwisg gan y mudiad neu leoliad

16.   Cydymffurfio gyda chod ymddygiad y lleoliad

17.   Dangos eich gallu i gynnal cyfrinachedd

18.   Dangos ymwybyddiaeth o faterion diogelu

19.   Dangos dealltwriaeth o ofynion cyfreithiol sylfaenol yn ymwneud ag amrywioldeb a diogelwch


Sgiliau

Dyma restr o'r prif sgiliau a nodweddion cyffredinol sydd eu hangen er mwyn gofalu am ddiogelwch gwylwyr

  1. Gwrando a gweithredu 

  2. Cyfathrebu geiriol ac aneiriol effeithiol
  3. Dylanwadu ar ac argyhoeddi eraill
  4. Dirprwyo

  5. Diplomyddiaeth

  6. Empathi
  7. Rhoi grym i eraill
  8. Gallu i ddilyn cyfarwyddiadau
  9. Arwain drwy esiampl
  10. Gwydnwch
  11. Rheoli ymddygiad heriol
  12. Mentora
  13. Ysgogi eraill
  14. Trafod a chyfaddawdu
  15. Derbyn a chynnig adborth
  16. Cynllunio a gwerthuso

  17. Gosod amcanion

  18. Gwerthfawrogi a chefnogi eraill

Geirfa



Cynlluniau mewn argyfwng

Dylai'r cynlluniau mewn argyfwng drafod ymateb strwythurol a graddedig gyda chanllawiau eglur ynglyn â'r mesurau i'w mabwysiadu mewn amgylchiadau penodol, gan ddwyn i ystyriaeth ffactorau mewnol ac allanol yn benodol i'r cae chwaraeon unigol (fel caiff ei ddisgrifio yn 6ed argraffiad y Canllaw Gwyrdd).

Gosodiadau'r Digwyddiad

Cynnyrch dros dro (seddi, pebyll, cabanau, pontydd, unedau arlwyo, generaduron ac ati) angenrheidiol er mwyn cynnal digwyddiad. 

*
*


Gweithdrefnau cyfundrefnol

Gweithdrefnau sy'n pennu ffordd caiff lleoliad ei weithredu o ddydd i ddydd. Gall ymdrin â'r canlynol ond nid ydyw wedi'i gyfyngu i hyn: cynllun stiwardio, cynllun meddygol, amserlen weinyddol cynnal a chadw ataliol wedi'i gynllunio, asesiad risg yn ymwneud â thân, gweithdrefnau ar ddydd y digwyddiad, cynlluniau mewn argyfwng, cyfrifiadau mwyafswm posib o bobl, cynlluniau safle a manylion cyfarpar diogelwch.  

Dogfennau canllaw perthnasol

Dogfennau cynghori fel y Canllaw Diogelwch ar Gaeau Chwarae (y 'Canllaw Gwyrdd'), Canllaw Diogelwch Digwyddiadau neu Ganllaw Mannau Poblog NaCTSO.

Mwyafswm posib o bobl sy'n ddiogel mewn lleoliad

Y mwyafswm o bobl a all gael eu derbyn mewn lleoliad ac sydd wedi'i gyfrifo yn unol â chanllaw wedi'i gyhoeddi yn defnyddio safonau wedi'u cyhoeddi.


Dolenni I NOS Eraill

SKASS15, SKASS16, SKASS19, SKASS23, SKASS24


Cysylltiadau Allanol


Fersiwn rhif


Dyddiad Adolygu Dangosol

31 Maw 2024

Dilysrwydd

Ar hyn o bryd

Statws

Gwreiddiol

Sefydliad Cychwynnol

SkillsActive

URN gwreiddiol

SKASS14

Galwedigaethau Perthnasol

Swyddogion Iechyd a Diogelwch

Cod SOC

9275

Geiriau Allweddol

cynllun, cyhoeddus, diogelwch, digwyddiad, gwyliwr, lleoliad, peryglon, risgiau, rheolaeth, gweithdrefncynllun, cyhoeddus, diogelwch, digwyddiad, gwyliwr, lleoliad, peryglon, risgiau, rheolaeth, gweithdrefn